Gwrthwynebu codi ysbyty £180m ar gyrion Caerdydd

Disgrifiad o'r llun, Mae nifer o bobl leol wedi defnyddio'r tir dan sylw i fynd am dro yn ystod y pandemig
  • Awdur, Owain Evans
  • Swydd, Newyddion ´óÏó´«Ã½ Cymru

Mae dros 7,500 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu codi ysbyty canser newydd gwerth £180m ar gyrion Caerdydd.

Maen nhw'n poeni am golli tir glas ar adeg pan mae pobl yn cael eu cymell i ymarfer corff yn lleol.

Mae Ymddiriedolaeth Ysbyty Felindre yn dadlau mai'r caeau, ger ardal yr Eglwys Newydd, yw'r unig safle addas.

Yn ôl trefnydd y ddeiseb, Tessa Marshall does dim angen codi ysbyty ar y caeau.

'Newid personoliaeth' yr ardal

"'Dyn ni ddim angen naill ai ysbyty neu lle gwyrdd, ni'n gallu cael ysbyty a lle gwyrdd… ac mae lle ar safle hen ysbyty'r Eglwys Newydd," meddai.

"Bydd y datblygiad yma'n newid personoliaeth yr Eglwys Newydd am byth. Os chi'n cael datblygiad tai ar safle hen ysbyty'r Eglwys Newydd a hefyd ysbyty newydd fan hyn bydd yr holl ardal yn newid.

"Bydd pobl leol yn colli mynediad i lefydd gwyrdd a hynny yng nghanol pandemig lle mae pobl fod i ymarfer corff yn lleol. Dyw e ddim yn ystyried lles tymor hir y gymuned."

Disgrifiad o'r llun, "Bydd hyn yn newid personoliaeth yr Eglwys Newydd am byth," meddai Tessa Marshall

Mae 'na ganiatâd cynllunio ar gyfer ysbyty ar y safle ers dwy flynedd ond mae problemau wrth drefnu mynediad i'r safle wedi achosi oedi.

Mae dau gais cynllunio newydd yn gobeithio datrys hynny ond mae rhai'n mynnu nad dyma'r safle cywir.

Yn ôl Steffan Webb, sy'n rhan o'r ymgyrch i warchod y caeau, mae cost y datblygiad wedi cynyddu oherwydd anhawster wrth gael mynediad i'r safle.

"Mae Llywodraeth Cymru'n mynd i wario £30m i roi pontydd mewn jyst i ddatblygu'r safle yma," meddai.

"Tasen nhw wedi dewis safle call bydde gyda nhw £30m ychwanegol i wario ar yr ysbyty."

Mae ymddiriedolaeth Ysbyty Felindre yn dadlau y byddan nhw'n arbed arian wrth ddefnyddio safle sy'n eiddo i'r bwrdd iechyd lleol.

Maen nhw hefyd yn dweud y bydd dal modd i bobl ddefnyddio'r caeau.

"Bydd 60% o'r tir yn parhau i fod ar gael i'r gymuned leol ar ôl codi'r ysbyty," meddai'r ymddiriedolaeth.

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol iddynt fel ased cymunedol.

"Bydd y cynlluniau'n golygu gall cleifion elwa o'r safle yn yr un modd a'n cymdogion - byddant yn gallu rhannu mannau gwyrdd a'r awyr iach er lles pawb.

"Ystyriwyd safleoedd eraill ar draws de-ddwyrain Cymru ond cawson nhw eu diystyru am wahanol resymau.

"Byddwn yn parhau i gydweithio gyda'n cleifion a'n cymdogion i ddatblygu canolfan ganser newydd sy'n gweithio i ni i gyd."