大象传媒

Airbus: 1,435 o swyddi i fynd ym Mrychdyn, Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd
Airbus A350Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gweithwyr ym Mrychdyn yn adeiladu adenydd ar awyren Airbus A350

Mae cwmni Airbus wedi cadarnhau eu bod yn cael gwared ar 1,435 o swyddi yn eu safle yn Sir y Fflint.

Mae 295 yn rhagor o swyddi yn mynd yn safle'r cwmni yn Filton ger Bryste.

Bydd 15,000 o swyddi'r cwmni yn mynd drwy Ewrop, wrth i'r diwydiant awyrofod geisio delio gyda'r argyfwng coronafeirws.

Er hyn mae un o benaethiaid y cwmni yn Sir y Fflint wedi dweud ei fod yn "hyderus" bod dyfodol i'r safle.

Mewn llythyr at wleidyddion lleol sydd wedi cael ei weld gan 大象传媒 Cymru dywedodd y cwmni fod y cyhoeddiad yn "adlewyrchu'r effaith sylweddol y mae argyfwng Covid wedi'i chael ar weithgareddau gweithgynhyrchu masnachol y DU sydd wedi'u lleoli ym Mrychdyn".

"Mae Airbus, sy'n wynebu'r argyfwng byd-eang mwyaf difrifol yn hanes ein diwydiant, yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau dyfodol y cwmni. Effeithiwyd ar oddeutu 40% o'n busnes awyrennau masnachol," ychwanegodd.

Mae Airbus yn gobeithio y bydd mwyafrif y swyddi yn mynd drwy ddiswyddiadau gwirfoddol a staff yn ymddeol yn gynnar.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ffatri ym Mrychdyn yn adeiladu adenydd ar gyfer Airbus A380 - yr awyren i deithwyr fwyaf yn y byd

Er y cyhoeddiad, mae un o benaethiaid y safle yn Sir y Fflint wedi dweud ei fod yn "hyderus am ddyfodol" Brychdyn.

Dywedodd Paul McKinlay - un o is-lywyddion y ffatri - wrth 大象传媒 Cymru fod "perfformiad y gweithlu a'r ffatri yn rhoi'r safle mewn lle da i ddod allan o'r argyfwng".

Mae Airbus wedi buddsoddi 拢2bn yn ffatri Brychdyn dros y 15 mlynedd diwethaf.

Ond rhybuddiodd Mr McKinlay fod y diwydiant erioed wedi wynebu argyfwng fel coronafeirws, a tan i'r diwydiant wella, "mae'n mynd i fod yn gyfnod anodd".

'Gwaeth na'r disgwyl'

Yn 么l Eluned Morgan, y gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, roedd y newyddion yn "anodd iawn" ac yn "waeth na'r disgwyl."

Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru yn cydweithio gydag Airbus a'r undebau i wneud yn si诺r bod cefnogaeth ar gael i'r gweithwyr.

"Yn allweddol hefyd, byddwn yn cydweithio ac yn pwyso ar Lywodraeth y DU i neud yn si诺r ein bod yn gallu cael mwy o gefnogaeth benodol i'r sector."

Yn ystod cynhadledd dyddiol Llywodraeth Cymru ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni ddeall effaith hyn a'r cyfraniad mae'r cwmni yn ei wneud i economi ehangach Cymru hefyd.

"Yn amlwg mae hwn yn nifer llawer uwch nag oeddwn yn ofni ac wrth gwrs bydd hyn yn tanlinellu'r angen i sicrhau ein bod yn gweithio gyda phobl yn y ffatri ein bod yn gweithio gyda Airbus, ac yn gweithio gyda'r undebau."

'Dychrynllyd'

Dywedodd yr Aelod Senedd dros Ogledd Cymru, Llyr Gruffydd fod y colledion yn "fwy nag yr oeddwn i wedi'i ddisgwyl".

"Mae hyn yn newyddion dychrynllyd," meddai.

"Mae fy meddyliau gyda'r gweithwyr, eu teuluoedd a'r gymuned ym Mrychdyn. Rwy'n cyd-sefyll gyda nhw ac yn bwriadu gwneud popeth o fewn fy ngallu i'w cefnogi yn sgil yr ergyd ofnadwy hon.

"Rhaid i Lywodraethau Cymru a'r DU yn awr gamu i'r adwy a gwneud popeth posibl i gadw'r swyddi hyn ac eraill ar hyd y gadwyn gyflenwi."

Mae'r safle ym Mrychdyn yn cynhyrchu adenydd ar gyfer awyrennau'r cwmni ac yn cyflogi 6,000 o weithwyr.

Mae'r ffatri yno'n adeiladu adenydd ar gyfer Airbus A380 - awyren deithwyr fwya'r byd.