Covid-19: 200 o achosion bellach yn ffatri 2 Sisters M么n
- Cyhoeddwyd
Mae cyfanswm yr achosion o Covid-19 yn ffatri brosesu bwyd 2 Sisters ar Ynys M么n wedi cynyddu i 200.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod hyn yn dilyn rhaglen o sgrinio cyflym dros y penwythnos, ac a fydd yn parhau gydol yr wythnos hon.
Mae'r ffigwr yn cynnwys dau achos newydd ynghyd 芒 26 o achosion blaenorol sydd wedi eu cadarnhau drwy'r system brofi gartref.
Cafodd dros 450 o samplau eu cymryd hyd yma, ac fe ddywed ICC bod y cynnydd fel yr oedden nhw'n disgwyl wrth weithredu rhaglen profi ac olrhain manwl, ac nad yw hyn yn golygu bod ymlediad o'r haint yn cynyddu.
Daeth i'r amlwg hefyd bod clwstwr o achosion eraill wedi eu darganfod mewn ffatri brosesu cig ym Merthyr Tudful.
Dywed y Gweinidog Iechyd fod yr achosion mewn tri safle ar draws Cymru yn atgyfnerthu'r angen i ddilyn y rheolau yngl欧n 芒 phellter cymdeithasol.
Mae clystyrau o'r feirws wedi bod mewn dau leoliad arall tebyg - sef Ynys M么n a Wrecsam yn y dyddiau diwethaf.
Ond mae'r achosion wedi bod yn llai ym Merthyr - 34 achos sydd wedi eu cadarnhau yn ffatri Kepak ers 25 Ebrill.
Dywedodd Vaughan Gething yn ystod y gynhadledd newyddion dyddiol: "Mae wyth achos newydd wedi bod ers dechrau Mehefin. Mae chwech o bobl i ffwrdd o'r gwaith yn s芒l gyda coronafeirws.
"Mae yna ymchwiliad ar hyn o bryd i'r digwyddiad."
Ychwanegodd bod clystyrau mewn ffatr茂oedd cynhyrchu bwyd wedi eu gweld mewn gwledydd ar draws y byd, gyda phum clwstwr ar hyn o bryd dros y ffin yn Lloegr meddai.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar y sector cynhyrchu bwyd er mwyn gweld os oes angen gwneud mwy na dim ond rhoi canllawiau i'r diwydiant.
Mae'r feirws yn "ffynnu" meddai mewn awyrgylch oer, swnllyd lle mae pobl yn agos at ei gilydd ac yn goroesi yn hirach tu fewn ar arwynebedd esmwyth.
Ond does dim tystiolaeth bod coronafeirws yn goroesi ar fwyd, meddai.
Wrth ddweud bod cynhyrchwyr bwyd yn "gyffredinol dda" am gadw at y rheolau sydd yn eu lle yn y gweithle dywedodd hefyd bod yna broblemau.
"Rydyn ni hefyd yn gwybod yn y sector brosesu cig, mae'r ffiniau proffid yn gallu bod yn gyfyng iawn.
Ddim yn lledaenu
"Mae nifer o bobl yn cael eu cyflogi ar gyflogau gweddol isel ac mae lefelau cyflog statudol pan yn s芒l yn gwneud i bobl deimlo fel nad oes ganddyn nhw ddewis, ond parhau i weithio pan maen nhw'n s芒l."
Does "dim tystiolaeth" bod coronafeirws wedi lledaenu yn y gymuned ar 么l yr achosion yn y ffatr茂oedd bwyd yn 2 Sisters, Llangefni ac Rowan Foods yn Wrecsam meddai'r Gweinidog Iechyd.
Erbyn hyn mae 70 o achosion o'r feirws yn y ffatri yn Wrecsam.
Mae'r achosion i gyd, "yn cael eu cysylltu yn 么l gyda'r bobl sydd yn gweithio yn y ffatr茂oedd" ac mae cwymp wedi bod yn nifer yr achosion yng Nghymru yn gyffredinol meddai Vaughan Gething.
"Rydyn ni wedi gweld llai na 100 o achosion bob dydd yn wythnosau cyntaf Mehefin. Mae yna gynnydd wedi bod dros y penwythnos, sydd, mai'n debygol yn gysylltiedig gyda'r clystyrau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2020