大象传媒

Gwersi offerynnol ar-lein: Osgoi rhoi'r ffidil yn y to

  • Cyhoeddwyd
Dylan Cernyw
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r telynor Dylan Cernyw'n rhoi gwersi o'i gartref gan fod hi'n amhosib teithio i'r ysgolion ar hyn o bryd

Mae dysgu ar-lein bellach yn rhan o'r hyn sy'n cael ei alw'n "normal newydd" ac yn y gogledd ddwyrain mae 'na gynllun ar waith i sicrhau nad ydy gwersi offerynnol yn cael eu hanghofio.

Ers rhai wythnosau bellach mae athrawon wedi bod yn dysgu offerynnau fel y delyn a'r piano ar lein, gyda'r gobaith na fydd disgyblion yn colli gafael ar y grefft.

Yn 么l un disgybl mae'r gwersi dros gyfrwng Zoom a Skype wedi ei "helpu hi'n fawr" wrth baratoi at arholiadau.

Wrth i sgil-effeithiau'r pandemig barhau, y gred ydi y bydd gwersi tebyg yn cael eu cynnal am rai misoedd i ddod.

Cadw'r drefn i fynd

Mae'r cerddor ac athro telyn adnabyddus Dylan Cernyw wedi arfer teithio i ysgolion y gogledd yn rhoi gwersi ond mae o bellach yn gwneud hynny o'i gartref ym Mae Colwyn.

"Mae o'n cadw ryw fath o drefn i'r plant ond i ni hefyd - 'dan ni'n cadw cysylltiad," meddai.

"Cyn hyn wrth gwrs mi oedd 'na arholiadau, ond 'dan ni wedi gorfod canslo... nesh i ohirio tua 15 arholiad telyn.

"Maen nhw dal yn cael ymarfer, ond pryd cawn ni fynd n么l i'r ysgol? Dwi ddim yn si诺r."

Yn 么l Dylan Cernyw, mae cadw cysylltiad gyda disgyblion wedi bod yn fendith ac yn sicrhau nad ydy disgyblion yn colli diddordeb.

"Ma'i mor hawdd yr oedran yna... colli diddordeb ac wedyn 'da chi'n cychwyn n么l yn y dechrau ym mis Medi, os nad mis Ionawr."

Mae'r telynor bellach yn dysgu degau o blant a phobl ifanc ar y we, ac yn 么l un disgybl, mae'r gwersi wedi bod yn fuddiol tu hwnt.

"Mae'r gwersi wedi bod yn help mawr," meddai Branwen Jones, disgybl yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun.

"Maen nhw'n neis i dorri'r wythnos fyny ac yn rhywbeth i edrych ymlaen atyn nhw," meddai.

"Dwi'n gallu neud yr un un pethau fel taswn i yn yr un ystafell."

Bwriad y gwasanaeth sy'n cael ei gynnig gan gwmni Cerdd Cydweithredol Gogledd Cymru yw sicrhau nad yw disgyblion nac athrawon ar eu colled yn ystod y pandemig.

Yn 么l un o gyfarwyddwyr y fenter, Aled Williams, mae'n debygol y bydd dysgu ar-lein fel hyn yn gyffredin am sbel i ddod.

"Dwi'n credu bydd rhaid i'r gwasanaeth yma fod fel mae o am sbel eto, gan dwi'm yn meddwl y cawn ni fynd n么l i'r ysgolion yr un amser mae'r pl芒nt yn mynd n么l".

"Mae hyfforddiant cerddorol yn bwysig iawn i iechyd meddwl disgyblion a hefyd y cysondeb o gario 'mlaen efo'r offeryn yna," meddai Mr Williams.

Gyda'r bydd celfyddydol yn wynebu colledion enbyd o achos y feirws y gobaith yw y bydd y cynllun yma yn diogelu dawn y dyfodol.