大象传媒

Cyhoeddi gweithgareddau Eisteddfod AmGen

  • Cyhoeddwyd
Logo cynllun Eisteddfod AmGenFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi rhaglen wythnos gyntaf eu prosiect newydd, AmGen.

Bwriad y prosiect yw rhoi blas o'r Brifwyl i bawb dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf medd y trefnwyr.

Ddiwedd mis Mawrth fe ddaeth y cyhoeddiad fod Prifwyl Ceredigion 2020 wedi cael ei gohirio yn sgil argyfwng coronafeirws.

Y bwriad nawr yw cynnal y Brifwyl yn Nhregaron ym mis Awst 2021.

O dan y cynlluniau AmGen, fe fydd o leiaf un gweithgaredd y dydd yn cael ei gynnal ar draws nifer o blatfformau gwahanol, gan ddechrau ar ddydd Llun 18 Mai.

Fe fydd yr Eisteddfod yn gweithio'n agos gyda rhaglenni fel Heno a Prynhawn Da, ynghyd 芒 phapurau newydd fel Yr Herald Cymraeg a'r papurau bro, er mwyn sicrhau eu "bod yn cyrraedd cynifer o bobl 芒 phosibl".

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhestr o ddigwyddiadau'r wythnos i ddod

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: "Ry'n ni'n falch iawn o gyhoeddi ein rhaglen gyntaf heddiw. Mae'r ymateb i'r cyhoeddiad ddechrau'r wythnos wedi bod yn wych, ac mae nifer fawr o bobl wedi cysylltu 芒 ni gyda syniadau neu'n awyddus i fod yn rhan o'r prosiect.

"Fe fyddwn yn lansio pnawn Llun gyda sesiwn gyntaf Cerddi AmGen ein Prifeirdd, gyda fideo o gerdd newydd gan Guto Dafydd, sy'n s么n am fynd i gerdded yn ystod y cyfyngiadau ar hyn o bryd. Bydd y gerdd yn ymddangos ar blatfformau facebook a Twitter, ac yna'n cael ei dangos ar raglen Heno gyda'r nos, er mwyn i bawb gael ei mwynhau."

Ychwanegodd: "Gobeithio ein bod ni wedi llwyddo i gynnig rhywbeth i bawb yn y rhaglen gyntaf. Ein gobaith yw bod y rhaglen wythnosol yn cynnwys yr un cymysgedd eclectig ag ymweliad 芒'r Maes.

"Fe fydd y rhaglen yn amrywio o wythnos i wythnos, ac fe fyddwn yn cyhoeddi rhaglen yr wythnos ganlynol bob dydd Gwener."