Ateb y Galw: Y gomed茂wraig Eleri Morgan
- Cyhoeddwyd
Dyma atebion dwys a doniol y gomed茂wraig Eleri Morgan i Ateb y Galw, ar 么l iddi gael ei henwebu gan Izzy Rabey yr wythnos diwethaf.
Mae Eleri yn cyfrannu'n rheolaidd at 大象传媒 SESH, Radio Cymru a Radio Wales ac mae wedi perfformio ei stand-yp mewn gigs ledled Cymru a gweddill y DU. Roedd hi hefyd yn chwarae rhan Gwen yn y gyfres 大象传媒 One Wales Tourist Trap.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Yn cwtsho Mam yn y gegin. Doeddwn i ddim yn ddigon tal i lapio fy mreichiau o amgylch ei phengliniau heblaw pe bawn i ar flaenau fy nhraed, ac mae hi'n 5"3 felly mae'n rhaid bod o amser hir yn 么l.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Rwy'n cofio rili ffansio'r bachgen oedd yn pysgota am berlau yn yr hysbyseb Santander. A Paul Merton. Eclectig.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
O dduw, peidiwch 芒 gwneud i mi ei deipio. Rwy'n dal i ddioddef o'i herwydd! Ond mae'r ail orau yn cynnwys stori amdanaf i'n llosgi'r geiriau BLACK LIVES MATTER ar ddamwain ar fy nghefn, a'r cylchgrawn Vice yn fy ngalw i yn air cas IAWN...
Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?
Ddoe. Lockdown bois!
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Na. Heblaw am y rage blackout, dwi'n angel.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Pentref Borth yng Ngheredigion. O'r pellter mae'n edrych fel tref sianti. Ac i fyny yn agos mae'n brydferth ac yn wallgof ac yn brysur ac yn heddychlon. Mae yna barlwr hufen i芒 sy'n gwerthu blas gwiwer a sinema sydd 芒 soffa. Ar un adeg roedd rhywbeth tebyg i sw. Mae yna goedwig hynafol ar y traeth. Ei gymydog yw Aberdyfi sef popeth 'dyw Borth ddim; cyfoethog, diflas a hollol ofnadwy.
O archif Ateb y Galw:
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Haf, 2007. Es i allan i gwrdd 芒 ffrind a oedd yn byw yn Berlin. Aethon ni allan a 'naethon ni beidio cysgu am dri diwrnod. Rwy'n cofio ar y pedwerydd bore fy mod i mor flinedig nes i ddechrau gweld pethau...
Actually, mae'n swnio'n ofnadwy yn tydi? Ar y pryd roeddwn i'n meddwl ei fod yn wych, ond ddim gymaint y dyddiau yma...
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Ymosodol a gwrthgyferbyniol.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Rasputin. Byddai ganddo lwyth o gossip.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Gyda llyfrau dwi'n dweud wrth bawb mai Midnight's Children yw e, ond Harry Potter ydy e. Gyda ffilmiau dwi'n dweud wrth bobl Am茅lie yw e, ond y ffilm Brad Pitt, Troy, ydy e.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Pin fi ydy: 0474.
Beth yw dy hoff g芒n?
Wonderwall. Lol, j么c. Mae Oasis yn uffernol.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Ga i amrywiaeth o gawsiau gwahanol ar gyfer y tri opsiwn? Gyda photel ddrud o win coch? Neu un rhad, gan na alla i ddweud y gwahaniaeth.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Heroin ac yna dial. Neu efallai dial yn gyntaf, heroin wedyn?
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Nid wy'n poeni pwy fyddwn i, ond bendant hoffwn i fod yn ddyn oherwydd byddwn i wrth fy modd yn cael pidyn am y dydd. Byddai bod yn rhywun enwog neu fedrus yn cael ei wastraffu arnaf oherwydd hyd yn oed pe bawn i'n Usain Bolt, byddwn yn treulio'r diwrnod yn noeth o flaen drych. Efallai chwaraewr p锚l-fasged, i weld sut beth yw bod yn dal iawn? Yna byddwn i'n treulio hanner y diwrnod yn noeth a hanner y dydd yn cerdded ambiti archfarchnad.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Dan Thomas