Claf Covid-19 cyntaf Cymru'n annog pobl i fod yn bositif
- Cyhoeddwyd
Mae'r claf Covid-19 cyntaf yng Nghymru yn gobeithio y bydd ei wellhad yn ysbrydoli eraill is fod yn "bositif" trwy'r epidemig.
Aeth Mark Hosking, 53 o'r Mwmbwls ger Abertawe, yn s芒l yn dilyn gwyliau sg茂o yn Yr Eidal yn ystod gwyliau hanner tymor mis Chwefror.
Mae'n parhau i adfer adref ar 么l treulio mwy 'na pythefnos mewn ysbyty yn Llundain, gan gynnwys pedwar diwrnod mewn coma.
'Gofal gwych'
"Os ydych chi'n gallu cymryd eich amser ac ailadeiladu eich cryfder, mae yna fodd i chi fod y person yr oeddech chi o'r blaen unwaith eto," meddai.
"Rydych chi'n clywed cymaint o'r ochr arall ond rydych chi yn gallu dod trwyddo fe, felly arhoswch yn bositif. Mae'n rhaid i chi, does 'na ddim arall i'w wneud.
"Os ydych chi mor s芒l bod rhaid i chi fynd i'r uned gofal dwys, wedyn mae'r gofal y maen nhw'n ei ddarparu yn wych."
Roedd Mr Hosking, sy'n gyfarwyddwr ar gwmni gwerthu, newydd ddychwelyd o daith sg茂o yn Lombardy - canolbwynt yr haint yn Yr Eidal - pan ddechreuodd deimlo'n wael.
Bu'n hunan ynysu ond aeth ei symptomau yn fwy difrifol ac ar 么l cael prawf positif am y feirws cafodd ei gludo i'r Royal Free Hospital yn Llundain.
Ond fe wnaeth ei gyflwr barhau i waethygu a chafodd penderfyniad ei wneud i'w rhoi mewn coma.
'Y claf mwyaf s芒l sydd gyda ni'
"Daeth y doctoriaid i mewn a dweud 'rydyn ni'n mynd i'ch rhoi chi mas nawr a rhoi chi ar beiriant anadlu'," meddai Mr Hosking.
"Dyna oedd y peth yr oeddwn i'n ofni fwyaf, achos does dim syniad 'da chi o beth sy'n digwydd ac mae yna bob cyfle y byddech chi ddim yn dod n么l.
"Digwyddodd e gyd mor gyflym, mae e fel golau yn mynd mas. Does gen i ddim cof o unrhyw beth, ro'n i wedi mynd."
Dim ond clod oedd gan Mr Hosking am y modd roedd ei wraig Gemma yn cael ei diweddaru am y sefyllfa'n gyson.
Pan ofynnodd hi iddyn nhw pa mor wael oedd ei g诺r, dywedon nhw, "fe yw'r claf mwyaf s芒l sydd gyda ni".
Chwe wythnos ar 么l gadael yr ysbyty, mae ei anadlu yn gwella yn araf ond mae'n dal yn blino yn gyflym.
"Ces i fy ngorchymyn i gymryd fy amser ac i beidio disgwyl bod n么l i ffitrwydd llawn yn glou," meddai Mr Hosking.
"Roeddwn i'n teimlo'n fregus iawn, yn wan iawn, ac roedd hyd yn oed gadael yr ysbyty yn rhyfedd. Roedd gadael diogelwch yr ysbyty yn rhywbeth mawr.
"Mae yna nifer o broblemau meddyliol i feddwl amdanyn nhw er mwyn dod a'ch hunain n么l mewn i'r byd, ond roedd y byd wedi newid llawer o pan es i mewn i'r ysbyty."
Roedd y DU yn dal yn y cyfnod lle'r oedd yr awdurdodau yn cysylltu gyda chysylltiadau agos achosion newydd pan ddaeth cadarnhad bod Mr Hosking wedi profi'n bositif am Covid-19.
Fe wnaeth hynny, yn ei 么l e, sicrhau na ledaenodd y feirws ymhellach, oni bai am ei ferch 17 oed Ellen, gafodd symptomau ysgafn.
'Rhyw fath o normalrwydd'
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud y gall Llywodraeth Cymru dreialu ap fel sy'n digwydd ar Ynys Wyth yn ne Lloegr er mwyn dilyn trywydd y feirws.
"Sai'n gweld unrhyw reswm na ddylai'r boblogaeth gymryd rhan gyda'r apiau," meddai Mr Hosking.
"Byddai hynny yn rhywbeth da iawn i helpu ni fynd yn 么l i ryw fath o normalrwydd cyn gynted ag y gallwn ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2020