Ymchwiliad heddlu i 'dwyll ariannol posib' cyngor Maesteg
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad wedi dod i'r casgliad y gallai cyngor tref fod wedi colli cannoedd o filoedd o bunnoedd oherwydd camreoli ariannol.
Cafodd yr archwilwyr eu galw i ymchwilio i Gyngor Tref Maesteg yn gynharach eleni.
Mae'r Adroddiad Archwilio Mewnol a gafodd ei anfon at y cyngor yn nodi cyfres o bryderon gan gynnwys:
拢34,000 o wariant twyllodrus posib dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf;
Honiadau bod cyn-glerc y dref wedi ffugio anfonebau i wneud taliadau anghyfreithlon iddi hi ei hun;
Bod y cyngor wedi methu 芒 nodi'r problemau a gr毛wyd gan y cyn-glerc;
Bod Heddlu De Cymru wedi cael eu galw i ymchwilio i weithgareddau twyllodrus posib.
Fe wnaeth yr ymchwiliad ganfod nad oedd gwariant Treth Ar Werth wedi'i adennill ers blynyddoedd lawer - roedd yr unig dderbynneb a gafodd ei ddarganfod yn dyddio'n 么l i 2008.
Trethdalwyr 'wedi eu siomi'
Wrth ysgrifennu at y cyngor, dywedodd yr archwilydd mewnol GW Davies nad oedd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn caniat谩u i'r cyngor hawlio yn 么l unrhyw beth y tu hwnt i'r tair blynedd ariannol diwethaf.
"Mae'n debyg y gallai'r incwm sydd wedi cael ei golli i Gyngor Tref Maesteg fod yn gannoedd o filoedd o bunnoedd," meddai.
Mewn llythyr at glerc newydd y dref, dywedodd Mr Davies fod rheolaeth ariannol y cyngor wedi gwella ers mis Rhagfyr y llynedd a'u bod bellach yn cael eu cyflwyno'n iawn.
Dywedodd cynrychiolwyr gwleidyddol yr ardal, Huw Irranca-Davies AS (Cymru) a Chris Elmore AS (DU), mewn datganiad ar y cyd eu bod wedi eu syfrdanu gan yr adroddiad.
"Mae trigolion Maesteg yn gywir yn disgwyl i'r Cyngor Tref weithio'n ddi-baid ar eu rhan, ac i gyfrif am bob ceiniog a godir mewn trethiant lleol. Maent wedi cael eu siomi yn wael."
"Mae'r adroddiad yn rhestru cyfres o fethiannau trychinebus goruchwyliaeth ariannol a rheolaeth gyllidebol.
"Efallai bod cronfeydd sylweddol wedi cael eu colli i'r cyngor tref a thalwyr treth y cyngor lleol, ac rydym yn deall bod ymchwiliad yr heddlu i rai materion yn parhau."