Llifogydd yn taro rhannau o'r de yn dilyn stormydd
- Cyhoeddwyd
Mae cartrefi wedi cael eu heffeithio gan lifogydd ar 么l i stormydd daro rhannau o dde a gorllewin Cymru ddydd Sadwrn.
Cafodd pedwar adeilad eu difrodi yng Nghaerfyrddin, tra bod criwiau'r gwasanaeth t芒n ac achub hefyd wedi'u galw i ardal Gorseinon yn Abertawe.
Dywedodd trigolion yng Ngorseinon eu bod wedi synnu pa mor gyflym aeth y ffyrdd dan dd诺r.
Yn 么l y rhagolygon tywydd, dydd Sadwrn ydy'r diwrnod twym olaf am gyfnod, gyda'r tywydd wedi cyrraedd 25C yng Nghaerdydd a 20C yng Nghaernarfon, gan arwain at stormydd mewn rhai mannau.