大象传媒

Ateb y Galw: Y gantores Katie Hall

  • Cyhoeddwyd
Katie HallFfynhonnell y llun, Katie Hall

Y gantores Katie Hall sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Steffan Dafydd yr wythnos diwethaf.

Katie yw prif leisydd y band amgen o Bontypridd, Chroma. Mae'r band wedi profi llwyddiant yn y blynyddoedd diwethaf, gan ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2016, ac ennill lle yn nghynllun Gorwelion y 大象传媒 i artistiaid newydd yn 2018, ynghyd 芒 pherfformio mewn gigs a gwyliau ledled Cymru a thu hwnt.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n cofio beicio am y tro gyntaf heb stablisers. Fi'n meddwl o'n i'n rili ifanc, ond fi'n bach o thrill seeker felly fi'n cofio gyrru'r beic o top grisiau y t欧.

Fi hefyd yn cofio'r beic yn cael ei gymryd i ffwrdd...

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Roedd gen i crush uffernol ar Leonardo DiCaprio. Yn enwedig pan oedd e'n actio yn Titanic a Romeo + Juliet.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Fi ddim rili yn cofio'r digwyddiad. Ond pan o'n i'n iau wnaeth brawd fi drio stopio fi rhag rhoi air freshener yn llygad fi. A wnes i ei gnoi fe, sprayo llyged fe gyda'r air freshener, wedyn sprayo fy llyged fy hun.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Katie gyda'i chyd-aelodau o'r band Chroma, Zac a Liam

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Fi'n cr茂o o hyd. Ges i good cry yn ystod gig Georgia Ruth dros y we. Oedd e ar gychwyn y lockdown, ac o'n i'n teimlo'n rili isel. Mae cerddoriaeth hi mor lysh, wnaeth e 'neud i fi deimlo'n rili gobeithiol.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Lot! Dwi o hyd yn anghofio allweddi'r t欧 felly dwi wastad yn cloi fy hun mas. Fi hefyd yn colli stwff - fi wedi bod trwy tua pedwar ff么n yn y 12 mis dwethaf.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dwi'n caru ardal Bannau Brycheiniog. Wnes i dyfu lan yn Aberd芒r, felly oedden ni 20 munud o Ben y Fan. Hefyd, mae'n hoff 诺yl i, sef G诺yl y Dyn Gwyrdd, yna hefyd.

Ffynhonnell y llun, Mark Lewis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae G诺yl y Dyn Gwyrdd wedi cael ei chynnal ger Crughywel ers 2003 - ond yn anffodus, mae wedi cael ei chanslo eleni

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Blwyddyn dwethaf wnes i a'n ffrindiau gorau fi rannu hot-tub yn Green Man. Yna aethon ni mas a bwyta bwyd neis a gwrando ar gerddoriaeth neis.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Neis. Byrlumus. Marmite

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Fi wedi bod yn gwylio lot o stwff Studio Ghibli ar Netflix yn diweddar, a fi'n meddwl mai Spirited Away yw un o hoff ffilmiau fi. Jest achos mae'n uffernol o bert yn weledol.

Fi hefyd wedi gwylio Paris Texas am y tro cyntaf dros y cyfnod rhyfedd yma, a fi'n meddwl bod hwnna yn un o'n hoff ffilmiau fi nawr hefyd. Fi'n mwynhau'r ffilm yn weledol, a pherthynas Travis gyda'i blentyn ar 么l mynd ar goll am flynyddoedd.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Patti Smith - dwi'n dwli ac ei cherddoriaeth, barddoniaeth a'i hagwedd hi tuag at fywyd.

O archif Ateb y Galw:

Beth yw dy hoff g芒n?

Nes i adael y cwestiwn yma am hir achos fi'n ffeindio fe'n rili anodd... Say Yes gan Elliot Smith.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf - Parseli crwst filo gyda butternut squash a chaws gafr.

Prif cwrs - Enchiladas llysieuol gyda salad.

Pwdin - Pei pecan a maple syrup gyda hufen.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi wedi stryglo gyda dyslecsia trwy gydol fy mywyd. Sai'n meddwl byse gen i angerdd creadigol os nad oedd gen i dyslecsia.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Jest chillio ar draeth rili braf, dwi'n meddwl.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Meddwl bysa fe'n gr锚t cael bod yn Michelle Obama am y diwrnod. Dwi'n meddwl bod hi'n anhygoel. Hefyd byddwn i'n cael gweld sut mae e i fod yn briod 芒 Barack!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Michelle Obama yn ysbrydoliaeth i nifer

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Heledd Watkins

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 大象传媒 Cymru Fyw