大象传媒

Achub dyn oddi ar ynys ger Rhosneigr ar Ynys M么n

  • Cyhoeddwyd
Map yn dangos Ynys FeurigFfynhonnell y llun, ONS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Casgliad o greigiau oddi ar Rhosneigr ydy Ynys Feurig

Mae dyn wedi cael ei achub ar 么l mynd i drafferth yn y m么r oddi ar Ynys M么n.

Fe dderbyniodd Gwylwyr y Glannau Caergybi neges frys am 18.40 nos Lun gan ddyn oedd yn dweud ei fod wedi mynd i drafferth ger Rhosneigr a bod ei gwch wedi dechrau suddo.

Cafodd dau fad achub o Fae Trearddur a Rhosneigr eu galw ac fe ddaethon nhw o hyd i'r dyn ar Ynys Feurig.

Roedd yn ceisio dal gafael ar ei gwch 14 troedfedd gyda darn o raff ar y pryd.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau fod y dyn wedi llwyddo i nofio at yr ynys ac wedi tynnu ei hun ar y creigiau, sydd yn y m么r i'r de o Faes Awyr Mona.

Cafodd y g诺r ei achub gan y Bad Achub. Cafodd ei gwch ei dynnu i'r lan yn ddiweddarach gan dractor.

Dyma o leiaf y trydydd tro ym mis Mehefin i'r bad gael ei alw o Drearddur. Bu'n rhaid i'r criw achub person oedd wedi'i chwythu o'r lan ar gwch dingi ger Rhosneigr ar 1 Mehefin. Y diwrnod wedyn roedd dynes wedi mynd i drafferthion ger Porth Dafarch.