Rhai achosion llys i ailddechrau wythnos nesaf
- Cyhoeddwyd
Bydd achosion llys, sy'n cynnwys rheithgor, yn ailddechrau yng Nghymru a Lloegr yr wythnos nesaf - bron i ddeufis wedi iddynt ddod i ben am y tro yn sgil cyfyngiadau haint coronafeirws.
Ymhlith y llysoedd cyntaf, lle fydd rheithgor newydd yn tyngu llw, mae llys yr Old Bailey yn Llundain a Llys y Goron Caerdydd.
Mae gwaith asesu yn cael ei wneud ar gyfleusterau llysoedd eraill hefyd gyda'r bwriad i gynyddu nifer yr achosion pan mae'n ddiogel i wneud hynny.
Bydd trefniadau arbennig yn cael eu cyflwyno er mwyn sicrhau ymbellhau cymdeithasol a mesurau diogelwch eraill.
Dywedodd yr Arglwydd Brif Ustus Burnett: "Mae'n bwysig bod gweinyddu cyfiawnder yn parhau i ddigwydd pan yn bosib mewn amgylchedd diogel.
"Mae gwasanaeth y rheithgor yn rhan allweddol o gyfiawnder troseddol ac mae rheithwyr yn cyflawni dyletswyddau hanfodol."
Ystafell arall ar gyfer newyddiadurwyr
Er mwyn sicrhau ymbellhau cymdeithasol bydd ystafell arall yn cael ei darparu ar gyfer newyddiadurwyr a byddant yn gallu dilyn yr achos drwy edrych ar gamer芒u cylch cyfyng.
Bydd ystafell arall hefyd ar gyfer trafodaethau'r rheithgor.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd Amanda Pinto, cadeirydd Cyngor y Bar sy'n cynrychioli 18,000 o fargyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr bod "ystyriaeth ddwys wedi digwydd cyn dod i benderfyniad".
Dywedodd hefyd bod yr haint wedi cael "effaith andwyol" ar gyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr a bod angen pecyn cymorth gan y Trysorlys.
Mae Cyngor y Bar yn amcangyfrif na fydd 53% o fargyfreithwyr hunan-gyflogedig yn gallu cynnal eu hunain am chwe mis yn sgil yr haint oni bai bod San Steffan yn darparu cymorth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2020