大象传媒

Protest yn erbyn codi ysbyty ar gyrion Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
protestwyr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth y protestwyr gadw at reolau ymbellhau cymdeithasol

Mae dros 250 o bobl wedi cynnal protest yn erbyn cynlluniau i godi canolfan ganser newydd gwerth 拢180m ar gyrion Caerdydd.

Fe wnaeth y protestwyr, oedd yn cadw at reolau ymbellhau, alw ar Ymddiriedolaeth Ysbyty Felindre i roi'r gorau i'w cynlluniau i ddefnyddio safle ar gaeau i'r gogledd o'r Eglwys Newydd.

Maen nhw'n dadlau y byddant yn colli tir gwyrdd, a bod dros 10,000 wedi arwyddo deiseb ar-lein yn gwrthwynebu.

Dywed yr ymddiriedolaeth mai hwn yw'r unig safle addas.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tessa Marshall yw trefnydd y ddeiseb sydd wedi casglu 10,000 o enwau

Mae 'na ganiat芒d cynllunio ar gyfer ysbyty ar y safle ers dwy flynedd ond mae problemau wrth drefnu mynediad i'r safle wedi achosi oedi.

Dywedodd Tessa Marshall, un o drefnwyr y ddeiseb, fod angen diogelu tiroedd gwyrdd yn y ddinas.

"Bydd pobl leol yn colli mynediad i lefydd gwyrdd a hynny yng nghanol pandemig lle mae pobl fod i ymarfer corff yn lleol", meddai mewn cyfweliad gyda 大象传媒 Cymru y mis hwn.

"Dyw e ddim yn ystyried lles tymor hir y gymuned."

Mae Ymddiriedolaeth Ysbyty Felindre yn dadlau y byddan nhw'n arbed arian wrth ddefnyddio safle sy'n eiddo i'r bwrdd iechyd lleol.

Maen nhw hefyd wedi dweud y bydd dal modd i bobl ddefnyddio'r caeau.