Eisteddfod T digidol cyntaf yr Urdd ynghanol pandemig
- Cyhoeddwyd
Fydd dim angen welis, fydd 'na ddim casglu sticeri, nac ymarferion munud ola' ben bore bach. Fydd 'na ddim Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych fel y disgwyl oherwydd argyfwng coronafeirws.
Ond, er y siom, mae dros 4,000 o blant wedi cael cyfle i gystadlu mewn Eisteddfod ar ei newydd wedd - Eisteddfod T - medd y trefnwyr.
Yn ogystal a'r cystadlaethau traddodiadol fel corau a chanu cerdd dant, mae nifer o gystadlaethau newydd fel lip sync, dynwared, parodi o ganeuon a sgetsys i'r teulu i gyd.
Mae'r holl ymgeiswyr wedi cystadlu eisoes, drwy anfon clipiau fideo o'u hymdrechion at yr Urdd dros y we.
Dywedodd y trefnydd Llio Maddocks: "Dan ni wedi bod yn ddibynnol ar gysylltiad we ymhob rhan o Gymru, hyd yn oed reit yn y pentrefi lleiaf ynghanol cefn gwlad! Felly, mae hyn wedi bod yn her yn ei hun.
"Dan ni wedi bod yn dibynnu ar y wefan a phobl i uwchlwytho eu ceisiadau, felly mae jyst trio cyrraedd pobl heb fod yr ysgolion ar agor wedi bod yn her yn ei hun. Ond mae'r ymateb gan rieni wedi bod yn ffantastig."
Mae'r Urdd yn credu bod cynnal y cystadlaethau ar-lein wedi rhoi cyfle i gyrraedd cynulleidfa newydd.
"Oedd hi'n fendigedig i weld cymaint o blant wedi cystadlu," medd Gwawr Edwards, un o'r beirniaid.
"Mae'n debyg odd 'na gystadlaethau newydd eleni a mae hynna si诺r o fod wedi cyrraedd cynulleidfa newydd, a plant fasai falle ddim wedi cystadlu yn yr Urdd. A phwy 诺yr, falle byddan nhw nawr yn parhau i gystadlu bob blwyddyn.
"Mae mor braf i weld y traddodiad eisteddfodol yn parhau."
Ar 么l gweld brwdfrydedd y cystadleuwyr digidol, mae cyfarwyddwr yr Urdd wedi dweud wrth Cymru Fyw y gallai rhai elfennau o'r dull newydd o gystadlu barhau:
"Mae Eisteddfod T wedi bod yn gyfle i edrych ar ein cystadlaethau mewn ffordd hollol wahanol - roedd rhaid ail-edrych ar bopeth," medd Si芒n Eirian.
"Mae'r digidol yn ail natur i blant a phobl ifanc Cymru yn barod ond r诺an o ganlyniad i Covid19, mae llawer o bobl wedi dechrau defnyddio technegau fel Zoom, Facetime, Teams ac yn y blaen am y tro cyntaf yn eu bywydau.
"Felly roedd hi'n bleser gallu cynnig rhywbeth fyddai'n dod a chenedlaethau a phobol at ei gilydd ymhellach, gan fod y dechnoleg yna'n barod."
Dyfodol ariannol
Ond mae 'na gydnabyddiaeth bod gohirio Eisteddfod Dinbych 2020 wedi cael effaith ariannol.
"Yn naturiol, mae 'na gostau ariannol o ohirio unrhyw 'steddfod, ond 'ma na siom i gefnogwyr a'r trefnwyr o orfod canslo Sir Ddinbych ac mae'r Urdd wedi gorfod gohirio gweithgareddau eraill o fewn y mudiad," medd Ms Eirian.
"'Dan ni'n edrych ymlaen i fynd i Sir Ddinbych yn 2021, a dilyn y daith eisteddfodol oedd fod i ddigwydd wedi hynny."
Pan ddaeth y cyhoeddiad y byddai'n rhaid gohirio Eisteddfod Dinbych a chau holl wersylloedd yr Urdd oherwydd yr argyfwng presennol, fe ddywedodd y mudiad y gallai'r sefyllfa achosi ergyd ariannol o bron i 拢4m.
Mae wedi bod yn gyfnod cythryblus i'r mudiad yn ddiweddar. Daeth cyfnod o ymgynghori yngl欧n a dyfodol swyddi nifer o staff i ben ddyddiau'n unig cyn i gyfyngiadau coronafeirws y llywodraeth ddod i rym.
Darlledu'r 糯yl
Serch hynny, mae'r mudiad yn dweud eu bod yn falch iawn o allu parhau i gynnal gweithgaredd ar gyfer pobl ifanc Cymru mewn cyfnod anodd.
Mae stiwdio bwrpasol newydd wedi ei hadeiladu yng ngwersyll yr Urdd ym Mae Caerdydd a bydd modd gweld y cyfan ar S4C, a gwrando ar 大象传媒 Radio Cymru.
Dywedodd Rhuanedd Richards, Golygydd 大象传媒 Radio Cymru a 大象传媒 Cymru Fyw: "Drwy gydol yr wythnos mi fydd 大象传媒 Radio Cymru yn llenwi'r pnawn gyda hwyl a chystadlu'r digwyddiad cwbl unigryw yma; mi fydd Ifan Evans a Nia Lloyd Jones ar yr awyr rhwng 14:00 a 17:00 y prynhawn gyda'r holl gystadlu gwych - y cystadlaethau traddodiadol a'r rhai newydd.
"Yn y boreau, mi fydd rhaglen Aled Hughes yn cynnig 'llwyfan' i'r corau sydd wedi cystadlu led-led Cymru, ac i'r rhai sydd eisiau ail-fyw'r cyfan, mi fydd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis yn edrych yn 么l ar bopeth ar bnawn Sadwrn am 14:00 y prynhawn.
"Ry'n ni'n hynod falch o fod yn rhan o ddigwyddiad arloesol a hanesyddol - pob lwc bawb!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2020
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2020