Gohirio hanner marathon Caerdydd tan Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd
Mae hanner marathon Caerdydd ym mis Hydref wedi ei gohirio tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf oherwydd argyfwng coronafeirws.
Mae'r ras wedi tyfu i fod yn un o'r digwyddiadau mwyaf o'i fath yn y DU gyda 27,500 o redwyr a hyd at 100,000 yn gwylio ar y teledu.
Ond dywed y trefnwyr Run 4 Wales y byddai cynnal y ras ymhen pedwar mis ar 4 Hydref "ddim yn ymarferol."
Bydd y ras bellach yn digwydd ar 28 Mawrth, 2021.
"Mae 'na ansicrwydd yn parhau am sut y bydd pethau yn yr hydref," meddai prif weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman.
"Dyw'r prognosis dim yn rhy dda ar hyn o bryd ac mae'n edrych y bydd digwyddiadau o'r fath ymysg y rhai olaf i ddychwelyd pan fydd pethau'n dechrau setlo lawr.
"Er y galle ni fod wedi aros am 12 mis a dod yn 么l yn Hydref 2021, roedden ni eisiau rhoi'r opsiwn i gystadleuwyr ddod ym mis Mawrth, pan ry'n ni'n teimlo y bydd y byd yn dechrau dod yn 么l i ryw fath o normalrwydd."
Siom i redwyr
Mae'r penderfyniad yn siom i nifer o redwyr, yn enwedig wedi i farathon Llundain a nifer o rasys rhedeg eraill gael eu gohirio neu ganslo hefyd eleni. Roedd marathon Llundain wedi'i ohirio i ddigwydd yr un diwrnod a hanner marathon Caerdydd a does dim newyddion eto a fydd hynny yn newid.
Roedd Owain Schiavone o Aberystwyth wedi bwriadu rhedeg marathon Llundain am y tro cyntaf i ddathlu ei ben-blwydd yn 40 eleni, cyn ceisio ennill ei gategori oed newydd yn hanner marathon Caerdydd.
Ond mae'n dweud bod ei freuddwydion wedi chwalu.
"On i wedi cynllunio i'w neud o ar fy mhen-blwydd yn ddeugain oed ers ugain mlynedd. On i arfer deffro efo hangovers a gwylio marathon Llundain, gan bo fi'n dathlu fy mhen-blwydd wastad ar yr un penwythnos.
"Felly dwi'n cofio gorwedd yn y gwely a dweud 'dwi'n mynd i neud hwnna pan dwi'n 40.' Daeth y coronafeirws a sbwylo popeth!"
Ar 么l gwneud yr holl hyfforddi, aeth Mr Schiavone ati i redeg marathon yn dawel bach yn ei ardal leol beth bynnag.
Ond ar 么l rhedeg hanner marathon Caerdydd saith gwaith yn barod, mae'r newyddion na fydd yn digwydd eleni yn siom pellach.
"Y broblem efo rasys mawr fel Llundain, neu Caerdydd ydi nid yn unig y rhedwyr, ond y bobl sy'n gwylio hefyd.
"Mae gen ti'r broblem o'r rhedwyr yn casglu ar y llinnell ddechrau, dio'm yn mynd i fod yn bosib cadw dau fetr o bellter yn fanno. Ond yn fwy na hynny, y bobl sy'n gwylio.
"Yn Llundain ti'n s么n am dorfeydd o bedwar, pump person yn ddwfn.
"Mae nhw'n sefyll yna am dair awr, gyda posibilrwydd bod rhywun gyda'r feirws drws nesa i ti."
'Rhaid addasu'
Mae Mr Schiavone yn rhagweld y bydd rhaid i drefnwyr rasys addasu er mwyn cynnal digwyddiadau rhedeg yn y dyfodol.
"Dwi'n gobeithio bydd rasys lleol yn dal i allu digwydd. Does fawr neb yn eu gwylio nhw. Mae lot haws i reoli niferoedd."
Mae nifer o rasys lleol wedi bod yn cael eu cynnal yn rhithiol, yn cynnwys y 'Great Welsh Marathon.'
Fe ennillodd Owain ef y ras honno ar 么l cyflwyno'i amser o 02:46:45 ar gofnodydd rhedeg gps.
Wrth gyflwyno system o donnau o redwyr, neu brofion amser, mae Mr Schiavone yn credu y bydd modd ailddechrau cynnal rasys gan leihau risg i redwyr unwaith eto.
"Mae 'na ffyrdd o ailgyflwyno'r peth, ond bydd rhaid bod yn ofalus a bydd rhaid i'r trefnwyr fod yn eithaf dyfeisgar o ran sut maen nhw'n mynd o'i chwmpas hi hefyd."
'M么r o ferched' yn 2021
Mae clybiau rhedeg wedi siomi hefyd, yn cynnwys 'She Runs: Cardiff / Mae Hi'n Rhedeg: Caerdydd.'
"Yn amlwg rydyn ni'n teimlo'n drist bydd dim Hanner Marathon Caerdydd y flwyddyn yma ond dydyn ni ddim yn synnu ac mi rydyn ni tu 么l i'r penderfyniad 100%." medd Myfanwy Thomas o'r gr诺p.
"Dyw hi ddim yn credu y bydd unrhyw ras yn cael ei chynnal am weddill y flwyddyn.
"Mae'n rhaid neud beth sydd orau i iechyd y rhedwyr a'r ddinas yn gyffredinol.
"Hanner Marathon Caerdydd 2019 oedd y lle cyntaf i ni gwrdd yn ffurfiol fel gr诺p 'Mae Hi'n Rhedeg: Caerdydd' ac mae'r ras yn sbesial iawn i ni fel ein "ras cartref".
"Roedd nifer fawr ohonon ni am gymryd rhan yn cynnwys rhai sydd erioed wedi rhedeg ras o'r blaen, ond mi fyddwn ni'n edrych 'mlaen i'r ras wedi ei ohirio ym mis Mawrth 2021.
"Bydd 'na f么r o ferched yn gwisgo porffor yna!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2018