大象传媒

Cynnal rhagor o brotestiadau 'Black Lives Matter'

  • Cyhoeddwyd
Barri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Protestwyr yn gwrando ar anerchiadau yn y brotest Black Lives Matter yn Y Barri

Mae cannoedd o bobl wedi gorymdeithio drwy'r Barri mewn protest heddychlon i gefnogi ymgyrch Black Lives Matter.

Daw hynny mewn ymateb i ddigwyddiad ym Minnesota, UDA ar 25 Mai pan gafodd dyn du, George Floyd, ei ladd gan swyddog heddlu.

Mae'r farwolaeth wedi arwain at brotestiadau mawr yn yr Unol Daleithiau, gyda gwrthdystiadau hefyd wedi'u cynnal yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Fe ddaeth dros 350 o bobl at ei gilydd tu allan i neuadd y dref yn y Barri ym Mro Morgannwg ddydd Sadwrn.

Daeth 200 o bobl at ei gilydd mewn protest BLM arall yng Nghas-gwent.

Roedd trefnwyr y protestiadau wedi gofyn i bobl oedd yn cymryd rhan i wisgo mygydau a chadw pellter rhesymol oddi wrth eu gilydd.

Yng Nghas-gwent fe blygodd rhai ar un ben-glin mewn protest yn erbyn hiliaeth, tra'r oedd cais yn Y Barri i bawb oedd wedi dioddef hiliaeth i sefyll mewn llinell.

Dangos cefnogaeth

Dywedodd trefnwyr protest Y Barri eu bod yn ymgyrchu i ddangos eu cefnogaeth i ymgyrch Cyfiawnder i George Floyd.

Dyma'r gwrthdystiadau diweddaraf i ddigwydd yma yng Nghymru, yn dilyn rhai ym Mhen-y-bont, Caerdydd a Machynlleth.

Ddydd Iau daeth tua 1,000 o bobl at ei gilydd yng Nghasnewydd er mwyn lleisio eu cefnogaeth i ymgyrch Black Lives Matter.