大象传媒

Coronafeirws: Llai o gneifwyr tramor yn dod i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Gwion Evans

Wrth i'r tymor cneifio ddechrau, mae 'na bryder y gallai'r pandemig coronafeirws arwain at brinder gweithwyr tramor.

Fel arfer mae un o bob pum dafad ym Mhrydain yn cael ei chneifio gan gneifwyr o lefydd fel Seland Newydd.

Ond eleni maen nhw'n dewis peidio neu'n methu dod.

Yn ogystal 芒 hynny, mae'r pris gwl芒n wedi gostwng eleni a chneifwyr yn gorfod ceisio gwneud eu gwaith a chadw dau fetr oddi wrth eraill.

Mae cneifio'n dasg hanfodol er lles yr anifail a'r rhain felly'n cael eu cyfri'n weithwyr allweddol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Gwion Evans fod pryder wrth deithio o amgylch ffermydd

Mae Gwion Evans yn un o'r cneifwyr sydd wedi dechrau eleni ac yn gweld gwahaniaeth. Un o'i brif bryderon yw lledu'r haint i ffermwyr bregus.

"Mae'n yfflon o job," meddai. "Ti'n mynd i'r un trelar ac mae rhywun isio dod i 'n么l y gwl芒n 芒'r ffermwr yng nghefn y trelar.

"Ti'n teimlo os ti'n iau, ti'm mor debygol o'i gael o.

"Mae'n job os fyset ti'n cario fo i fferm efo rhywun mewn oed.

"Mae hynny'n yfflon o bryder, yn fwy na [iechyd] fi'n hun a d'eud y gwir."

Gweithwyr tramor

Fel arfer mae 'na 150 o gneifwyr yn dod draw o lefydd fel Seland Newydd ac Awstralia i Brydain yn yr haf.

Mae hynny'n rhyw 20% o'r cneifwyr yma bob blwyddyn.

Ond eleni dydy hynny ddim wedi digwydd.

Y feirws ei hun, rhwystrau a chyfyngiadau teithio, a'r angen posib am gwarantin o bythefnos mewn tymor sydd eisoes yn ddigon byr, ydy rhai o'r rhesymau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fel arfer mae 150 o gneifwyr tramor yn dod i Brydain yn yr haf

Er bod digon o gneifwyr yng Nghymru, fe allai achosi problemau mewn rhai ardaloedd ac mae'r Bwrdd Gwl芒n wedi gorfod gweithredu.

"Oedd o yn bryder ond 'den ni wedi rhoi mesurau mewn lle," medd Gareth Jones o'r Bwrdd Gwl芒n.

"'Den ni'n cydweithio efo partneriaid o fewn y diwydiant a 'den ni wedi sefydlu cofrestr cneifio fel bod cneifwyr a chontractwyr yn medru cysylltu efo'i gilydd.

"Er bod o'n mynd i fod yn her, 'den ni'n teimlo bod ni'n mynd i fod yn llwyddiannus efo'r tymor."

Mae prisiau wedi eu taro hefyd - gyda 30% o'r gwl芒n yn cael ei allforio i China.

Dydy'r Bwrdd Gwl芒n ddim yn rhoi blaendal i ffermwr felly am wl芒n eleni - dim ond talu'r hyn sy'n weddill am wl芒n y llynedd.

"Gan bod y feirws wedi dechrau yn fan'no, mi wnaeth y farchnad yn China slofi lawr yn sylweddol fis Ionawr," ychwanegodd Mr Jones.

"Ddiwedd mis Mawrth mi wnaeth y farchnad yn y wlad yma gau.

"Mae'r farchnad wedi cychwyn agor i fyny eto ac mae'r prosesu wedi cychwyn yma eto ym Mhrydain.

"Ond mae'n mynd i gymryd amser i'r farchnad ddod yn 么l i le oedd o ac i'r galw ac i'r pris godi."