大象传媒

Edrych ymlaen at ryddid o'r cyfnod clo yn Guernsey

  • Cyhoeddwyd
Elis Bebb, a'i gi, CwstardFfynhonnell y llun, Elis Bebb
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Edrych mlaen at dorri gwallt yn Guernsey: Elis Bebb, a'i gi Cwstard.

Mae Cymry ar ynys Guernsey yn edrych ymlaen at fwy o ryddid wrth i'r ynys baratoi at lacio cyfyngiadau cymdeithasol ar ddydd Sadwrn y 30ain o Fai.

Mae'r ynys yn symud i gam pedwar y llacio cymdeithasol yn gynt na'r disgwyl gan nad oes unrhyw achos o Covid-19 wedi bod ers bron i fis.

Bydd caniat芒d i fwytai a chaffis ail-agor, yn ogystal a siopau trin gwallt a llefydd harddwch.

Bydd hawl hefyd i sinem芒u, campfeydd a chanolfannau hamdden ail-agor tra'n cadw mesurau ymbellhau cymdeithasol, medd y llywodraeth, ac ysgolion yn ailagor ar 8 Mehefin.

Un o'r rhai sy'n edrych ymlaen at gymdeithasu eto yw'r cyn aelod seneddol ar yr ynys, Elis Bebb.

Ar raglen y Post Cyntaf ar 大象传媒 Radio Cymru y bore 'ma dywedodd: "Dwi'n meddwl bod pawb wedi cael hen ddigon ar fod yn sownd yn eu cartrefi bellach felly mae pawb yn edrych ymlaen at fynd allan."

Un o'i flaenoriaethau fydd cael ei wallt wedi torri.

"Roedden i yn siarad efo ffrind ddoe oedd yn brolio ei bod hi wedi gwneud apwyntiad i dorri ei gwallt dydd Mawrth nesa', ond rydw i wedi llwyddo i gael un dydd Sadwrn!" meddai.

"Mae'r ddau ohonom ni yn disgwyl ymlaen i gael mynd allan i d欧 bwyta i gael pizza efo'n gilydd a dwi'n meddwl bod yna dipyn o bobl yn disgwyl ymlaen i fynd i'r dre i siopa ychydig."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Guernsey wedi bod yng ngham tri y cyfnod clo ers 15 Mai, gyda dim ond siopau angenrheidiol ar agor

Bydd rhai cyfyngiadau dal mewn grym. O dan gam pedwar cynllun Guernsey, bydd hawl cynnal "rhai gweithgareddau cyhoeddus" gyda phosibilrwydd o gyfyngu ar nifer y bobl sy'n gallu eu mynychu.

Bydd y cyfyngiadau sy'n atal pobl o gartrefi gwahanol rhag cwrdd yn cael eu codi, ond bydd rhaid cadw pellter cymdeithasol o hyd ac mae'r canllawiau glendid "yn fwy pwysig nag erioed", yn 么l y dalaith.

Bydd modd teithio ar gyfer materion sydd ddim yn angenrheidiol, ond bydd rhaid i unrhyw un sy'n dychwelyd i'r ynys hunan ynysu am 14 diwrnod.

"Mae 'na reolau yn dal i fodoli," medd Elis Bebb. "Mae'n rhaid cadw dwy fetr oddi wrth ein gilydd, ac mae tai bwyta yn gorfod cael byrddau gwag o amgylch y rhai fydd yn bwyta felly mae 'na gyfyngiadau yn dal i fod.

"Dydan ni ddim cweit n么l i normal ond mae hyn yn gam tuag at hynny."

Mae 252 o bobl wedi cael eu heintio a'r coronafeirws ar Ynys Guernsey, ac 16 wedi marw ar 么l cael eu heintio. Does dim achos newydd o'r feirws wedi bod ers 26 diwrnod.