Llyfrgelloedd yn ail-ddechrau benthyca llyfrau
- Cyhoeddwyd
Wedi wythnosau o fod ar gau oherwydd cyfyngiadau coronafeirws, mae rhai llyfrgelloedd yng Nghymru wedi ailddechrau benthyca llyfrau unwaith eto.
Yn dilyn trafodaethau, mae gwasanaethau llyfrgell ledled Cymru yn cyflwyno cynlluniau archebu a chasglu.
Dechreuodd cynllun o'r fath yn Sir Ddinbych ddydd Llun, a bydd trefniant tebyg yn cael ei dreialu gan gynghorau sir Caerdydd, Powys a Cheredigion yr wythnos nesaf.
Mae disgwyl i gynghorau eraill gyhoeddi eu cynlluniau hwythau yn fuan.
Sut fydd y system yn gweithio?
Mae'r manylion yn amrywio o sir i sir, ond yn fras bydd pobl naill ai'n gallu archebu llyfrau arlein neu dros y ff么n.
Mewn rhai ardaloedd bydd pobl yn gallu derbyn detholiad o lyfrau wedi eu dewis gan staff y llyfrgell, yn seiliedig ar ddiddordebau a nodwyd ganddynt.
Mae'r rhan fwyaf o siroedd wedi dewis nifer fechan o lyfrgelloedd fel canolfannau lle bydd pobl yn gallu casglu eu llyfrau drwy apwyntiad, a gan ddilyn y canllawiau ymbellhau cymdeithasol.
Os yw'r cwsmer yn byw yn rhy bell o'r ganolfan bydd y llyfrgelloedd yn dosbarthu llyfrau i'w cartrefi, gyda chymorth partneriaid a gwirfoddolwyr lleol.
Bydd llyfrau'n cael eu rhoi mewn cwarantin am 72 awr cyn cael eu casglu, a'r cyngor ydy i gwsmeriaid wneud yr un fath ar 么l eu derbyn, ac i olchi eu dwylo cyn ac ar 么l eu darllen.
Mae disgwyl i'r llyfrgelloedd teithiol ailddechrau hefyd, gan ganolbwyntio ar wasanaethu cwsmeriaid sy'n gaeth i'w cartrefi yn unig.
Ni fydd dirwyon am lyfrau hwyr, ac ni fydd t芒l am fenthyg eitemau fel DVDs a CDs, fel sy'n arferol.
Mae'r drefn clicio a chasglu yn debygol o barhau am o leiaf dri mis.
Adeiladau'n dal ar gau
Dywedodd y cynghorydd Lynda Thorne, aelod o gabinet Cyngor Caerdydd, eu bod yn falch o allu cyflwyno'r gwasanaeth clicio a chasglu i gwsmeriaid.
"Rydym yn gwybod fod pobl wedi colli defnyddio'n llyfrgelloedd dros y misoedd diwethaf, felly mae hwn yn gam positif ymlaen wrth inni weithio ar adfer ac ailagor ein hadnoddau'n raddol," meddai.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, aelod cabinet dros dai a chymunedau ar Gyngor Sir Ddinbych: "Rydym yn falch iawn i ail-gyflwyno elfen o'r gwasanaeth llyfrgell, yn cynnig mynediad i'r cyfoeth o lyfrau sydd gennym ar gael.
"Diogelwch ein staff a chwsmeriaid yw ein blaenoriaeth ac fe fydd ein llyfrgelloedd yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar sut i drin llyfrau llyfrgell, er mwyn helpu diogelwch a llesiant pobl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2020
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020
- Cyhoeddwyd8 Mai 2020