大象传媒

'Sbardun i genhedlaeth newydd': Dathlu 20 mlynedd albwm Mwng

  • Cyhoeddwyd
SUPER FURRIES MWNGFfynhonnell y llun, SFA

Mae hi'n 20 mlynedd ers i'r Super Furry Animals ryddhau eu pedwaredd albwm stiwdio, Mwng. Dyma'r albwm uniaith Gymraeg 芒'r gwerthiant uchaf erioed, ac fe gafodd y record lawer o sylw tu hwnt i ffiniau Cymru.

Mae'r albwm yr un mor boblogaidd heddiw ag erioed, o fewn a thu allan i Gymru, ac roedd yn albwm gwadd gan Tim Burgess o'r Charlatans ar ei barti gwrando poblogaidd ar Twitter ar ddechrau Ebrill.

Cafodd yr albwm ei recordio yn rhannol yn stiwdio y cynhyrchydd recordiau Gorwel Owen ar Ynys Mon.

"Nid fi wnaeth recordio Mwng i gyd," meddai.

"Cychwynnwyd rhai traciau yn fan hyn, rhai efo Greg Haver yng Nghaerdydd, un efo Michael Brennan yn Real World ac, os dwi'n cofio'n iawn, wnaeth Cian ddechrau rhoi Sarn Helen at ei gilydd yng Nghaerdydd.

"Dyna un elfen sy'n creu cymaint o amrywiaeth ar y record ac, mewn un ffordd, mae'n syndod bod popeth wedi dod at ei gilydd mor dda.

Ffynhonnell y llun, Andy Willsher
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Super Furries ifanc: Gruff Rhys, Huw Bunford, Guto Pryce, Cian Ciaran a Dafydd Ieuan

"Roedd y broses yn fwy cyflym na'r albymau eraill, ond mae 'na fwy na un ffordd o wneud record: rhai pethau'n elwa o weithio'n araf, pethau eraill yn elwa o orfod symud ymlaen.

"Mae elfennau sydd mor arwyddocaol o'r gr诺p - caneuon gwych ac arbrofi efo'r broses greadigol - yn gyffredin i'r ddwy ffordd weithio."

Yn y siartiau

Fe ddringodd yr albwm i rif 11 yn siartiau Prydain, y safle uchaf i unrhyw albwm Cymraeg erioed. Roedd record flaenorol y Super Furries, Guerrilla, yn eitha arbrofol ac electronig ei sain. Ond roedd Mwng yn cael ei ddisgrifio gan lawer, gan gynnwys Gruff Rhys y prif leisydd, fel yr albwm lle ffeindiodd y band eu s诺n unigryw nhw.

Roedd yr effeithiau diwylliannol yn bell-gyrrhaeddiol hefyd, fel esboniodd Owain Roberts, arweinydd Band Pres Llareggub ar Dros Ginio ar 大象传媒 Radio Cymru ar 12 Mai:

"O'n i wedi dilyn y Super Furries ers iddyn nhw gychwyn. Oedd o'n gr锚t gweld band o ochra Bangor lle dwi'n dod yn wreiddiol yn ei gwneud hi yn y byd cerddorol, ac wedyn gwneud albwm bop Cymraeg ac mynd ar tour efo hi i lefydd fel Japan.

Ffynhonnell y llun, Photoshot

"Roedd o'n ddiddorol iawn bod y Super Furries heb deithio efo cerddoriaeth Mwng yng Nghymru ei hun, roedden nhw'n gweld o fel rhywbeth oedden nhw eisiau mynd tu hwnt a thu allan i Gymru.

"Roedd yr albwm yn rhywbeth personol iddyn nhw greu, roedden nhw'n gallu cymryd yr iaith tu allan i Gymru ac roedd y cyd-destun Cymraeg 'ma yn bwysicach iddyn nhw o ran y byd pop, a sut oedd y Gymraeg yn ffitio o fewn y cyd-destun yna."

&#虫27;罢谤枚别诲颈驳补别迟丑&#虫27;

Mae Leigh Jones, cyfarwyddwr Riff Rock Records, wedi dod at yr albwm yn fwy diweddar.

"Ges i rhywfath o dr枚edigaeth pum mlynedd yn 么l pan ail ryddhawyd Mwng ar gyfer ei bymtheg mlwyddiant. Ro'n i wastad wedi bod yn fan o'r Furries yn tyfu fyny, ond o'n i'n rhy ifanc rili i ddeall yn llwyr y cyd-destun o gwmpas Mwng pan ddaeth hi allan," meddai ar raglen Recordiau Rhys Mwyn ar 11 Mai:

"Ond wrth i'r band hyrwyddo'r ail-rhyddhad pum mlynedd yn 么l nes i ddysgu lot mwy am y record, a sut fath o dirwedd diwylliannol cafodd hi ei ryddhau ynddi.

Ffynhonnell y llun, Jon Super
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth y Super Furry Animals ryddhau 9 albwn stiwdio rhwng 1996 ac 2009

"Yn y 90au roedd 'na synnwyr o bethau c诺l gyda ironic detachment - os chi'n gwylio hen gyfweliadau gyda'r band chi'n gweld bod nhw'n rili c诺l am bob dim, ddim yn malio dim am unrhyw beth.

"Gyda dechrau'r ganrif newydd mi roedd 'na newid, ac dwi'n meddwl bod y Furries wastad wedi bod ar blaen y gad pan ma'n dod i'r zeitgeist am be sy'n digwydd, a dwi'n meddwl bod nhw wedi synhwyro bod pethau'n newid hefyd. Mae geiriau'r caneuon ar Mwng lot mwy diffuant ac uniongyrchol byswn i'n dweud na geiriau'r band cyn hynny.

"Daeth yr albwm ar ddiwedd cyfnod 'C诺l Cymru' felly roedd 'na broffil mawr i fandiau Cymreig, ac felly fe wnaeth y Super Furries beth oedd yn naturiol iddyn nhw drwy ganu yn Gymraeg.

"Roedd Mwng yn sbardun mawr i genhedlaeth newydd o fandiau, ac yn amlwg wedi bod yn hwb i hyder i allu canu yn Gymraeg, ac i greu pethau cyfoes drwy'r Gymraeg."

Dysgu Cymraeg

Roedd dylanwad albwm Mwng ar rai pobl mor drawiadol nes iddi eu hysgogi i ddysgu Cymraeg.

"Dwi'n dysgu Cymraeg ers 2015, ac yr albwm Mwng oedd un o'r rhesymau pan benderfynais ddysgu Cymraeg," meddai Matt Spry, enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2018.

Stori debyg sydd gan Laura Nunez hefyd: "Mae Mwng yn bwysig i mi achos fe ddysgais Cymraeg go iawn, mewn dosbarth, ar 么l Mwng - cyn hynny'n o'n i'n dysgu ar ben fy hun."

Ffynhonnell y llun, Pacific Press
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y band yn perfformio yn Llundain, Rhagfyr 2016

Hoff g芒n?

"Does gen i ddim hoff g芒n," meddai Gorwel Owen. "Fel y recordiau i gyd, yr amrywiaeth ydi un o'r cryfderau. Ond, mae 'na ganeuon ar y record, dwi'n meddwl, fel Pan Ddaw'r Wawr a Sarn Helen, er enghraifft, a'r ffyrdd mae'r gr诺p wedi eu trefnu hefyd, yn swnio fel bod nhw wedi ei gwreiddio mewn rhyw fath o draddodiad ac yn anhygoel o wreiddiol ar yr un pryd - fel bod nhw wedi cyrraedd o ryw fath o wladfa Gymraeg ar y Blaned Neifion."

Dywed Leigh Jones "dwi'n caru'r record i gyd, ond os bysa rhaid imi ddewis un trac, fy ffefryn heddiw ydy Ymaelodi 芒'r Ymylon. Mae'n cyfleu y synnwyr o eiriau diffuant gyda synnwyr digrifwch sarhaus a choeglyd y band.

"Mae'r pwnc ei hun yn eitha' pigog ond ma'r alaw yn ysgafn a chwareus. Dwi'n byw a bod yn gwneud gwaith ymchwil ar gyfer y Super Furries, ac efallai hon yw un o'r caneuon gorau i wir ddangos natur annatod y Super Furry Animals."

Mae Laura Nunez o'r farn mai Gwreiddiau Dwfn yw c芒n gorau'r albwm: "Mae hi'n g芒n hyfryd dwi'n meddwl, a pan mae'r Super Furries yn chwarae hi'n fyw mae hi'n epig. Rhai o'n hoff gigs Super Furries i oedd ar daith Mwng, pan oedd Gwreiddiau Dwfn oedd c芒n ola'r set - roedden nhw'n gigs arbennig!"

Yn ol Matt Spry "mae'n albwm ardderchog ac mae'n anodd imi ddewis fy hoff g芒n, ond os bydde rhaid i mi, Dacw Hi fydde'r g芒n." Dacw Hi yw hoff gan Owain Roberts o Fand Pres Llareggub hefyd.

Yn ddiymhongar iawn dydi Gorwel Owen ddim yn hoff o drafod record gafodd ei recordio yn ei stiwdio, ond mae'n cydnabod gwerth yr albwm.

"Yn 么l legacy, dwi ddim yn gyfforddus iawn yn rhoi barn ar record dwi wedi gweithio arni ond, i drio bod yn wrthrychol, ac i fenthyg geiriau o g芒n arall, dwi'n meddwl bod y gr诺p wedi rhoi carreg eithaf mawr yn y wal barhaus efo'r record yna."

Hefyd o ddiddordeb: