大象传媒

Chwaraeon yng Nghymru yn aros am arweiniad ar ailddechrau

  • Cyhoeddwyd
Abertawe v CaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid yw Abertawe a Chaerdydd wedi chwarae yn y Bencampwriaeth ers 7 Mawrth.

Mae athletwyr a chlybiau Cymreig yn dal i ddisgwyl cael gwybod pryd bydd modd ailddechrau ymarfer.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dogfen ar gyfer campau yn Lloegr, yn amlinellu sut y dylai chwaraeon lefel uchaf ddychwelyd fesul cam.

Ond mae Llywodraeth Cymru eto i gyhoeddi sut y bydd chwaraeon elitaidd yn dychwelyd yma.

"Mae trafodaethau gyda Chwaraeon Cymru a Chymdeithas Chwaraeon Cymreig i archwilio sut y gall chwaraeon ailddechrau yn ddiogel," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

"Bydd y penderfyniad yn cael ei wneud ar sail y cyngor gwyddonol ac iechyd cyhoeddus diweddaraf ac yn cael ei ystyried fel rhan o gynlluniau Prif Weinidog Cymru."

Bydd athletwyr a phara-athletwyr Cymreig yn awyddus i gael ateb cynnar yngl欧n ag ailddechrau ymarfer gan fod eu cyfoedion yn Lloegr yn cael ailddechrau rhai gweithgareddau, cyn belled 芒'u bod yn cadw at reolau pellhau cymdeithasol.

Mae trafodaethau yn parhau yngl欧n 芒 chwblhau'r Bencampwriaeth, sydd yn cynnwys Abertawe a Chaerdydd, yng Nghynghrair P锚l-Droed Lloegr.

O ganlyniad mae Abertawe a Chaerdydd wedi gofyn am eglurder gan aelodau'r Senedd yngl欧n 芒 pha weithgareddau a ganiateir yn eu canolfannau ymarfer o dan reoliadau Cymreig.

Protocol

Mae'r Gynghrair B锚l Droed wedi gorfod dechrau trafod gyda Llywodraeth Cymru yngl欧n 芒'r clybiau Cymreig a'u gallu i ailddechrau ymarfer ar yr un pryd 芒 chlybiau Lloegr.

Mae protocol wedi cael ei ddarparu i glybiau a 25 Mai yw'r dyddiad sydd wedi ei glustnodi ar gyfer ailddechrau sesiynau hyfforddi,

UK Sport sydd wedi drafftio'r arweiniad ar gyfer Lloegr.

Mae disgwyl y bydd manylion ar gyfer ailddechrau chwaraeon elitaidd yng Nghymru yn cael eu cynnwys yng nghynlluniau y Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford, ddydd Gwener.