Ateb y Galw: Y berfformwraig C锚t Haf
- Cyhoeddwyd
Y berfformwraig C锚t Haf sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Elan Elidyr yr wythnos diwethaf.
Mae C锚t yn berfformiwr llawrydd sydd wedi gweithio efo nifer o gwmn茂au theatr, dawns a theledu Cymru ers dros ddeng mlynedd. Mae hi yn ei helfen wrth gyfuno dawns efo theatr ac yn aelod o Kitsch & Sync Collective.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dw i'n cofio chwilio am wenyn meirch yn 'y'n sannau y tro cynta' i mi deimlo pins and needles yn 'y'n nhraed. Tua tair o'n i dw i'n meddwl.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Dwn i'm am ffansio, ond oedd gena'i obsesiwn efo Elvis Presley.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dw i erioed 'di chwerthin gymaint 芒 pan nes i ar 么l perfformio dawns Bedraggled efo Kitsch & Sync yn Ng诺yl Rhif 6. Oeddan ni'n dawnsio yn y pwll ffynnon fel m么r forynion a hanner ffordd drwy'r ddawns daeth 'y ngwisg i ffwrdd yn un! Oedd e 'di amsugno gymaint o dd诺r nes iddo fe fynd yn rhy drwm i aros i fyny, so dyna lle o'n i yn sydyn mewn dim byd ond hold me in pants anferth (diolch byth) a wig!
Oedd e'n hileriys, a nes i jyst cario mlaen wedyn tra'n dal y wisg fyny efo un braich a 'neud y coreograffi efo'r llall fel m么r forwyn llawn rhwystredigaeth dramatig!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Pan o'n i'n gwylio Pocahontas diwrnod o'r blaen.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dw i'n gallu daydreamio fel dwn i'm be'!
O archif Ateb y Galw:
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dw i wrth fy modd wrth y m么r yn Ynys Las. Dyna le braf i fynd am dro, a dip bach mewn i'r d诺r os dwi'n teimlo digon fel pysgodyn.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Oedd nos galan 2018-19 yn anhygoel. Gwisgo gymaint o sequins a glitter 芒 phosib, a dawnsio dw-lal efo'n ffrindiau tan 9.30 y bore.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Hapus, amyneddgar, penderfynol.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Audrey Hepburn am bod hi'n lysh a Fred Astaire i ga'l gwers dawnsio tap epic.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Hoff lyfr(au): Harry Potters i gyd. Dyna sut nes i ddarganfod pleserau darllen am y tro cyntaf, wrth wrando ar yr audiobooks gan Stephen Fry ar yr un pryd.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dw i'n siarad Gwyddeleg efo Dad.
Beth yw dy hoff g芒n?
Suspicious Minds gan Elvis, wastad wedi bod yn ffefryn - ei lais! Ond obsesiwn lockdown fi yw Goodnight Moon gan Boogie Belgique.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Yn gyntaf madarch hufenog, garllegog ar dost. Wedyn tatws trwy cr诺yn efo caws, baked beans a llwyth o fenyn go iawn. A pwdin reis Mam i bwdin.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Ca'l parti disgo drwy dydd a noson efo'n nheulu a'm ffrindiau oll ar y traeth efo buffet brechdan a creision a hwmws.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Mozart - 'swn i'n hoffi clywed be' oedd e'n gallu clywed yn ei feddyliau wrth gyfansoddi. Wedyn troi mewn i Anna Pavlova a dawnsio i'w gyfansoddiadau.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Elgan Rhys