Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Adar ffug yn gwarchod to T欧 Hywel tra bod ASau adref
- Awdur, Alun Jones
- Swydd, Uned Wleidyddol 大象传媒 Cymru
Mae adar ysglyfaethus ffug yn cael eu defnyddio mewn ymdrech i ddychryn gwylanod o un o adeiladau'r senedd ym Mae Caerdydd.
Mae adeilad T欧 Hywel drws nesaf i'r senedd wedi bod bron yn wag ers dechrau cyfnod clo'r coronafeirws.
Mae'r 60 Aelod o'r Senedd wedi bod yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd rhithwir yn lle cyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Roedd contractiwr rheoli pl芒u y senedd wedi argymell gosod yr adar ysglyfaethus ffug.
T欧 Hywel fel arfer yw gweithle staff cymorth Aelodau'r Senedd a staff Comisiwn y Senedd sy'n gyfrifol am redeg y sefydliad o ddydd i ddydd, ond maen nhw hefyd yn gweithio gartref.
Esboniodd llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd "yn dilyn argymhelliad gan ein contractwr rheoli pl芒u, rydym yn eu treialu fel dull o atal gwylanod rhag nythu ar y to".
Mae gwylanod yn dodwy wyau o ddechrau mis Mai, gyda'r cywion cyntaf i'w gweld yn gyffredinol tua dechrau mis Mehefin.
Mae pob rhywogaeth o wylanod wedi'i gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 sy'n ei gwneud hi'n anghyfreithlon lladd neu ddinistrio nyth neu ei chynnwys yn fwriadol.
Mae T欧 Hywel yn cael ei rentu, tra bod adeilad y Senedd drws nesaf sy'n cynnwys y Siambr yn eiddo i'r Cynulliad.
Mae adeilad T欧 Hywel, sy'n gartref i swyddfeydd ac ystafelloedd pwyllgor, yn eiddo i Equitix Tiger English LP o Lundain, partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd gyda Th欧'r Cwmn茂au ym mis Rhagfyr 2018.