´óÏó´«Ã½

Cwis Mawr C'mon Midffîld

  • Cyhoeddwyd
Wali Tomos

Ar brynhawn Sul 24 Mai fe wnaeth Aled Hughes gynnal cwis am gyfres C'mon Midffîld yn fyw ar dudalen Facebook Cymru Fyw.

Dyma gwestiynau'r cwis er mwyn i chi gael rhoi cynnig arni gyda theulu neu ffrindiau dros y we! Ond cofiwch, dim ond ychydig o hwyl yw'r cyfan a pheidiwch â cham-sefyllian…

Cliciwch fan hyn pan fyddwch yn barod i weld yr atebion. Pob lwc!

Mae modd gwylio'r gyfres gyntaf o C'mon Midffîld .

Rownd 1: Pentref Bryncoch

1. Beth yw enw llawn bwtsiar Bryncoch?

2. Beth yw enw'r ffermwr sy'n etifeddu cae pêl-droed Bryncoch gan ei dad?

3. Pa gymeriad mae George yn chwarae ym mhantomeim Nadolig Bryncoch?

4. Beth yw enw gwraig gyntaf Arthur Picton?

5. Beth yw enw'r ddynes mae George a Wali yn mynd i olchi ei ffenestri?

6. Yn y bennod Cân Di Bennill Fwyn, allwch chi enwi'r tri chwisgi mae George, Arthur a Wali yn eu henwi, gan honi i'r plisman mai dyna yw eu henwau?

7. Yn y bennod Seren Ddisglair, gyda phwy mae Arthur yn meddwl bod Sandra yn mynd ar ddêt?

8. Beth yw enw'r athro gyrru yn y bennod 'Drwy Ddirgel Ffyrdd'?

9. Beth yw enw Capel y Methodistiaid ym Mryncoch?

10. Beth yw enw tÅ· Arthur Picton?

Rownd 2: Y Gwir yn Erbyn y Byd

1.Pa chwaraewr pêl-droed enwog sy'n ymddangos i chwarae i dîm y sêr?

2.Pa wlad sy'n ennill cystadleuaeth Cwpan y Byd yn y bennod mae tîm Bryncoch yn teithio i Rufain?

3.Yn y gyfres radio gyntaf, cyn creu'r gyfres deledu, pwy oedd yn chwarae cymeriad Tecs?

4.Yn y bennod Meibion Bryncoch, beth mae Wali yn galw'r ddafad?

5.Yn yr un bennod, gorffennwch y linell yma: "Dwi'n gweld efo fy llygaid bach i, rhywbeth yn dechrau efo D…."

6.Beth ydy enw brawd Arthur Picton?

7.Yn y bennod Eira Man Eira Mawr, pam fod George yn cael ei hel o'r cae?

8.Enwch o leiaf pump o chwaraewyr sydd wedi chwarae i dim Bryncoch, ar wahân i Tecs a George.

9.Tatŵ o beth sydd gan George ar dop ei fraich?

10.Pa fath o gi sydd gan fam George?

Rownd 3: Y Gwrthwynebwyr

1.Beth yw enw rheolwr clwb Bryn Aber?

2.Beth yw gwaith bob dydd y dyfarnwr Ioan Gwyn Huws?

3.Beth yw enw rheolwr tîm Brynglas pan maen nhw'n teithio i fyny o dde Cymru i chwarae?

4.Pa liw oedd cit Bwlchmawr?

5.Pwy fu'n cyboli efo gwraig Brian Fawr?

6.Ar ba wlad mae George yn betio i gyrraedd rownd y chwarteri yng Nghwpan y Byd 1990?

7.Beth yw enw'r ddynes mae Wali yn ei chyflwyno i'w fam fel ei wraig?

8.Beth yw cyfenw'r cymeriad Mario, y chwaraewr pêl-droed o'r Eidal sy'n dod yn dipyn o ffrindiau efo Sandra?

9.Beth yw gwaith dydd i ddydd y dyfarnwr Bob Taylor?

10.Yn y bennod Traed Moch, pwy yw noddwyr crysau Llaneurwyn?

Rownd 4: Ychydig o Bopeth...

1.Be ydy enw cefnder Wali?

2.Ar ba ddiwrnod mae gêm y sêr yn cael ei chwarae?

3.Beth yw enw'r ferch mae Tecs yn cael gwersi cymorth cyntaf ganddi?

4.Yn y bennod 'Fe Gei Di Fynd i'r Bôl', pa ddiod mae Lydia Thomas yn ei archebu yn y Bull?

5.Ym mha wlad mae brawd Arthur yn byw?

6.Ar ba raglen radio mae Wali yn sôn am Gêm y Sêr?

7.Yn ôl Arthur Picton, gorffennwch y cwpled yma: "Trawsfynydd tros ei feini…"

8.Faint sy'n pleidleisio dros George Hughes yn etholiad y cyngor 'cymundeb'?

9.Pa hen ffrind ysgol mae Osborne yn croesi'r lon i'w chyfarch?

10.Yn lluniaiu agoriadol C'mon Midffild, beth yw lliwiau'r crysau'r ddau dîm sy'n chwarae?

Hefyd o ddiddordeb:

Cwis: Cymry'r cyfresi realiti