Rhannu r么l Prif Weinidog Cymru rhwng y pleidiau?
- Cyhoeddwyd
Gallai pleidiau gwleidyddol ystyried trefn newydd i r么l Prif Weinidog Cymru yn dilyn etholiadau nesa'r Senedd, yn 么l arbenigwr.
Daeth sylwadau'r Athro Roger Awan-Scully wedi i bleidiau yn Iwerddon gytuno ar drefn lle bydd r么l y Taoiseach - prif weinidog y wlad - yn cael ei rhannu rhwng gwahanol bleidiau.
Bum mis wedi'r etholiad cyffredinol yno, cyhoeddwyd mai Miche谩l Martin, arweinydd plaid Fianna F谩il fydd yn cyflawni'r swydd tan fis Rhagfyr 2022. Yna, tro Leo Varadkar o Fine Gael fydd hi.
Mae'r Blaid Werdd hefyd yn rhan o'r cytundeb, a bydd gan y dair plaid weinidogion yn y cabinet drwy gydol cyfnod y senedd.
Gan nad oes un plaid wedi sicrhau mwyafrif ym Mae Caerdydd, a gyda'r polau piniwn yn awgrymu senedd grog arall ym mis Mai, tybed a welwn ni drefn debyg yma?
Y rhifyddeg yn allweddol
"Bydd y rhifyddeg yn penderfynu llawer o'r hyn fydd yn digwydd ar 么l yr etholiad ym mis Mai," meddai'r Athro Roger Awan-Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.
"Os gwelwn ni un blaid yn agos iawn at fwyafrif yna mae hynny'n gyd-destun gwahanol iawn i sefyllfa lle mae gennych chi dair plaid gyda tua 20 sedd yr un.
"Yn yr ail sefyllfa, dwi'n credu y bydd pob math o ffyrdd traddodiadol o drafod clymbleidio, a gallech chi weld y pleidiau'n meddwl yn greadigol ac yn gwthio i gael rhai swyddi gweinidogol allweddol, neu efallai y gwelwn ni'r posibilrwydd o drefniant lle bydd cyfnewid rhai swyddi'n digwydd, hanner ffordd drwy dymor y Senedd gan gynnwys r么l allweddol y Prif Weinidog."
Tra'n siarad ar raglen deledu'r 大象传媒, Politics Wales, dywedodd yr Athro Awan-Scully mai bendith y math yna o drefniant yw na fyddai'r un o'r pleidiau'n cael ei gweld fel y partner iau mewn clymblaid.
"Rydym wedi gweld yn hanes y DU nad yw'n ymddangos bod y partner iau mewn clymblaid yn ennill rhyw lawer o bleidleisiau pan ddaw'r etholiad nesaf.
"Mae'r drefn o gylchdroi'r swydd yn rhoi cyfle i'r ddwy blaid gael sylw, cyfnod lle maen nhw'n cael eu gweld yn arwain y llywodraeth, pan mae eu person hwy yn r么l y Prif Weinidog, ac efallai fod hynny'n ffordd o ddod dros rhai o'r pryderon sydd gan bleidiau yngl欧n 芒 ffurfio clymblaid."
'Ni ellir diystyru'r syniad'
Mae Jo Kiernan wedi gweithio fel ymgynghorydd arbennig i'r Prif Weinidogion Llafur, Carwyn Jones a Rhodri Morgan.聽Fe chwaraeodd ran yn nhrafodaethau'r glymblaid efo Plaid Cymru 2007 hefyd.
Erbyn hyn mae hi'n gweithio fel ymgynghorydd gwleidyddol, ac er nad yw'n credu mai system o 'gylchdroi' prif weinidogion fydd y canlyniad mwyaf tebygol, mae'n dweud na allwn ddiystyru unrhyw beth.
"Bydd llawer o sefyllfaoedd yn cael eu cyflwyno, ac efallai y bydd hwn yn un ohonyn nhw, neu efallai ddim.
"Dwi wedi clywed Plaid Cymru'n dweud nad ydyn nhw eisiau mynd i glymblaid ffurfiol gyda neb achos eu bod yn credu y gallai hynny fod yn niweidiol iddyn nhw.
"Ond yn y diwedd canlyniadau'r noson fydd yn penderfynu - beth fydd ffigyrau Llafur, a sut fydd ffigyrau'r Toriaid a'r Blaid yn edrych o gael eu cyfuno?
"Fedrwch chi ddim diystyru unrhyw beth."
Yn ogystal 芒 rhifau, dywed Ms Kiernan y bydd personoliaethau ac ymddiriedaeth yn ffactorau allweddol hefyd, cyn ystyried unrhyw gytundeb.
"Pan edrychaf yn 么l i'r trefniant clymbleidio yn 2007 rhwng Rhodri Morgan ac Ieuan Wyn Jones, roedd y ddau'n adnabod ei gilydd, roedd y ddau yn gyn-Aelodau Seneddol, roedden nhw'n hoff o'i gilydd ac roedd ganddynt barch at ei gilydd.
"Ac mae'r gallu i aros yn c诺l yn bwysig iawn ar adegau anodd - y ffaith y gallan nhw ddelio ag argyfwng mewn ffordd dawel a phwyllog yn hytrach na gweiddi ar ei gilydd ac anghytuno.
"Os meddyliwch chi am y cam nesaf, sef y drefn o gylchdroi'r brif weinidogaeth, bydd angen hyd yn oed fwy o ymddiriedaeth, achos ta pwy sy'n mynd gyntaf - ac fe fyddai hynny'n cael ei benderfynu drwy drafod - bydd rhaid i'r partner arall fod yn hollol sicr, ac yn ymddiried yn llwyr na fydd y blaid sy'n mynd gyntaf yn ffugio stori neu'n dyfeisio rhyw fath o ffrae hanner ffordd drwy'r ail dymor er mwyn tynnu sylw ati'i hun a threulio ychydig o amser yn chwarae rhan yr wrthblaid cyn yr etholiadau nesaf."
Mae'r tair prif blaid yn dweud nad ydynt wedi meddwl am unrhyw gynlluniau clymbleidio, ond o ddilyn canlyniadau'r gorffennol, mae'n ymddangos yn anorfod y bydd rhaid cael cytundeb o rhyw fath ar 么l yr etholiad.
Mae modd gweld y rhaglen yn llawn yma.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2015
- Cyhoeddwyd17 Medi 2013