大象传媒

Rhybudd optegwyr: Angen cyfyngu amser sgr卯n plant

  • Cyhoeddwyd
Ymarfer corff gyda Joe WicksFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae plant yn gwneud gwaith cartref, cymdeithasu, ymlacio ac ymarfer corff gyda sgriniau yn ystod yr argyfwng

Mae 'na rybudd i rieni fod yn ofalus am faint o oriau mae eu plant yn treulio o flaen sgriniau yn ystod cyfyngiadau coronafeirws.

Yn 么l Coleg yr Optometryddion, mae 'na berygl bychan y gallai plant ddatblygu myopia - neu olwg byr - os ydyn nhw yn treulio gormod o amser o flaen sgr卯n.

Mae 'na bryder hefyd ymhlith optegyddion y gallai plant pedair a phump oed sydd 芒 gwendid ar eu golwg syrthio drwy'r rhwyd os na fydd y broses o sgrinio eu llygaid yn ailddechrau mewn ysgolion cyn hir.

"Does dim pryder mawr os yw oedolion yn edrych ar sgriniau yn hirach nag arfer, ond mae 'na bryder y gallai plant ddatblygu myopia," medd Daniel Hardiman-McCartney, cynghorydd clinigol o Goleg yr Optometryddion.

"Os oes plentyn ganddoch chi rhwng chwech a 13 oed, a'u bod yn gwneud eu gwaith cartref i gyd, ac yn cymdeithasu ar sgrin am oriau hefyd, mae'n bwysig eu bod yn treulio o leiaf dwy awr y dydd yn edrych ar bethau ymhell i ffwrdd."

Mae optegwyr yn dweud bod treulio amser yn yr awyr agored yn llesol i iechyd llygaid plant wrth i'w golwg ddatblygu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Mae llai o risg i blant ddatblygu golwg byr os ydyn nhw'n treulio lot o amser tu allan," meddai Rhodri Williams, optegydd yn Llandudno.

Gyda defnydd sawl un o sgriniau wedi cynyddu ers i'r cyfyngiadau cymdeithasol ddod i rym, mae optegwyr yn dweud bod mwy o risg i iechyd cyffredinol nag i iechyd llygaid, ond ei bod hi'n llesol i'r llygaid i gael saib o sgriniau yn rheolaidd.

Os oes rhaid gwylio sgr卯n, mae optegwyr yn dweud ei bod hi'n werth ystyried maint y sgr卯n.

"Bendant os fedri di gadw'r amser 'na lawr mae 'na fanteision i'r llygaid" meddai Dr Williams.

"Os oes gen ti'r cyfle o 'neud rhywbeth fatha gwylio ffilm, i'w wylio fo ar deledu ar ochr arall y stafell os oes gen ti gyfle i 'neud hynny, yn lle sb茂o ar dy ff么n.

"Y rheswm am hynny yw, os ti'n ffocysu yn agos drwy'r amser, mae'n gallu bod yn flinedig ar y llygaid.

"Hefyd os ti'n ifanc - o dan 15 - os ti'n sb茂o ar rywbeth yn agos am amser hir, mae'n gallu neud ti fynd yn short sighted."

Mae optegyddion yn cydnabod nad oes tystiolaeth i brofi hyn, gan nad oes modd gwneud arbrawf ar bobl mewn modd moesol.

Ffynhonnell y llun, Gareth Roberts Opticians
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhodri Williams (sefyll ail o'r dde) yn ei swyddfa gyda'i gyd-weithwyr

Pryder arall yw am blant oed dosbarth derbyn, gan eu bod fel arfer yn cael eu sgrinio mewn ysgolion am wendid ar eu llygaid.

"Os ti'n methu'r cyfle yna pan maen nhw'n bedair neu bump oed, mae 'na bosibilrwydd bo' nhw'n tyfu fyny hefo golwg gwan yn eu llygaid drwy eu hoes," meddai Dr Williams.

"Os ti'n bedair oed a phresgripsiwn gwahanol yn y llygaid - mae'n ddigon rhwydd i'w pigo fyny yn yr ysgol ac maen nhw'n mynd i'r 'sbyty a chael sbectol yn yr ysbyty.

"Ond ar hyn o bryd, tydi'r ysgolion, neu'r NHS ella, ddim yn neud y screening fel maen nhw fod i 'neud.

"Os na fydd plant yn mynd i'r ysgol am y chwe mis nesaf, mae rhywun yn gorfod dod fyny efo plan i 'neud yn si诺r bod y screening 'ma yn digwydd. I 'neud yn si诺r bod y plant 'ma ddim yn cael eu methu."

Cyngor Coleg yr Optegwyr

I oedolion sy'n defnyddio mwy o'u tabled, ff么n neu liniadur nag arfer - neu'n gwylio mwy o'u hoff raglenni, mae gan y coleg brenhinol gyngor.

"Os oes gen ti sgr卯n, defnyddia'r un mwyaf," meddai Dr Hardiman-McCartney.

"Paid 芒'i ddefnyddio uwch dy ben, na'n gorwedd ar dy ochr. Byddai hynny'n fwy tebygol o achosi straen i dy lygaid.

"Os wyt ti yn dy 30au neu 40au yn enwedig, gwna'r 'sgrifen yn fwy a chymer saib rheolaidd bob 20 munud.

"Os wyt ti angen sbectol, paid cafflo, os yw optegydd wedi argymell sbectol i ti, defnyddia nhw."