大象传媒

Methu targedau recriwtio athrawon am y pumed tro

  • Cyhoeddwyd
AthrawesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y bwlch recriwtio mwyaf yn achos darpar athrawon ysgol uwchradd

Cafodd targedau i recriwtio athrawon dan hyfforddiant eu methu am y bumed flwyddyn yn olynol, yn 么l y ffigyrau diweddaraf.

Mae pryder yn enwedig am y nifer fechan sydd wedi hyfforddi i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg medd un undeb athrawon.

Roedd Llywodraeth Cymru am weld 1,621 o fyfyrwyr newydd yn dechrau hyfforddi yn 2018.

Ond roedd y targed 600 o fyfyrwyr yn fyr, gyda 1,065 yn dechrau cwrs Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA).

Nifer swyddi gwag yn 'eithaf isel'

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod swyddi gwag athrawon yn parhau yn "eithaf isel," er nad oedd y llywodraeth "yn esgeulus," gan sylweddoli fod problemau recriwtio mewn rhai ardaloedd.

Yn 么l Ystadegau Cymru, roedd y bwlch recriwtio mwyaf yn achos darpar athrawon ysgol uwchradd.

Roedd targed o 851 o fyfyrwyr wedi ei osod ar gyfer y sector, ond dim ond 480 o fyfyrwyr ddechreuodd blwyddyn academaidd 2018-19 - sef bwlch o 44%.

Roedd y gyfradd recriwtio yn ostyngiad o 9% ar y flwyddyn flaenorol.

Tra bod nifer y darpar fyfyrwyr yn uwch, roedd bwlch o 22% ar gyfer y targed hwn hefyd.

Roedd Llywodraeth Cymru am weld 750 o unigolion yn hyfforddi ar gyfer y sector cynradd, ond dim ond 585 oedd wedi cofrestru.

Pryder undeb

Dywedodd Rebecca Williams, Is-ysgrifennydd Cyffredinol undeb athrawon UCAC: "Rydym yn hynod bryderus am y gostyngiad, flwyddyn ar 么l blwyddyn, yn nifer yr athrawon dan hyfforddiant.

"Rhan o'r broblem yw bod diffyg sylw wedi bod i gynllunio'r gweithlu dros nifer o flynyddoedd a hynny'n deillio o gyfnod pan oedd digon o athrawon yn y system, a digon yn dod drwodd o'r newydd.

"Nid yw hyn wedi bod yn wir ers blynyddoedd lawer, ac mae'r Llywodraeth wedi bod yn araf yn mynd i'r afael 芒'r goblygiadau.

"Mae yna broblem hefyd o ran canfyddiad o'r proffesiwn - yn seiliedig i raddau helaeth ar realiti - ynghylch lefel a natur y llwyth gwaith dan sylw. Mae gwir angen mynd i'r afael 芒 lefelau diangen o fiwrocratiaeth yn y system ysgolion.

Dywedodd yr undeb bod bylchau pryderus mewn recriwtio ar gyfer rhai pynciau yng Nghymru, gyda phryder cynyddol am ddarpariaeth addysg Gymraeg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dim ond 12 o bobl oedd wedi cymhwyso i ddysgu Cymraeg fel pwnc uwchradd yn 2018/19

Roedd ffigurau am 2018 yn dangos mai dim ond 75 o fyfyrwyr oedd wedi gwneud cais i hyfforddi er mwyn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector uwchradd.

Astudio dros y ffin

Mater arall sydd yn cael ei nodi yn yr adroddiad diweddaraf yw nifer y myfyrwyr sydd yn astudio i fod yn athrawon yn Lloegr, gyda ychydig dros 60% o fyfyrwyr o'r gogledd yn cofrestru ar gyrsiau dros Glawdd Offa.

Mae'r cymwysterau sydd eu hangen er mwyn dechrau cwrs yn Lloegr ychydig yn is - yng Nghymru mae angen o leiaf B neu radd TGAU cyfwerth mewn mathemateg, tra bod C yn ddigon yn Lloegr.

Ond dywed Ystadegau Cymru nad yw hyn yn golygu prinder athrawon yma yng Nghymru, gan fod "llawer yn dychwelyd i'w mamwlad i ddechrau dysgu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ar ddiwedd 2019 fe wnaethom gyhoeddi Cynllun Datblygu'r Gweithlu newydd sydd i'w groesawu'n eang i gefnogi addysgu, i ddenu a chadw unigolion o ansawdd uchel gan gynnwys athrawon cyfrwng Cymraeg.

"Mae ein rhaglenni AGA newydd yn cefnogi ac yn denu myfyrwyr i ddod yn athrawon yng Nghymru ac mae'n rhan o'n strategaeth i wella recriwtio a chadw athrawon."

Coronafeirws

Dywedodd swyddogion fod yr ymateb cychwynnol am recriwtio ar gyfer cyrsiau ym Medi 2020 wedi awgrymu nad oedd rhai pynciau, yn enwedig ym maes gwyddoniaeth, wedi eu heffeithio gan y pandemig coronafeirws, gyda nifer y ceisiadau'n cynyddu.

Dywed y llywodraeth hefyd fod sawl menter newydd wedi eu cyflwyno i hybu mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg i ddilyn gyrfa ym myd dysgu, yn enwedig yn y sector uwchradd.

Dadansoddiad - Bethan Lewis, Gohebydd Addysg:

Hyd yn oed cyn y ffigurau diweddara yma, roedd y methiant i gyrraedd y targedau eisoes wedi ei ddisgrifio fel sefyllfa oedd yn closio at argyfwng.

Mae'r data ar gyfer 2018/19 yn awgrymu bod y sefyllfa'n gwaethygu er gwaetha'r ymdrechion i ddenu mwy o bobol i ddysgu.

Mae'r ymdrechion yna wedi parhau a bydd rhaid aros tan y ffigurau nesaf i weld os yw newidiadau i gyrsiau ers Medi 2019 wedi gwneud gwahaniaeth.

Fe fydd y gostyngiad yn y rheini sy'n hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg - sy'n fwy serth na'r cwymp cyffredinol - yn arbennig o bryderus wrth i gwricwlwm newydd ysgolion Cymru ofyn am hybu sgiliau Cymraeg yr holl weithlu.

Fydd effaith yr argyfwng Coronafeirws ddim i'w weld ar y data am beth amser, ond mae'n codi sawl cwestiwn.

A fydd llai o fyfyrwyr dysgu yn cymryd eu llefydd ar gyrsiau ym mis Medi?

Neu allai r么l allweddol ysgolion ac athrawon yn yr argyfwng rhoi hwb newydd i broffesiwn sydd wedi gweld dirywiad mewn statws dros y degawdau diwethaf a'i wneud yn fwy atyniadol fel gyrfa?

Fe ddaw'r canfyddiadau diweddaraf yn dilyn cyfres o adolygiadau ar recriwtio a chadw athrawon yng Nghymru.

Mae panel ymgynghorol o arbenigwyr wedi'i sefydlu gan y gweinidog addysg Kirsty Williams, a rhai newidiadau sylfaenol o ran sut y gallai darpar athrawon gael mynediad i'r proffesiwn.

O eleni, mae myfyrwyr wedi gallu cofrestru gyda'r Brifysgol Agored ar gyfer cyrsiau hyfforddi mewn ysgol sy'n eu noddi, neu gymryd llwybr rhan-amser i'r ystafell ddosbarth.

Cyflwynwyd rhaglen newydd o hyfforddiant ym mis Medi y llynedd, gyda phartneriaethau prifysgol newydd yn cyflwyno'r cyrsiau, dan oruchwyliaeth Cyngor y Gweithlu Addysg.