大象传媒

'Mam yw'r athrawes orau yn y byd'

  • Cyhoeddwyd
Dysgu'r ddau yn 'sied mam' panme hi'n brafFfynhonnell y llun, Hedydd Cunningham
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dysgu'r ddau yn 'sied Mam' pan mae hi'n braf

Wrth i haint coronafeirws orfodi disgyblion ysgol gael eu haddysg adre, mae nifer o rieni yn gofyn pam bod rhai rhieni yn dewis gwneud hynny gydol y flwyddyn.

Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod 2,517 o ddisgyblion yn cael eu haddysg adre - 6.6 ymhob mil ond yng Ngheredigion mae'r ffigwr yn 21.9 ymhob mil.

Yn eu plith mae'r efeilliaid Dyfri a Heddwyn ap Ioan Cunningham o Landre ger Aberystwyth sydd ym mlwyddyn 9. Mae'r ddau wedi bod yn cael eu dysgu adref ers ddiwedd blwyddyn 4.

Pam?

Ffynhonnell y llun, Hedydd Cunningham
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyfri a Heddwyn Cunningham wrth eu gwaith

Dyfodiad wi-fi i'r ysgol rhyw chwe mlynedd yn 么l oedd y sbardun ar gyfer dysgu y ddau efaill adref, meddai eu mam, Hedydd Cunningham.

"O'n i a fy ng诺r yn teimlo nad oedd neb wedi profi bod hynny yn ddiogel i'r plant.

"Fi'n credu achos bo ni'n hynach yn cael plant a falle wedi bod trwy fwy na rhieni eraill i gael y plant bo ni fwy ffysi.

"Ro'dd y ddau ohonom wedi ymddeol o'n swyddi ac yn byw a bwyta'n iach ac ro'n i'n teimlo bod e'r peth iawn i 'neud."

Ffynhonnell y llun, Hedydd Cunningham
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn eu hamser hamdden mae'r efeillaid yn clocsio

Hedydd sy'n dysgu'r plant ac yn wahanol i rai eraill sy'n addysgu plant adref fe benderfynodd ddilyn patrwm ysgol - sef cael gwersi dwbl a dilyn y cwriwcwlwm.

"Mae nifer o athrawon wedi argymell llyfrau i fi ac rwy'n dilyn rheina. Ar hyn o bryd, dyw e ddim yn ormod o broblem ac mae'n syndod be mae rywun yn ei gofio.

"Mae amserlen yn bwysig ac ry'n ni wastad yn stico iddi - os odyn ni'n dechrau'n hwyrach yn y bore byddwn ni'n gorffen yn hwyrach - ni wastad yn gorfod cael chwech gwers ddwbwl."

Hyblyg

"Y manteision," medd Dyfri, "yw bod cael eich dysgu adre yn fwy hyblyg nag ysgol. Mae modd codi bach yn hwyrach - ond dal cael 6 gwers 50 munud. Ry'n ni hefyd yn cael bwyd ffres wedi'i goginio gan dad i ginio.

"Yr anfanteision," medd Heddwyn, "yw nad ydych yn gweld eich ffrindiau - ry'n wedi gwneud ffrindiau drwy weithgareddau cwmni drama Arad Goch a chwarae p锚l-droed ddwywaith yr wythnos."

Ffynhonnell y llun, Hedydd Cunningham

Ar 么l rhyw bum mlynedd o gael eu dysgu adref 'dyw'r ddau ddim yn gweld lot o wahaniaeth o gael eu dysgu gan un athro yn unig - gan mai dyna oedd yn digwydd yn yr ysgol gynradd.

"Mam yw'r athrawes orau yn y byd," medd y ddau ac mae mam hefyd wedi dotio ar y ddau ac yn dweud eu bod yn blant da ac ufudd.

Dim TGAU

"Pan o'dd y plant oedran cynradd ro'dd llawer o'r gwersi tu allan - adnabod dail, astudio camera natur a gweld moch daear, penbyliaid, cadnoid - ond wrth iddyn nhw fynd yn h欧n ry'n ni'n canolbwyntio'n llawn ar y cwricwlwm," meddai Hedydd.

"Fyddan nhw ddim yn cael tystysgrif TGAU - byddaf yn rhoi arholiad fy hun iddyn nhw ond mae lot o gwrs CBAC bellach yn cynnwys gwaith cwrs a felly dyw e ddim yn bosib iddyn nhw 'neud TGAU. Erbyn lefel A bydd rhaid i ni feddwl pa bynciau fydd yn fwyaf addas.

"Bydd yn rhaid iddyn nhw gael tystysgrif lefel A i fynd i brifysgol - ac os bydd rhaid, mi gawn help gydag addysgu'r pynciau yn y cartref ond mae lot o blant sy'n mynd i'r ysgol yn cael hynny, beth bynnag."

Disgrifiad,

Manteision ac anfanteision addysg adref i Heddwyn a Dyfri

Dywed Hedydd nad yw'n gweld gormod o anfanteision - y prif anfantais yw'r cymdeithasu, meddai.

"Ond ry'n ni wedi sicrhau eu bod yn cael mynd i Adran yr Urdd yn Aberystwyth, Arad Goch [cwmni drama] ac yn cael chwarae p锚l-droed a phan mae nhw'n h欧n, rwy'n rhagweld y byddan nhw'n mynd i'r traeth i gwrdd 芒'i ffrindiau.

"Mae'n anodd gwybod os ydynt yn colli meithrin sgiliau cymdeithasol," medd Hedydd, "i fi mae ysgol yn le rhyfedd lle mae plant yn cael eu hwpo at ei gilydd a dim eu dewis nhw yw pwy sydd gyda nhw - mae Dyfri a Heddwyn yn dewis eu ffrindiau achos bo nhw moyn iddyn nhw fod yn ffrindiau.

"Ry'n ni hefyd yn deulu mawr - ac mae tipyn o bobl yn dod yma."

Cyngor i rieni eraill?

Wrth i rieni ar draws Cymru gael eu gorfodi i ymgymryd 芒 dysgu'r plant adref, cyngor Hedydd yw "i beidio stresso gan bod hynny yn rhwbio bant ar y plant".

"Triwch 'neud y peth yn hwyl. Ni'n aml yn chwerthin - ma' pethe'n gallu bod yn tense pan mae'r pwnc yn galed ond mae'n rhaid rhywffordd neu'i gilydd dod 芒 hiwmor mewn iddo.

"Efallai bod e'n haws i fi gan bod y ddau yr un oedran - os oes ffrae fach, rhesymu yw'r unig ateb ond i ddweud y gwir 'dyn nhw byth yn dweud bo nhw ddim eisiau 'neud rhywbeth. Maen nhw'n blant rhwydd.

"Ar 么l ysgol ni'n cael magad ar y soffa - un bob ochr. Mae bod yn fam ac athrawes yn ddwy r么l sy'n gwau i'w gilydd."

Ffynhonnell y llun, Hedydd Cunningham
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr efeilliaid a'u rhieni

Wrth gael ei holi a ydi hi a'i g诺r yn ceisio magu'r plant i fod yn debyg iddyn nhw, mae Hedydd yn dweud mai nid dyna'r bwriad.

"Mae'r ddau yn wahanol i'w gilydd ac yn wahanol i ni. Yn naturiol chi methu helpu magu nhw fel ry'ch chi wedi cael eich magu os oedd honno'n fagwraeth hapus."

Ffynhonnell y llun, Hedydd Cunningham
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyfri yn ymarfer y git芒r

"Mi ddaw'r amser, pan fyddan nhw'n 18 oed, i ollwng y ddau ond er i un ohonyn nhw awgrymu y gallai fynd i Brifysgol Aberystwyth a byw adre, dwi ddim am i hynny ddigwydd.

"Dwi am iddyn nhw, maes o law, gael cyfle i fynd ar draws y byd gyda'u gyrfaoedd - mae hynny'n bwysig.

"Ond cyn hynny, pedair blynedd o addysg. Dwi'n poeni bach am ymarferoldeb lefel A ond mae'r g诺r yn mynd i sorto pethe ac eisoes mae wedi dechrau ffonio rhai prifysgolion.

"Ydw, dwi'n joio bob dydd - mae'n sbort a dwi ddim wedi difaru o gwbwl ac mi fydden i'n ei argymell. Dwi wir yn cydymdeimlo 'da pobl sy'n dymuno dysgu eu plant adre ond falle methu am un rheswm neu'i gilydd. Ni wedi bod yn lwcus."

"Ie, hi yw'r athrawes orau," medd Dyfri a Heddwyn.

"Ond mi fyddech chi'n gweud hynny," meddai Hedydd gan chwerthin!

Hefyd o ddiddordeb:

Mae modd clywed mwy am brofiad Hedydd, Dyfri a Heddwyn ar Bwrw Golwg, 大象传媒 Radio Cymru.