大象传媒

Trafod deddfu i ddiogelu enwau Cymraeg ar dai

  • Cyhoeddwyd
Llan Tropez
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd un eiddo ym Mae Trearddur ym M么n ei ail-enwi'n Llan Tropez

Fe fydd un o Bwyllgorau Senedd Cymru'n trafod oes angen deddfu i gadw enwau Cymraeg ar dai - a hynny ar 么l i ddeiseb sy'n galw am hynny ddenu dros 7000 o lofnodion.

Gan i'r nifer groesi'r trothwy hollbwysig - 5,000 - mae'n ofynnol nawr i'r Pwyllgor Deisebau drafod yr alwad ac fe allai hynny arwain at drafodaeth yn y Senedd lawn.

Wythnos a hanner yn 么l fe gafodd yr enw ei newid ar un o dafarnau Brynaman. Y 'Tregib Arms' fu'r enw ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond erbyn hyn mae enw newydd - 'Pit Wheel'.

Dydy hynny ddim yn newid sydd wrth fodd y Cyn Brif Weinidog Carwyn Jones, sydd 芒 chysylltiadau teuluol a'r ardal.

"Fel rhywun sydd 芒 chysylltiadau mawr a'r pentre... roedd hynny'n siom i mi mae'n rhaid i fi ddweud, achos yn y dafarn yna y sefydlwyd undeb glowyr y glo caled cynta, a hefyd enw Cymraeg - dwi'n meddwl bod rhaid i'r perchnogion ailfeddwl er mwyn sicrhau bod diwylliant yr ardal yn cael ei barchu."

Disgrifiad,

Trafod deddfu i ddiogelu enwau Cymraeg

Fe fu'r cyflwynydd Tudur Owen yn dadlau dros gadw enwau Cymraeg ar un o raglenni 大象传媒 Cymru, Wales Live, ac fe gafodd y ddeiseb - sy'n rhoi'r pwyslais yn benodol ar atal newid enwau Cymraeg ar dai - ei sefydlu gan Robin Aled Davies.

"Mae o'n etifeddiaeth," meddai. "Mae o'n hanes, mae o'n gwneud ein gwlad ni'n wahanol, mae o'n gwneud be sy'n arbennig i Gymru - fel arall, waeth i ni alw y lle'n Lloegr ddim."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tafarn y Tregib Arms - cyn iddi newid ei henw

Eto i gyd, ym Mrynaman, fe bwysleisiodd perchennog y dafarn, Robert Megson, nad oedd neb wedi cwyno wrtho am newid yr enw i 'Pit Wheel' o gwbl.

"Y rheswm dros newid oedd i roi gwedd fodern ar y lle. Wrth gyfeirio at olwyn pwll, rydan ni'n cadw thema'r glowyr. Mae tystysgrif Undeb y Glowyr yn dal i fod ar y wal, ac mae llusernau'r glowyr yn dal i gael eu defnyddio fel goleuadau.

"Doedd dim byd yn bod ar yr hen enw, ond doedd ganddo ddim yr elfen fodern oedd ei hangen arnon ni wrth fwrw mlaen."

Mae cyflwynydd rhaglen prif newyddion y 大象传媒, Huw Edwards, wedi cael ei feirniadu gan yr AS Llafur yn y Rhondda, Chris Bryant, am leisio ei farn ar y pwnc. Dywedodd y darlledwr o Lanelli ei fod yn sefyll dros ei dreftadaeth ddiwylliannol ar adeg pan y dylai diwylliannau lleiafrifol gael eu parchu.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Huw Edwards

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Huw Edwards

Mi fydd o'n destun trafod i aelodau'r Senedd maes o law - pa mor Gymreigaidd ddylai'r enwau ddal i fod, ar dir Cymru.