Adam Price yn cydnabod 'cam' galw am ddigolledu Cymru

Mae Plaid Cymru wedi cydnabod fod eu harweinydd, Adam Price, yn "anghywir" i alw ar y DU i ddigolledu Cymru am ganrif o dlodi heb gyfeirio at r么l Cymru o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig.

Ar drothwy cynhadledd hydref y blaid y llynedd fe ddywedodd Mr Price mewn erthygl ar-lein y dylai'r DU dalu iawndal i Gymru wedi canrif o gael ei "gwthio i ddyfnderoedd tlodi."

Mewn e-bost yn yr un mis at ymgyrchwyr hawliau'r gymuned ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) dywedodd Mr Price ei fod yn derbyn beirniadaeth mewn cysylltiad 芒'i ddadl.

Dywed datganiad bod y blaid mewn trafodaeth "gyson" gyda'r gymuned BAME.

Mae'r blaid wedi cyhoeddi datganiad ar ran aelodau ei changen BAME, sy'n dweud eu bod yn gwybod "nad oedd Adam Price yn cymharu helyntion hanesyddol Cymru 芒 dioddefaint y gymuned BAME."

Dywedodd Mr Price ym mis Hydref fod Cymru'n haeddu "iawndal am ganrif o esgeulustod sydd wedi gadael gwlad 芒 chyfoeth o adnoddau, etifeddiaeth chwerw o dlodi, salwch, difetha bywydau a chwalu breuddwydion."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae marwolaeth George Floyd yn America wedi aildanio'r ddadl ynghylch hiliaeth ar draws y byd

Yn yr erthygl ar gyfer gwefan Nation Cymru, ychwanegodd Mr Price: "Mae'r ddadl y dylai'r Ymerodraeth Brydeinig ddigolledu pobl ei chyn-drefedigaethau yn cael ei chyfleu'n bwerus gan y gwleidydd Indiaidd, Shashi Tharoor. Ond dylid ychwanegu trefedigaeth gyntaf Lloegr ar y rhestr hir yna o gredydwyr."

Tua thair wythnos wedi'r gynhadledd fe gysylltodd un o uwch swyddogion Plaid Cymru gyda gr诺p ymgyrchu BAME yng Nghymru, gan gynnig cyfarfod gyda Mr Price i drafod eu gwaith a chynnig cymorth.

Dywed yr e-bost, y mae 大象传媒 Cymru wedi ei weld: "Efallai eich bod yn cofio iddo alw, o gwmpas adeg cynhadledd Plaid Cymru, am 'ddigollediadau' i Gymru gan y wladwriaeth Brydeinig.

"Mae e nawr yn cydnabod a derbyn y feirniadaeth mewn ymateb i'r stori - hynny yw, fod cyflwyno'r fath ddadl heb ystyried rhan Cymru yn yr ymerodraeth a gwladychiaeth yn anghywir."

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Vaughan Gething feirniadu sylwadau Adam Price yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol y llynedd

Fe wnaeth Mr Price amddiffyn y ddadl mewn erthygl ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig ym mis Tachwedd, ac mewn ymateb i feirniadaeth gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd Mr Gething bryd hynny ei fod wedi "syfrdanu" fod Mr Price "wedi defnyddio terminoleg sy'n fwriadol yn cymharu profiad Cymru 芒 gwladychiaeth, a chyn hynny caethwasiaeth.

Ffynhonnell y llun, Alexandra Derwen

Disgrifiad o'r llun, Roedd y cerflun yma o HM Stanley yn Ninbych yn ddadleuol cyn y protestio diweddar ar draws y byd

Cyfarfod "adeiladol"

Mewn ymateb i gais 大象传媒 Cymru am ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae Adam Price mewn trafodaeth adeiladol, gyson gyda'r gymuned BAME ac fe wnaeth y blaid ofyn am gyfarfod gydag unigolion wedi'r gynhadledd hydref.

"Roedd darllen y gefnogaeth a'r ganmoliaeth i Mr Price yn y gohebiaeth yn galonogol, ac mae'r cynnig i gynnal cyfarfod yn sefyll.

"Ar ben ac ar wah芒n i hynny, roedd Mr Price yn ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfarfod cadeirydd a chynrychiolydd BME Plaid yn Chwefror. Yn y cyfarfod, fe wnaeth Mr Price bwysleisio rhan Cymru mewn gwladychiaeth a'r angen i ddod 芒 hynny i'r amlwg."

Mewn datganiad a gyhoeddwyd trwy'r blaid ganolog, dywedodd cangen Plaid BME eu bod "wedi cael cyfarfod adeiladol iawn gyda Mr Price, ble wnaeth e ymhelaethu ar ei ddadl yn feddylgar ac yn rhesymegol."

"Cawsom sicrwydd diamod fod Mr Price 芒 dealltwriaeth ddofn o'r mater, ac roeddem yn awyddus iawn i gyfleu hynny i'n cymuned. Rydym yn gwybod nad oedd Adam Price yn cymharu helyntion hanesyddol Cymru 芒 dioddefaint y gymuned BAME.

"Fe wnaethon ni hefyd groesawu addewid Mr Price i ni y byddai' ysgrifennu rhagor am y pwnc yma, ac edrychwn ymlaen at ddarllen hynny yn y cyfnod wedi Covid."