Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymro yn arwain gwaith arloesol i ddeall Covid-19
- Awdur, Aled Price
- Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw
Mae Dr Steven Jones, sy'n hanu yn wreiddiol o fferm ger Llanbedr Pont Steffan, yn un o wyddonwyr mwyaf dylanwadol Canada.
O'i bencadlys yn Vancouver mae'n arwain canolfan ymchwil genetig blaenllaw.
Nawr mae'n wynebu her newydd ar frys. Yng nghanol y pandemig mae'n arwain ymdrech i geisio deall feirws Covid-19, ac mae galw mawr am ei arbenigedd.
Ei d卯m gwyddonol wnaeth adnabod cod genynnol feirws peryglus arall - SARS - yn 2003.
'Salwch gwahanol iawn'
Mewn cyfweliad 芒 Cymru Fyw dywedodd Dr Jones: "20 mlynedd bron ers SARS mae technoleg wedi newid ac roedd SARS yn salwch gwahanol iawn.
"Roedd SARS yn cael effaith ddifrifol ar bawb oedd yn dal y feirws, ond mae 'na bobl yn cerdded o gwmpas gyda Covid-19 heb unrhyw effaith, tra bo eraill yn s芒l iawn.
"Felly ein cwestiwn yw - beth sydd yn gwneud rhai pob yn sensitif i'r feirws? Ydy e'n rhywbeth i'w wneud 芒'r genomau?"
Mae llywodraeth Canada wedi ariannu gwaith ymchwil gwerth $20m gan Dr Jones a gwyddonwyr eraill er mwyn chwilio am atebion.
Bydd y labordai yn astudio DNA hyd at 10,000 o drigolion Canada sydd wedi cael prawf positif am Covid-19.
Mae'r ymchwilwyr yn disgwyl adnabod sut mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo, a pha bobl sydd yn debygol o ddioddef fwyaf o'r salwch - a'r cysylltiad rhwng hynny a geneteg gwahanol unigolion.
Eisoes mae'n amlwg bod y feirws yn cael mwy o effaith ar bobl h欧n, ond mae rhai pobl iau yn cael eu taro yn wael hefyd, a'r bwriad yw deall hynny yn well.
Mae'n debyg bydd patrymau genynnol yn help i ddeall ymddygiad y feirws.
'Brechlyn yw'r ffordd allan'
"Ni'n bwriadu rhannu ein data yn rhyngwladol, gan gynnwys prosiect genom Cymru," meddai Dr Jones.
"Y gobaith yw bod yn ein hymchwil yn helpu i gael triniaeth well i gleifion - ond yn y pen draw brechlyn yw'r ffordd allan o hyn."
Mae'n obeithiol bod hynny yn bosib.
"Does dim eglurhad rhesymegol pam na all y gymuned wyddonol ddatblygu brechlyn," meddai.
"Fy marn bersonol yw y gallai hyn fod yn bosib erbyn yn gynnar yn 2021."
- CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
- DYSGU: Sut i gadw'r plant yn brysur gartref
Ysbrydoliaeth Llambed ac Aberystwyth
Pan oedd yn blentyn ysgol yng Ngheredigion y datblygodd ddiddordeb Dr Jones mewn gwyddoniaeth wrth iddo gael ei fagu ar fferm Dolaugwyrddion ym Mhentrebach, ger Llanbedr Pont Steffan.
Ond ymweliad 芒 Bridfa Blanhigion Cymru, sy'n rhan o Brifysgol Aberystwyth, roddodd yr ysbrydoliaeth fwyaf iddo.
"Yr unig reswm rwy'n astudio coronafeirwsheddiw yw'r ymweliad yna," meddai Dr Jones.
"Rwy'n cofio mynd yno ar ymweliad ysgol a chael fy syfrdanu. Fe wnes i feddwl - 'Beth? Fedrwch chi wneud hyn fel job?!' Sef astudio DNA planhigion a deall sut mae planhigion gwahanol yn gweithio.
"Fy hoff bwnc yn Ysgol Gyfun Llambed oedd Bioleg ac roedd gen i athrawon wnaeth ysgogi fy niddordeb ymhellach.
"Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn dulliau ffermio hefyd. Fyddech chi'n medru gweld dau gae drws nesa i'w gilydd, ond roedden nhw'n wahanol iawn oherwydd geneteg yr hadau gwair gwahanol yno.
"Fe wnaeth hynny fy ysbrydoli i astudio biocemeg ymhellach ym Mryste, ac yna Vancouver."