Beth yw'r problemau wrth ailagor ysgolion yng Nghymru?
- Cyhoeddwyd
Wrth i ddisgyblion ddechrau dychwelyd i'r dosbarth mewn rhai rhannau o Ewrop, mae yna gwestiynau am sut y bydd ailagor ysgolion yn gweithio yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd pob disgybl yn dychwelyd ar yr un pryd, ac y bydd rhaid cael mesurau i ddiogelu staff a disgyblion.
Yn 么l prifathro un ysgol ym Maesteg, mae angen mwy o wybodaeth ar ysgolion cyn gallu gwneud trefniadau.
Mae rhai arbenigwyr yn dweud bod yr argyfwng yn cynnig cyfle i gyflwyno newidiadau sylfaenol i'r ffordd mae ysgolion yn gweithio.
Tair wythnos 'ddim yn ddigon'
Mae Meurig Jones, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, yn awyddus i weld y disgyblion n么l "mor glou 芒 phosib" ond dim ond ar 么l "cynllunio manwl a chlir."
"Mae 'na nifer o gwestiynau sydd heb eu hateb," meddai.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai ysgolion yn cael o leia' dair wythnos o rybudd cyn ailagor, ond yn 么l Mr Jones, dydy hynny ddim yn ddigon.
"Fel arfer mae 'na 650 o ddisgyblion yn dod i'r ysgol hon, ond mae'r llywodraeth wedi dweud mai yn raddol fydd disgyblion yn dychwelyd pan ddaw unrhyw gyhoeddiad.
"Mae angen i ni wybod sut bydd ein hadeiladau ni'n gallu cymryd y carfannau yma o blant mewn, a bo' ni'n cydymffurfio i'r rheolau sydd yn cael eu rhoi ar gyfer y pellter cymdeithasol," meddai.
"Ond hefyd mae'n rhaid i ni wybod faint o staff fydd gyda ni.
"Mae'n stafelloedd cyffredinol ni'n stafelloedd bychan iawn. Ni'n edrych wedyn ar dorri dosbarthiadau lan - does gennyn ni ddim y staff i wneud hynny."
Effaith ar y Gymraeg
Mae trafnidiaeth yn her arall.
"Mae 98% o'n plant ni'n dod i'r ysgol ar fws. Ble mae'r pellter cymdeithasol ar fysiau?" meddai Mr Jones.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Ailagor yn raddol fydd ysgolion yn 么l y llywodraeth, ac mae pennaeth Ysgol Llangynwyd yn gweld y ddadl dros roi blaenoriaeth i ddisgyblion sydd yng nghanol cyrsiau TGAU a Safon Uwch, ac i ysgolion Cymraeg hefyd.
Mae'n poeni y gallai cyfnod estynedig heb glywed na defnyddio'r Gymraeg gael effaith ar hyder y disgyblion ac o bosib ar eu cyrhaeddiad academaidd.
"Mae 'na gyfleoedd i ddefnyddio'r Saesneg yn fwy eang o fewn cymdeithas a falle bod angen rhoi mwy o gefnogaeth i'r rheiny lle nad oes yr un cyfleodd ar eu cyfer nhw mewn ardal fel hon," meddai.
'Cyfle i arbrofi'
Yn sicr, bydd ysgolion yn gorfod gweithredu mewn ffordd wahanol, ond mae rhai'n dweud bod angen cymryd y cyfle i wneud gwelliannau ar gyfer yr hirdymor.
Mae Dafydd Trystan yn aelod o banel arbenigol gafodd ei sefydlu gan y llywodraeth y llynedd i ystyried dyfodol ysgolion.
"Mae patrwm ysgolion yng Nghymru yn seiliedig ar fodel o 150 o flynyddoedd yn 么l," meddai.
"Mae'r tymhorau'n seiliedig ar dymhorau ffermydd."
Bu'r panel yn ystyried strwythur y flwyddyn a'r diwrnod ysgol a r么l ysgolion yn eu cymunedau.
"Yn y cyfnod yma mae e'n gyfle i arbrofi gyda gwahanol ffurfiau o ddyddiau ysgol, gyda phatrymau gwahanol, gyda dulliau gwahanol o gefnogi plant a'u teuluoedd," meddai Mr Trystan.
"Mae'n gyfle delfrydol yn fy marn i ystyried be allwn ni neud i osod ysgolion ar batrwm llawer mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol gobeithio."
Ymhlith y syniadau mwyaf perthnasol yw hyblygrwydd o ran tymhorau a diwrnodau ysgol sy'n cyd-fynd yn well gyda phatrymau gwaith, meddai Mr Trystan.
"Byddai angen adnoddau, byddai angen cyflunio staff yn addas i gefnogi hynny ond mae'r rheiny'n ddwy esiampl eithaf syml y gellid eu gweithredu yn bur gyflym a gwneud gwahaniaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2020
- Cyhoeddwyd3 Mai 2020
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2020