´óÏó´«Ã½

Y Diflaniad: Beth ddigwyddodd i Stanislaw Sykut?

  • Cyhoeddwyd

Stori am ddyn wnaeth ddiflannu o bentre' bach Cwmdu yn 1953. Stori wnaeth greu hanes cyfreithiol a hawlio'r penawdau mewn papurau newydd ar draws y byd.

Ac mae'r stori, am Bwyliad o'r enw Stanislaw Sykut, yn cael ei ddatgelu mewn podlediad newydd gan ´óÏó´«Ã½ Cymru. Yma mae Ioan Wyn Evans, cyflwynydd a chynhyrchydd Y Diflaniad, yn sôn am ei siwrne i fynd at wraidd yr hanes.

Mae'n rhyfedd sut mae stori wnaeth rhywun ei chlywed fel plentyn yn aros yn y cof.

Tua wyth neu naw oed oeddwn i pan glywais i gynta' am hanes diflaniad dyn o bentre' bach Cwmdu yn sir Gaerfyrddin. Fy mamgu wnaeth adrodd y stori wrtha i.

Hanes Pwyliad o'r enw Stanislaw Sykut wnaeth ddiflannu yn 1953. Er fod hyn wedi digwydd ryw chwarter canrif cyn i fi glywed yr hanes, roedd rhywbeth am y stori wnaeth lwyddo i fy nghyfareddu.

Ffynhonnell y llun, Ioan Wyn Evans
Disgrifiad o’r llun,

Llun priodas Stanislaw Sykut a'i wraig

Roedd cymaint o haenau iddi. Er fod Sykut wedi diflannu chafodd ei gorff fyth mo'i ganfod, er gwaetha' chwilio dyfal gan yr heddlu. Ymhell cyn oes newyddion 24 awr, fe wnaeth y dirgelwch hawlio'r penawdau mewn papurau newydd ar draws y byd.

Ffynhonnell y llun, Western Mail
Disgrifiad o’r llun,

Y chwilio am Stanislaw Sykut (llun papur newydd)

Ac fe wnaeth y stori greu hanes cyfreithiol. Gyda dedfrydu partner busnes Stanislaw Sykut i farwolaeth - Pwyliad arall o'r enw Michal Onufrejczyk - dyma'r tro cynta' mewn 300 mlynedd i rywun gael ei ffeindio'n euog o lofruddiaeth heb ganfod corff.

Dros y blynyddoedd - ar wahanol adegau - mae'r hanes wedi cael sylw yn y wasg ac ar y cyfryngau. A bron yn ddi-ffael roedd enw un dyn yn cael ei grybwyll ymhob un erthygl neu eitem. Hywel Jones oedd hwnnw, a rhyw ddwy flynedd 'nôl, fe benderfynais i gysylltu gydag e am sgwrs.

Ffynhonnell y llun, Ioan Wyn Evans
Disgrifiad o’r llun,

Hywel Jones yng Nghwmdu

Ac yntau bellach yng nghanol ei 70au, mae Hywel wedi treulio'i oes yng Nghwmdu. Ei dad oedd gôf y pentre, a'r person ola' i weld Stanislaw Sykut cyn ei ddiflaniad yn Rhagfyr 1953. Mae Hywel yn siaradwr huawdl iawn, sy' wedi cadw degau o doriadau papur newydd am yr achos. Dros baned fe wnaeth e grynhoi'r hanes.

Roedd Michal Onufrejczyk wastad wedi mynnu nad oedd e wedi lladd Sykut. Roedd e wedi taeru fod ei bartner busnes wedi ei gipio un noson gan dri dyn oedd yn hanu o Wlad Pwyl, oedd wedi dod i'r ffermdy unig mewn car mawr tywyll.

Ffynhonnell y llun, Martin Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Michal Onufrejczyk ar ei fferm yng Nghwmdu

Er nad oedd y rheithgor yn ei goelio, roedd hi'n ymddangos fod yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Gwilym Lloyd George, ddim mor argyhoeddiedig o euogrwydd y Pwyliad. Ac, yng nghyfnod y Rhyfel Oer, roedd 'na gwestiynu a oedd hi'n bosib y gallai diflaniad Stanislaw Sykut fod yn gysylltiedig gyda gwasanaeth cudd dwyrain Ewrop, y tu ôl i'r Llen Haearn.

Ffynhonnell y llun, Western Mail
Disgrifiad o’r llun,

'Murder for sheer greed': Pennawd o'r Western Mail

Soniodd Hywel wrtha i hefyd am ddiflaniad dau Bwyliad arall ym Mhrydain yn ystod yr un cyfnod, un o Gwm Cynon ac un o ardal Bradford. Fel Stanislaw Sykut, doedd rheiny chwaith ddim wedi eu gweld fyth eto.

Ar ôl y sgwrs gyda Hywel roedd y cwestiynau'n troi yn fy mhen. Beth wnaeth ddigwydd i Stanislaw Sykut? Oedd e wedi ei lofruddio gan ei bartner busnes, neu a oedd rhywun arall wedi ei gipio?

Ac os oedd y stori am y tri dyn a'r car tywyll yn wir, a oedd posibilrwydd fod cysylltiad rhwng diflaniad Stanislaw Sykut a'r ddau Bwyliad arall yn yr un cyfnod?

'Byd cudd a thywyll'

Mae ceisio olrhain yr hanes hynod yma wedi mynd 'nôl â fi i oes nad o'n i'n gwybod llawer amdani. Yn gefndir ehangach i'r cyfan roedd cyfnod y Rhyfel Oer, a'r tensiynau rhwng Llywodraethau Prydain ac America a'r bloc comiwnyddol y tu ôl i'r Llen Haearn.

Byd o weithredoedd cudd a thywyll a honiadau am gysylltiadau gydag ysbïwyr.

Wedi dechrau yng Nghwmdu, cyn cyfnod y coronafeirws, fe aeth yr ymchwiliadau â fi ar daith i geisio darganfod mwy am y stori hynod yma. Yn nhre gyfagos Llandeilo roedd 'na hanesion gan ambell un oedd yn dal i gofio'r ddau Bwyliad fu'n byw yn yr ardal bron i saith degawd 'nôl.

Roedd angen sawl ymweliad â'r archifau papur newydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth - er mwyn casglu gwybodaeth am ymchwiliad yr heddlu a'r achos llys.

Gyda chymorth caredig y cyn-newyddiadurwr, Handel Jones, roedd modd defnyddio clipiau o gyfweliadau roedd e wedi eu recordio ar gyfer rhaglen radio yn 1976 gyda phlismyn - sy' bellach wedi marw - oedd yn allweddol i'r ymchwiliad.

Ac fe ddes i ar draws un cyn-blisman, sy'n dal yn fyw, fu'n gwarchod Michal Onufrejczyk yn ei gartref am fisoedd, cyn iddo fe gael ei gyhuddo o'r llofruddiaeth.

Ac wrth i'r stori ddatblygu, roedd 'na gyfweliadau gyda phobl o'r gymuned Bwylaidd yng Nghymru, ynghyd ag unigolion fyddai, gobeithio, yn gallu taflu rhywfaint o oleuni ar ddiflaniadau'r Pwyliaid eraill yng Nghwm Cynon a Swydd Efrog.

Ffynhonnell y llun, Ioan Wyn Evans
Disgrifiad o’r llun,

Ioan Wyn Evans yn Lublin

A phen draw'r daith oedd Gwlad Pwyl ei hun, a dinas Lublin, yn nwyrain y wlad. Mae Lublin yn ddinas draddodiadol ei naws, lle mae'r Eglwys Babyddol yn dal yn flaenllaw. Ond mae hefyd yn gartre' i bum prifysgol, a rhyw 20% o'r boblogaeth o tua 300,000 yn fyfyrwyr.

Yma hefyd mae cartre' Anna Resz - merch Stanislaw Sykut. Drwy gysylltu gydag ŵyr Anna - Sebastian - fe lwyddais i drefnu eu cyfweld.

Ffynhonnell y llun, Ioan Wyn Evans
Disgrifiad o’r llun,

Anna Resz yn edrych ar hen ddogfennau teuluol

Mae Anna bellach yn ei 80au. Dros y blynyddoedd mae wedi ceisio'n daer i gael mwy o wybodaeth am ddiflaniad ei thad. Yn ei fflat fechan ar gyrion Lublin - mewn bloc adeiladwyd mewn cyfnod pan oedd comiwnyddiaeth ar ei anterth - fe ges i groeso mawr ganddi hi a'i theulu.

Fe wnaethon ni siarad am oriau, a Sebastian yn cyfieithu. Soniodd hi am ei thad, ei fywyd, a'i barn hi am yr hyn mae hi'n meddwl wnaeth ddigwydd iddo fe.

Mae ei stori'n werth ei chlywed. Ond wna i ddim dweud mwy nawr. Bydd rhaid i chi wrando ar y podlediad.

Gwrandewch ar y podlediad Y Diflaniad.

Hefyd o ddiddordeb