Achos Pen-y-graig: Cyhuddo menyw o lofruddio dyn 88 oed
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 29 oed wedi ymddangos mewn llys ar 么l cael ei chyhuddo o lofruddio dyn 88 oed wedi digwyddiad mewn siop yn y Rhondda.
Bu farw John Rees o Drealaw, Tonypandy ar 么l cael ei drywanu wrth siopa yn archfarchnad Co-op ym Mhen-y-graig brynhawn Mawrth.
Siaradodd Zara Anne Radcliffe, o ardal Porth, ond i gadarnhau ei henw a'i chyfeiriad mewn gwrandawiad byr o flaen ynadon yng Nghaerdydd ddydd Iau.
Cafodd ei chadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddi fynd o flaen Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.
Mae hi hefyd wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio tri pherson arall - Lisa Way, Gaynor Saurin ac Andrew Price.
Mae Mr Price mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ac fe gafodd y dioddefwyr arall f芒n anafiadau.
Roedd y mater wedi cael ei gyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, ond penderfynwyd ddydd Iau nad oedd angen ymchwiliad i Heddlu De Cymru.
Mewn teyrnged cafodd Mr Rees ei ddisgrifio fel "y diffiniad o ddyn da" gan ei deulu. Fe ddywedon nhw ei fod yn "uchel ei barch" o fewn y gymuned.
Cafodd hefyd ei ddisgrifio fel aelod "ymroddedig" o Eglwys yr Holl Saint yn Nhrealaw, ble bu'n canu'r clychau ar nosweithiau Iau i ddiolch i weithwyr allweddol yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Roedd e a'i wraig, Eunice, wedi bod yn aelodau o gyngor plwyf eglwysig yr eglwys.
Bydd clychau'r eglwys yn canu eto nos Iau, yn 么l llefarydd ar ran Yr Eglwys yng Nghymru.
Dywedodd Joy Rosser, aelod arall o'r eglwys a chynghorydd yn Nhrealaw, y bydd yn curo dwylo er cof amdano nos Iau.
Ychwanegodd: "Roedd John yn berson preifat iawn, yn 诺r wirioneddol fonheddig, yn ymroddgar i'w deulu ac yn ofalwr ffyddlon i'w wraig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020
- Cyhoeddwyd5 Mai 2020