Y rheng flaen gudd sy'n ffonio fel lladd nadroedd
- Cyhoeddwyd
Mewn swyddfa digon gyffredin ar stâd ddiwydiannol ym Mhontypŵl, mae tîm newydd sbon o weithwyr cyngor yn brysur wrth eu gwaith.
Maen nhw wedi dod o wahanol adrannau ar draws awdurdodau lleol Torfaen a Sir Fynwy i sefyll ar reng flaen y frwydr i drechu Covid-19.
"Mae gyda ni bobl o theatrau, ffermydd cymunedol, rhai sydd yn patrolio croesfannau ysgol - pobl sydd ddim fel arfer yn neud hyn fel eu gwaith bob dydd," meddai Jason Austin, un o arweinwyr y tîm olrhain.
"Mae wedi bod yn fedydd tân."
'Jig-so'
Mae achosion positif o'r coronafeirws yn cael eu trosglwyddo gan y canolfannau profi ar draws y rhanbarth i'r tîm yma iddyn nhw "roi'r darnau jig-so at ei gilydd", yng ngeiriau Jason.
Nhw sy'n gwneud y gwaith ditectif o weithio allan pwy allai fod wedi cael eu heintio ar ôl dod i gyswllt gydag unigolyn sydd â'r feirws.
Y dasg nesa' yw cysylltu gyda'r bobl yna a'u cefnogi nhw tra'u bod nhw'n hunan-ynysu.
Hyd at ddydd Mercher roedd y tîm wedi llwyddo i gysylltu â 222 o'r 225 o bobl roedden nhw'n ceisio eu holrhain - cyfradd o 99%.
Ar draws Cymru, yn ystod yr wythnos hyd at 27 Mehefin, 84% oedd y gyfradd llwyddiant.
Gwrando ar bobl
Ag yntau'n swyddog iechyd amgylcheddol yn Nhorfaen mae Jason wedi bod yn gwneud gwaith fel hyn ers 15 mlynedd.
"Mae'n ychydig o brawf ar y cof, a'r profiad dwi wedi cael gyda gwenwyn bwyd yw bod hi'n anodd iawn cofio beth chi wedi bwyta ychydig ddyddiau yn ôl, heb sôn am beth wnaethoch chi bythefnos yn ôl.
"Chi jest yn gwrando ar bobl, lle maen nhw wedi bod, y math o bobl maen nhw wedi bod mewn cysylltiad â nhw. A chi'n trio pigo'r prif bwyntiau a gofyn iddyn nhw, 'beth wnaethoch chi ar y diwrnod yma, aethoch chi am ginio, ydych chi wedi bod yn y gwaith, aethoch chi am egwyl goffi gyda rhywun, aethoch chi am egwyl i ysmygu gyda rhywun'…"
Wrth i Jason ddisgrifio'i waith, dwi'n cael fy atgoffa o'r ddrama ddiweddar, The Salisbury Poisonings, nes i wylio ar ´óÏó´«Ã½ iPlayer.
Mae'r gyfres yn ailadrodd hanes yr ymosodiad nwy nerfau angheuol a ddaeth â dinas Caersallog i stop yn 2018.
Yn benodol mae'r ddrama'n dilyn gwaith y cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus lleol, Tracy Daszkiewicz, wrth iddi geisio dod o hyd i ffynhonnell y gwenwyn.
"Mae'n anhygoel tydi!" yw'r waedd gan Melanie Smith, un o gydweithwyr Jason. "Nes i ei gwylio ddwywaith!"
Dirprwy reolwr fferm gymunedol yng Nghwmbrân yw Melanie, ond gyda'r safle ynghau am y tro mae hi'n un o'r rhai sydd wedi eu dewis i helpu gyda'r gwaith olrhain.
"Dwi wrth fy modd. Mae 'na dîm grêt o bobl ac rydyn ni yn g'neud rôl bwysig iawn fan hyn," meddai.
Gwaith Melanie fel cynghorwr cyswllt yw ffonio'r rhai allai fod wedi dod i gysylltiad â'r feirws a'u cynghori yn ystod yr 14 diwrnod fydd yn rhaid iddyn nhw hunan-ynysu.
Mae hi a'r gweithwyr eraill wedi cael sgript benodol i'w dilyn pan maen nhw ar y ffôn.
Tawelu gofidiau
"Dydyn ni ddim yn rhoi unrhyw wybodaeth o ran pwy sydd wedi cael prawf positif. Ni jest yn dweud bod y person wedi bod mewn cysylltiad gyda rhywun sydd wedi cael Covid-19 ac yna yn ceisio tawelu eu gofidiau a'u helpu i ymddiried ein bod ni yma i'w cefnogi ac i roi cyngor iddyn nhw.
"Ein prif rôl ni yw gwneud i'r cyhoedd ymddiried ynddo ni, gwneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio ac yn hunan-ynysu er mwyn helpu i gadw Cymru'n saff."
Gwyliwch rhag twyllwyr
Yn ddiweddar mae yna adroddiadau wedi bod o bobl yn twyllo ac yn esgus bod o dimau olrhain i geisio gwneud arian.
"Yr unig wybodaeth ni'n gofyn amdano yw eu dyddiad geni a'u cyfeiriad," meddai Melanie.
"Fydd y tîm go iawn ddim yn gofyn am wybodaeth bersonol fel manylion banc nac yn gofyn i unrhyw un lawrlwytho unrhyw ddolen neu ap.
"Dyna mae'r twyllwyr yn gwneud ac rydyn ni eisiau darbwyllo pobl."
Yn allweddol i lwyddiant unrhyw gynllun olrhain ydy'r gallu i ddarparu canlyniadau profion Covid-19 yn brydlon.
"Maen nhw'n dod yn ôl fel byddech chi'n disgwyl, o fewn diwrnod neu ddau... felly mae e i weld yn gweithio yn iawn," meddai Jason.
Ond mae ffigyrau gafodd eu cyhoeddi'r wythnos yma yn dangos, ar draws Cymru, dim ond 49.4% o ganlyniadau ddaeth yn ôl o fewn 24 awr yn ystod yr wythnos hyd at y 28ain o Fehefin.
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cydnabod bod angen "gwella" hynny.
Politics Wales, ´óÏó´«Ã½ 1 Cymru 10.15 y bore, dydd Sul 5 Gorffennaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2020