Jess Fishlock wedi ystyried ymddeol oherwydd anaf pen-glin
- Cyhoeddwyd
Mae Jess Fishlock wedi datgelu iddi ystyried ymddeol o chwarae yn dilyn llawdriniaeth ar ei phen-glin.
Fe gafodd Fishlock, 33, ei hanafu wrth chwarae dros Reign FC yn Seattle yng nghynghrair yr Unol Daleithiau ym mis Gorffennaf 2019.
Bedwar mis yn ddiweddarach, roedd hi dal mewn poen sylweddol ac fe ddechreuodd gwestiynu os oedd ganddi'r nerth i geisio adennill ei ffitrwydd.
"Nes i ddim sylweddoli pa mor anodd fyddai'r cyfnod wedi'r llawdriniaeth," dywedodd wrth 大象传媒 Radio Wales.
"O'n i'n disgwyl bod mewn poen i ddechrau ac wedyn yn gallu dechrau gwneud ambell i beth ar 么l rhyw fis.
"Ond ar 么l tri neu bedwar mis, doeddwn i dal methu cerdded i lawr y grisiau yn iawn. Mae hynny'n gyfnod hir ac roedd o'n dipyn o ergyd."
Anelu am yr Euros
Dywedodd Fishlock, sydd wedi ennill mwy o gapiau nag unrhyw un dros Gymru, fod cefnogaeth ei theulu, ffrindiau a'i chlwb wedi bod yn hanfodol yn ystod y cyfnodau tywyll i adfer ei "chryfder meddwl".
Ac roedd cefnogaeth Rachel Rowe, cyd-aelod o d卯m Cymru sydd wedi dioddef yr un anaf, yn amhrisiadwy.
"Roeddwn i mor lwcus i gael Rachel," ychwanegodd Fishlock. "Nes i yrru gymaint o negeseuon ati.
"Chwarae teg iddi, roedd hi fel mentor i mi."
Mae Fishlock yn parhau i wella o'i chartref yn Seattle, dinas sydd hefyd dan gyfyngiadau tan ddiwedd mis Mai oherwydd y pandemig coronafeirws.
Y nod erbyn hyn, meddai, ydy ceisio cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2021 - sydd bellach wedi symud i 2022 - gyda Chymru.
Mae t卯m Jayne Ludlow yn ail yn y gr诺p rhagbrofol, gyda chwe g锚m yn weddill.
"Bydd pob penderfyniad nawr yn cael ei wneud gyda 2022 ac ymgyrch Cymru mewn meddwl," meddai.
"Dwi wedi bod yn ceisio cyrraedd rowndiau terfynol gyda Chymru drwy gydol fy ngyrfa.
"Dwi eisiau gwneud hynny mwy na dim byd arall a dyna'r cymhelliad sydd wedi helpu fi wella o'r anaf yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2019