Eid: Dathlu diwedd Ramadan yn wahanol, ond yr un mor flasus eleni
- Cyhoeddwyd
Fydd g诺yl Eid ddim yr un peth eleni. Fydd dim modd mynd i'r mosg i wedd茂o yn y bore a fydd dim modd cwrdd 芒'r teulu na ffrindiau i ddathlu g诺yl bwysica'r flwyddyn i grefydd Islam.
Roedd Zara'n bwriadu mynd i weld y m么r, Shereen wedi cynllunio bod yn Singapore gyda'i theulu, a Laura wedi edrych 'mlaen at glywed s诺n y teulu i gyd gyda'i gilydd.
Fydd hynny ddim yn digwydd, ond maen nhw'n benderfynol y bydd Eid al-Fitr - yr 诺yl Islamaidd sy'n cael ei dathlu ar ddiwedd cyfnod ymprydio Ramadan - yr un mor flasus ag arfer eleni ac maen nhw'n paratoi gwleddoedd gyda'u teuluoedd.
Shereen Williams
Doedd Shereen Williams o Gasnewydd ddim yn bwriadu coginio ar gyfer Eid o gwbl eleni. Roedd hi wedi edrych 'mlaen i fynd 芒'i meibion bach, Selyf a Iesu, a'i g诺r Owain, n么l i ddathlu Eid gyda'i theulu yn Singapore am y tro cyntaf.
"Rwy mor siomedig na fyddwn ni yna. Fyddai dim rhaid i fi wneud hyn i gyd!" meddai, wrth egluro bod gwledd ar y gorwel.
Yr her fawr fydd ail-greu y darten b卯n-afal - Kuih - mae hi fel arfer yn dod n么l gyda hi o Singapore bob blwyddyn.
"Mae'n darten fach gyda chrwst llawn menyn, a jam p卯n-afal yn y canol. Rwy'n benderfynol o'i wneud e 'leni. Duw a 诺yr sut fydd e'n gweithio!"
Ond mae llawer mwy i'w fwyta hefyd. Fel arfer yn Singapore, byddai'r teulu yn coginio bwyd arbennig yn barod i dorri ympryd olaf Ramadan gyda pherthnasau.
"Bydden ni'n ymgasglu yn fflat Mam-gu a byddai tua 60 ohonon ni," medd Shereen.
"Roedd gan Mam naw brawd a chwaer felly roedd e'n hollol wyllt. Tair awr o chaos, Mam-gu yn coginio i ni, yna bydden ni'n mynd i dai perthnasau eraill a byddai disgwyl i ni fwyta yn nh欧 pawb.
"Dychmyga ymprydio am fis cyfan yna cael chwe phryd mewn un dydd!"
Ond yng Nghasnewydd, mae'r drefn arferol rywfaint yn wahanol. Cam cynta'r dydd fydd mynd i'r mosg ar gyfer cwrdd gweddi.
"Mae gwedd茂au Eid yn anhygoel gan bod pawb yn gwisgo'u gwisgoedd traddodiadol," medd Shereen. "Yn Singapore, ry'n ni'n reit unffurf, pawb o'r traddodiad Malay, ond yng Nghasnewydd mae gweld pobl o gefndiroedd gwahanol wedi bod yn hyfryd."
Fydd y prif bryd ddim tan y nos. Rendang cyw i芒r fydd Shereen yn ei baratoi eleni, gyda'r trimins traddodiadol yn cynnwys cacennau reis, Ketupat.
"Yn draddodiadol byddech chi yn defnyddio dail cnau coco i'w coginio nhw, ond nawr ry'n ni'n defnyddio plastig ac yn eu berwi nhw nes eu bod fel teisen fach wedi pyffio lan. Rwy'n paratoi pryd sbeislyd gyda chimwch ac 诺y hefyd, Sambal Tumis Udang, fydd yn mynd gyda cacennau reis.
"Bydd llawer mwy o waith paratoi 'leni, achos i fi, dyw Eid ddim yn Eid heb y bwyd 'ma i gyd. Ac yn fy nheulu i ry'n ni'n dangos cariad i'n gilydd drwy'n bwyd."
"Yn amlwg, mae'r plant yn colli allan ar lawer o bethau ar hyn o bryd. Felly, mae'n bwysicach nag erioed eu bod nhw'n cael eu hanrhegion bach a'r bwyd maen nhw eisiau ei fwyta. A hyd yn oed os y'n ni adre, byddwn ni'n gwisgo'n dillad Eid."
Laura Jones
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ddathlu," medd Laura Jones o Mynachdy yng Nghaerdydd. "Dyw Ramadan a Eid ddim yn stopio ar gyfer y coronafeirws. Yn y ffydd, mae'n bwysig i ddathlu."
Drwy gyfnod Ramadan, mae Laura wedi bod yn cyflwyno pytiau Cymraeg ar Radio Ramadan yn y brifddinas. Mae hefyd wedi cymryd rhan mewn fideo amlieithog yn atgoffa cyd-Fwslemiaid am bwysigrwydd aros adref dros y cyfnod sanctaidd.
"Bydd yn od iawn eleni achos byddwn ni ddim yn gallu gweld y teulu. Fel arfer, mae'n swnllyd iawn gyda'r plant i gyd gyda'i gilydd. Bydd yn dawel 'leni."
Serch hynny, mae'n dweud bod ei rhieni-yng-nghyfraith dal yn paratoi gwledd. Maen nhw o dras Bangladeshi, a'u traddodiad nhw yw ffrio llawer o brydau bach.
Mae Laura'n edrych mlaen am y bora - byr-bryd hallt: "Pethau o reis m芒l ydyn nhw - ground rice. Maen nhw'n ychwanegu sinsir, garlleg, turmeric a'i wneud mewn i does, rholio fe mas a'u torri mewn i gylchoedd."
Pethau tebyg ond yn felys yw'r handesh, sydd hefyd yn boblogaidd yn Bangladesh a Bengal. Maen nhw wedi'u gwneud o reis m芒l, ond yn cynnwys siwgr a molasses datys. "Mae'r toes yn fwy gwlyb ac maen nhw'n eu ffrio nhw," medd Laura.
Bydd prif bryd hefyd fwy na thebyg, "rhywfath o gyri a reis, pilau a biryani. Bydd 'na samosas hefyd - rhai sawrus a melys. Byddan nhw'n gwneud samosas gyda coconut.
"Fel arfer mae llawer o bobl yn dod i'r t欧 ar Eid. Fydd 'na ddim llawer o ymwelwyr 'leni, ond bydd y traddodiad yn parhau!"
Zara Ali
Draw yn ochrau Grangetown yn y brifddinas mae Zara Ali'n byw gyda'i phedwar o blant a'i g诺r, Mos. Hi fydd yn coginio ar gyfer Eid y flwyddyn yma ac mae hi'n hoffi dilyn traddodiadau Affricanaidd-Indaidd ochr teulu ei mam.
"Mae bwydydd Eid yn amrywio rhwng diwylliannau, ond yn ein diwylliant ni ry'n ni fel arfer yn bwyta llawer o fwydydd trwm, fel biryani neu byr-brydau wedi ffrio.
"Mae wastad dewis mawr o fwyd melys. Ry'n ni'n tueddu i bobi llawer o fisgedi cyn Eid ar gyfer byffe.
"Un pryd traddodiadol iawn yw vermicelli mewn llaeth melys a pistachio ac almwn - sevaya.
"Allwn ni ddim cael Eid heb sosban enfawr o biryani ar y ford! Ond mae gan fy merched a fi draddodiad newydd nawr o gyflwyno rhywbeth newydd - fel teisen gaws neu rhyw fisgedi wedi stwffo a byddwn ni'n neud hynna eto 'leni."
Ond yn aml, mae'r teulu yn mwynhau mynd i weld y m么r fel rhan o'u dathliadau - draw i Aberogwr neu i ardal Porthcawl. Yn aml, byddan nhw'n mynd 芒 phecyn o selsig gyda nhw a chael barbeciw ar y traeth.
"Fyddwn ni ddim yn gwneud hynny 'leni, fydd yn rhyfedd. Bydd rhaid i ni aros adre a chwarae gemau yn y t欧," medd Zara.
Ond mae'n benderfynol o ddathlu: "Rwy mor ddiolchgar fy mod i adre gyda fy nheulu a'n bod ni'n hapus ac yn iach. Mae fy nheulu estynedig i draw yn sir Caergrawnt ac yn sir Gaerhirfryn. Mae'n bwysig iawn i fi a fy mhlant i aros adre nawr.
"Ry'n ni mor lwcus am beth sy' 'da ni."
Mae Eid yn digwydd o gwmpas penwythnos Mai 23-24 yn 2020.
Hefyd o ddiddordeb: