Menyw o flaen llys ar gyhuddiad o lofruddio
- Cyhoeddwyd
Bydd achos llys menyw sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio dyn 88 oed yr wythnos diwethaf yn cael ei gynnal ym mis Hydref.
Ymddangosodd Zara Ann Radcliffe, 29 oed o'r Porth yn y Rhondda, o flaen rhith-wrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, trwy gyswllt fideo.
Mae hi wedi ei chyhuddo o lofruddio John Rees ac o geisio llofruddio tri pherson arall.
Dywedodd yr erlynydd Michael Jones QC wrth y llys fod y cyhuddiadau'n ymwneud 芒 digwyddiadau yn siop Co-op Heol Tylacelyn ym Mhen-y-graig ar ddydd Mawrth, 5 Mai.
Bu farw John Rees a chafodd Lisa Way, Gaynor Saurin ac Andrew Price eu hanafu.
Yn ymddangos trwy gyswllt fideo ac yn gwisgo crys chwys llwyd tywyll, cadarnhaodd Ms Radcliffe ei henw, cyfeiriad a'i dyddiad geni.
Bydd gwrandawiad pellach ar 11 Medi, ac mae'n debygol y bydd yr achos llawn yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 19 Hydref.
Cafodd y diffynnydd ei chadw yn y ddalfa.
Teyrnged nai
Yn y cyfamser mae nai Mr Rees, Michael Smith wedi disgrifio ei ewythr fel dyn "fyddai'n gwneud unrhyw beth ar gyfer unrhyw un" a dyn "oedd wastad yn barod i helpu pobl".
Dywedodd fod y newyddion wedi bod yn ergyd annioddefol i'r teulu.
"Mae fy modryb yn fregus ofnadwy. Roedd Eunice yn gwbl ddibynnol arno," meddai.
"Er ei fod e'n 88 roedd e'n iach yn gorfforol a byddai'n mynd 芒 hi i Bontypridd lle byddant yn eistedd yn y Prince's Cafe."
Mae pobl leol wedi codi dros 拢1,500 er cof am Mr Rees, gyda'r elw yn cael ei roi i weithwyr rheng flaen.
Roedd Mr Rees, oedd yn warden yn yr eglwys leol, yn canu'r clychau bod dydd Iau er mwyn dangos cefnogaeth i weithwyr yn ystod y pandemig Covid-19.
"Dwi ddim yn synnu," meddai Mr Smith wrth gyfeirio at yr arian. "Roedd gan bobl feddwl mawr ohono."