Sbwriel 'ar gynnydd' ers agor siopau tecaw锚
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynnydd mewn sbwriel ers i siopau tecawe agor yn "siomedig", yn 么l rhai cynghorau a Chadw Cymru'n Daclus.
Daw ar 么l wythnosau "gwych" o "ddim sbwriel yn unlle" yn ystod wythnosau cyntaf y cyfnod clo, meddai'r elusen.
Ond mae Cadw Cymru'n Daclus yn credu bod agweddau wedi newid tuag at sbwriel wrth i bobl dreulio mwy o amser yn eu hardaloedd lleol, a bydd hynny yn arwain at welliannau.
"Yn anffodus, wrth i ni allu aros allan yn hirach, mae rhai pobl wedi bod yn gadael mwy o sbwriel," meddai Louise Tambini, dirprwy brif weithredwr Cadw Cymru'n Daclus.
"'Da ni wedi cael llawer iawn mwy o gwynion... am sbwriel yn cael ei adael mewn parciau ac ar draethau."
Gobaith Ms Tambini ydy y bydd pobl yn fwy tebygol i godi sbwriel maen nhw'n ei weld.
Ychwanegodd: "Os ydy pobl leol yn flin yna mae'n bosib y bydda nhw'n herio pobl sy'n gadael sbwriel neu sydd ddim yn ymddwyn yn briodol.
"Fe all y meddylfryd yna gael effaith hirdymor."
'Bwyd brys a sbwriel yn mynd law yn llaw'
Yn dilyn y cynnydd mewn achosion o sbwriel, mae cangen Plaid Cymru ym Mlaenau Gwent wedi creu deiseb sy'n gofyn bod rhifau cofrestru cerbydau yn cael eu nodi ar becynnau bwyd o fwytai tecaw锚 gyda gwasanaeth drive-though.
Hyd yma, mae 3,000 o lofnodion ar y ddeiseb.
Dywedodd Ll欧r Gruffydd AS: "Mae'r cynnydd mewn sbwriel yng Nghymru yn poeni nifer o bobl ar draws y wlad, gan gynnwys yn fy etholaeth i.
"Mae'n edrych fel bod bwyd brys a sbwriel yn mynd law yn llaw, ac mae angen datrysiad hirdymor i fynd i'r afael 芒'r mater."
Mae Traffig Cymru wedi rhoi rhybudd ar Twitter ar 么l sylwi ar fwy o sbwriel wrth ochr ffyrdd.
Nid yw pob cyngor wedi nodi cynnydd mewn sbwriel, tra bod eraill yn dweud bod mwy o lanhawyr wedi cael eu defnyddio.
Ond dywedodd Cyngor Powys bod lleihad mawr wedi bod yn amlwg yn ystod cychwyn y cyfnod clo ond bod biniau yn llawn pedair awr ar 么l i fwyty McDonald's agor yn Y Drenewydd, a bod un person wedi cael dirwy.
Ym Mlaenau Gwent, gwelwyd cynnydd mewn sbwriel wrth ochr y ffordd ac mewn meysydd parcio. Yr un oedd y darlun yn Sir y Fflint, Sir Fynwy a Thorfaen.
Yn 么l Dr Christian Dunn, arbenigwr mewn microblastigau o Brifysgol Bangor, mae cynnydd bach mewn sbwriel yn gallu cael effeithiau pellgyrhaeddol.
"Os ydych chi'n taflu potel dd诺r blastig i ffwrdd yna fe all y darn plastig yna dorri'n ddarnau man," meddai.
"Y broblem ydy 'da ni ddim yn gwybod effaith llawn y microblastig yna. Mae ymchwil yn dangos bod darn bach o blastig yn gallu gollwng cemegau niweidiol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2020
- Cyhoeddwyd1 Mai 2020
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020