Pobl Llundain yn 'deffro o drwmgwsg' am ddatganoli

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ei bod yn ymddangos bod pobl y tu allan i Gymru ac yn Llundain "wedi deffro o drwmgwsg 20 mlynedd" am ddatganoli yn ystod y pandemig coronafeirws.

Mae mwyafrif y pwerau ar gyfyngiadau yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda'r llywodraethau datganoledig yn hytrach na gyda gweinidogion San Steffan.

Dywedodd Mr Drakeford wrth y Senedd ei fod yn credu bod datganoli wedi "egluro datganoli i bobl yn ystod yr argyfwng mewn ffordd nad yw wedi bod dros yr 20 mlynedd diwethaf".

Roedd yn ateb cwestiwn gan Mark Reckless, arweinydd Plaid Brexit yn y Senedd, a ddywedodd bod "nifer sylweddol o bobl yng Nghymru ond nawr yn deall ystod" y pwerau gafodd eu trosglwyddo o Lundain i Gaerdydd.

Aeth Mr Reckless ymlaen i awgrymu y byddai'n well gan lawer bod "prif weinidog Prydain yn gwneud penderfyniadau allweddol yn hytrach na chi".

Atebodd Mr Drakeford: "Rwy'n amau nad yw pobl Cymru'n ymwybodol o ddatganoli.

"Yn sicr mae'n wir fod pobl y tu allan i Gymru ac yn Llundain yn ymddangos fel eu bod wedi deffro o drwmgwsg 20 mlynedd ar ddatganoli."

'Barn glir'

Ychwanegodd Mr Drakeford ei fod yn credu bod barn pobl Cymru yn glir ac nad oedden nhw'n "edrych yn genfigennus" at y modd y mae llywodraeth Boris Johnson yn delio gyda coronafeirws.

"Mae pobl Cymru'n cefnogi'r modd gofalus yr ydym yn codi'r cyfyngiadau," meddai.

"Fe fyddai'n well ganddyn nhw fod yma gyda llywodraeth sy'n rhoi eu hiechyd a'u lles ar flaen yr hyn yr ydym yn ei wneud, a dyw nhw ddim yn edrych yn genfigennus ar y modd y mae pethau'n cael eu gwneud dros y ffin."