大象传媒

Fideo 'arswydus' George Floyd yn ormod i'r prif weinidog

  • Cyhoeddwyd
protestiadau BLM
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd protest Black Lives Matter o flaen Castell Caerdydd dros y penwythnos

Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi disgrifio'r fideo o farwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau fel "un o'r pethau mwyaf arswydus" iddo weld erioed.

Roedd Mr Drakeford yn cynnal sesiwn holi ac ateb ar Twitter, ac fe'i holwyd am brotestiadau yng Nghymru fel rhan o'r ymgyrch Black Lives Matter (BLM).

Atebodd: "Rhaid i mi ddweud i ddechrau bod y ffilm y mae rhai pobl wedi gweld o'r hyn ddigwyddodd i George Floyd yn un o'r pethau mwyaf arswydus i fi weld erioed.

"Roeddwn i'n methu gwylio'r cyfan am ei fod yn rhy ddirdynnol.

"Ond roedd yn f'atgoffa o'r berthynas hir sydd wedi bod rhwng Cymru a'r gymuned ddu yn yr Unol Daleithiau ers y 1930au pan ddaeth Paul Robeson - y canwr ac ymgyrchydd hawliau sifil - i Aberpennar i gefnogi glowyr oedd yn brwydro yn Rhyfel Cartref Sbaen.

"Ry'n ni'n teimlo i'r byw dros deulu George Floyd a phobl ddu America."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r protestiadau yn rhai o ddinasoedd America wedi troi'n dreisgar

Aeth ymlaen i s么n am y brotest a gynhaliwyd yng Nghaerdydd dros y penwythnos i gefnogi ymgyrch BLM.

Dywedodd ei fod yn ddiolchgar bod trefnwyr y brotest wedi trafod gyda Heddlu De Cymru o flaen llaw a chytuno y byddai'r brotest yn para am awr, ac yn parchu ymbellhau cymdeithasol.

Ychwanegodd:聽"Waeth pa mor gryf yr ydych chi'n teimlo, ry'n ni'n gofyn i bobl beidio teithio mwy na phum milltir.

"Mae ffyrdd eraill o fynegi eich barn a'ch protest, ac rwy'n annog pawb i wneud hynny yng nghanol amgylchiadau sydd wedi bod yn wirioneddol eithriadol."