Galw am 'gynllun clir i'r dyfodol' ar iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd
Dylai Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd lleol fod yn fwy eglur yngl欧n 芒'u cynlluniau ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn yr wythnosau nesaf, yn 么l elusennau.
Daw hynny'n dilyn honiadau fod sicrhau cefnogaeth wedi profi'n anodd i rai pobl yn ystod y pandemig.
Dywedodd elusen iechyd meddwl Mind Cymru bod angen cynllun clir i ddangos sut fydd gwasanaethau'n cael eu hailsefydlu wrth i'r wlad ddechrau codi cyfyngiadau yn raddol.
Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn hanfodol, meddai Llywodraeth Cymru, ac roedd yn disgwyl i'r GIG ymateb mewn ffordd ddiogel ac amserol i bobl oedd angen cymorth.
Trafferth cael cyngor
"Rydym wedi bod yn clywed am bobl yn cael trafferth i gysylltu efo'u gwasanaethau lleol ac i gael cyngor a chefnogaeth," meddai pennaeth polisi Mind Cymru, Simon Jones.
"Rydym hefyd yn clywed bod eraill yn amharod i ddod ymlaen i chwilio am gefnogaeth am eu bod ofn y feirws.
"Mae'n hollbwysig ein bod yn gwybod bod capasiti o fewn y gwasanaethau yma pan fyddwn ni'n dod allan o'r cyfnod lockdown.
"Dwi'n meddwl bod llawer yn cael ei wneud tu 么l i'r llenni ond mae angen iddo gael ei rannu'n fwy eang," meddai.
"Mae angen cynllun clir arnom ni i ddangos pa wasanaethau sydd ar gael fel bod gan bobl hyder i ofyn am gymorth.
"Ry'n ni hefyd angen i Lywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd lleol i roi syniad clir o ba wasanaethau fydd ar gael yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf."
Roedd methu cael mynediad at wasanaethau cefnogaeth iechyd meddwl yn gallu bod yn "ddinistriol iawn" i rai, yn 么l Laura Moulding, 23 oed, o Gaerdydd, sy'n dioddef o iselder difrifol ac arwyddion seicotig.
Dywedodd Miss Moulding bod ei symptomau wedi gwaethygu yn ystod y cyfyngiadau, a bod ei gorbryder wedi cynyddu oherwydd diagnosis diweddar o'r cyflwr ME.
"Roeddwn i'n optimistig ar y dechrau ond mae darllen yr holl newyddion digalon am y feirws, a cheisio edrych ar 么l fy hunan, wedi gwneud popeth yn ddrwg iawn a weithiau dwi'n deffro yn meddwl pam fy mod i'n deffro.
"Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn llawer mwy anodd."
Galwadau ar gynnydd
Dywedodd elusen iechyd meddwl Hafal bod y nifer sy'n cysylltu 芒'u gwasanaeth cefnogi bellach bedair gwaith yn uwch nag yr oedd ar ddechrau'r flwyddyn.
Mae'r rhaglen 'Addewid Hafal' yn cynnig cefnogaeth a chymorth dros y ff么n, drwy e-bost ac wyneb yn wyneb.
Yn ystod mis Ionawr a Chwefror eleni derbyniodd y gwasanaeth 282 o alwadau o'i gymharu ag 879 ym Mawrth ac Ebrill.
Cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod wedi gwneud "penderfyniad anodd" i ryddhau cleifion iechyd meddwl o'u gofal, ond eu bod bellach wedi adolygu'r penderfyniad hwnnw.
Mae'r 大象传媒 wedi cysylltu 芒 gweddill byrddau iechyd Cymru i holi am eu darpariaeth iechyd meddwl, sydd wedi gorfod addasu yn ystod y pandemig.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf nad oedden nhw wedi lleihau'r gwasanaethau, ond bod rhai'n cael eu diwallu mewn ffordd wahanol yn unol 芒'r canllawiau ymbellhau cymdeithasol.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys bod eu gwasanaethau'n dal ar agor.
Nid yw'r gweddill wedi ymateb hyd yma.
Ychwanegodd Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i gydweithio gyda'u partneriaid o'r trydydd sector, yn cynnwys Mind Cymru, er mwyn deall "anghenion iechyd meddwl pobl ac i gynnig cefnogaeth wedi ei deilwra'n arbennig i gynnal iechyd meddwl tra bo'r cyfyngiadau mewn grym.
"Rydym wedi cyhoeddi 拢3.75m yn ychwanegol er mwyn ehangu'r gefnogaeth feddyliol ac emosiynol i blant iau na Blwyddyn 6 yn yr ysgol ac i gefnogi gweithlu'r ysgolion," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2020
- Cyhoeddwyd12 Mai 2020
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020