大象传媒

Feirws: Sefyllfa 'heriol' cartrefi gofal Cyngor Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
PencadlysFfynhonnell y llun, Google Earth
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pencadlys y cyngor yng Nghaernarfon

Mae pedwar cartref gofal sydd dan reolaeth Cyngor Gwynedd wedi bod yn delio gydag achosion o Covid-19, yn 么l adroddiad gan yr awdurdod lleol.

Clywodd cyfarfod o gabinet y cyngor ddydd Mawrth fod y sefyllfa yr oedd cartrefi gofal yr awdurdod yn ei wynebu yn "heriol".

Dywedodd deilydd portffolio gwasanaethau oedolion y cyngor fod staff yn parhau i "frwydro tanau o wahanol faint" wrth ddelio gydag achosion o'r haint.

Cartrefi dan sylw

Yn ystod y cyfarfod daeth cadarnhad fod tri cartref gofal i'r henoed dan reolaeth y cyngor wedi bod yn delio gydag achosion o coronafeirws.

Y tri dan sylw oedd Plas Pengwaith yn Llanberis, Llys Cadfan yn Nhywyn a Plas y Don ym Mhwllheli.

Roedd cartref gofal Y Fron Deg yng Nghaernarfon, sydd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, hefyd wedi wynebu'r un sefyllfa, gyda'r haint yn effeithio ar staff yn bennaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dangos fod nifer y marwolaethau Covid-19 mewn cartrefi gofal yng Ngwynedd yn 12, hyd at 24 Ebrill.

Clywodd aelodau'r cabinet fod sefyllfa cyfarpar diogelwch PPE wedi "gwella'n aruthrol" dros yr wythnosau diwethaf, gyda chyflenwad cyson yn dod gan Lywodraeth Cymru.

Ond er hyn, roedd rhai mathau o gyfarpar PPE yn "annigonol", gyda rhai'n mynd yn fwy prin o wythnos i wythnos.

'Agored ag atebol'

Wrth siarad yn ystod y cyfarfod ar-lein, dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig: "Fe wnaethon ni benderfynu enwi'r cartrefi sydd wedi gweld achosion gan fy mod yn credu fod angen bod yn agored ac atebol bob tro ac mae'r peth cywir yw dweud wrth y cymunedau hyn.

"O ran offer PPE mae'r adran wedi bod yn hynod o effeithiol ac mae trefniadau sefydlog iawn mewn lle gyda rhai staff, i bob pwrpas, yn gweithio fel rheolwyr stoc a rheoli'r dosbarthiad o PPE i gartrefi gofal a sefydlu eu hanghenion penodol.

"Mae Siambr Dafydd Orwig yn gweithredu fel ein warws answyddogol gan nad yw'n cael ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd, felly mae staff glanhau a gweithwyr o adrannau tai ac eiddo wedi eu hadleoli i helpu gyda'r broses."

Ychwanegodd fod y broses o brofi am Covid-19 wedi gwella dros yr wythnosau diwethaf, ond fe rybuddiodd y gallai rhai aelodau ddioddef o effeithiau gorweithio, gyda'r adran yn dioddef absenoldeb staff o tua 15%.

Cymhlethdod arall oedd fod gweithwyr yn gweithio oriau hir heb lawer o amser o'r gwaith.

Dywedodd pennaeth y gwasanaeth Aled Davies, fod Cyngor Gwynedd mewn sefyllfa i gynyddu nifer y profion pan fod angen ac roedd yr awdurdod yn cydweithio gyda chynghorau eraill i bwyso a mesur y sefyllfa yng ngogledd orllewin Cymru.