大象传媒

Pryderon 'difrifol' am degwch achosion is-bostfeistri

  • Cyhoeddwyd
Noel Thomas
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Noel Thomas wedi gweithio i'r Swyddfa Bost am ddegawdau cyn cael ei erlyn a'i garcharu

Mae 'na bryderon difrifol am degwch achosion llys degau o is-bostfeistri gafwyd yn euog o dwyll, yn 么l y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol.

Wrth gyhoeddi eu rhesymau dros yrru nifer o'r achosion i'r Llys Ap锚l, mae'r Comisiwn yn dweud fod yna le i amau a oedd y Swyddfa Bost wedi ymchwilio'n drwyadl a gwrthrychol i'r mater.

Chafodd y llysoedd ddim gwybod fod yna bosibilrwydd cryf mai nam cyfrifiadurol oedd yn gyfrifol am symiau o arian yn mynd ar goll rhwng 2001 a 2013.

Un o'r achosion fydd yn cael ei ailystyried ydi un Noel Thomas o Gaerwen ar Ynys M么n. Cafodd o ei garcharu yn 2005 wedi i 拢48,000 ddiflannu o gyfri'r swyddfa.

'Dwi wedi colli bob dim'

Y llynedd penderfynodd yr Uchel Lys o blaid yr is-bostfeistri, gyda'r barnwr yn llym ei feirniadaeth o ymddygiad y Swyddfa Bost. Ond symiau cymharol fychan o iawndal mae'r is-bostfeistri wedi cael yn sgil yr achos.

Mae'r arian mae Noel Thomas wedi'i dderbyn yn cynnwys 拢3,500 am yr "anghyfleustra o gael eich carcharu".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd dedfrydau 39 o is-bostfeistri eu cyfeirio y llynedd at y Llys Ap锚l

"Mae'n warthus, deud gwir," meddai Mr Thomas. "Dwi wedi colli bob dim.

"Weithiais i'r Swyddfa Bost am 42 o flynyddoedd, a be gefais i oedd ddim medal, neu diolch yn fawr, ond 13 wythnos yng ngharchar."

Diffyg gwybodaeth

Wrth gyhoeddi'r rhesymau am yrru achos Mr Thomas a 46 achos arall i'w hailystyried gan y Llys Ap锚l, mae'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol yn dweud fod yna le i gredu na chafodd y llysoedd wybodaeth lawn a chywir yngl欧n 芒 phroblemau gyda system gyfrifiadurol o'r enw Horizon.

Mae'r Comisiwn yn dweud fod yna bellach "bryderon difrifol am degwch yr achosion".

Mae'r Swyddfa Bost yn dweud eu bod wedi gwneud "newidiadau sylfaenol" ac y byddan nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i hwyluso'r broses gyfreithiol.