Oriel fy milltir sgw芒r: Pontarddulais
- Cyhoeddwyd
Yn ystod y cyfnod cloi mae Cymru Fyw wedi gwahodd ffotograffwyr i rannu delweddau o'u milltir sgw芒r.
Dyma oriel o luniau diweddar gan Betsan Haf Evans, Celf Calon, ym Mhontarddulais. Mae hi wedi bod yn tynnu lluniau er mwyn cefnogi ymgyrch Tarian Cymru i godi arian i brynu offer gwarchodol i weithwyr iechyd a gofal yng Nghymru.
"Ar ddiwrnod VE roeddwn i yn eistedd yn yr ardd yn ac yn clywed pobl yn dathlu yn y pellter.
"Penderfynais fynd am w芒c o gwmpas Pontarddulais gyda fy nghamera i ddogfennu beth oedd yn mynd ymlaen ar strydoedd y diwrnod hwnnw."
"O fan hyn ddaeth y syniad i gynnig lluniau wrth y drws am rodd tuag at Tarian Cymru. Mae wedi bod yn gr锚t gallu helpu'r achos trwy ddefnyddio fy sgiliau ac i ddogfennu'r cyfnod hwn."
"Yn anffodus, oherwydd coronafeirws rwyf wedi colli'r holl waith a oedd wedi ei drefnu yn y misoedd nesa. Ond mae'r 'lluniau wrth y drws' yn gwneud byd o les i mi wrth fynd o gwmpas ar fy meic."
"Dwi'n gwybod taw tynnu lluniau o bobl yw fy moddhad mwyaf, ond mae hefyd wedi gwneud i fi sylweddoli faint o les mae rhyngweithio gyda phobl yn ei wneud."
Hefyd o ddiddordeb