Rheol '5 milltir' yn dod i ben: Cam diweddara'r llacio
- Cyhoeddwyd
Mae'r rheol i 'gadw yn lleol' wedi dod i ben ddydd Llun, wrth i Lywodraeth Cymru ystyried pa gyfyngiadau eraill sy'n gallu cael eu codi.
Bydd pobl yn cael teithio o fewn Cymru a'r tu allan o hyn ymlaen, ac mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn gofyn i bobl fydd yn ymweld â "chefn gwlad, traethau a mannau hardd Cymru i fod yn ddiogel".
Mae atyniadau ymwelwyr yn yr awyr agored hefyd wedi cael caniatâd i ailagor.
Bydd dwy aelwyd hefyd yn gallu aros gyda'i gilydd dan do a dros nos.
Daw'r llacio cyfyngiadau wrth i nifer yr achosion coronafeirws yng Nghymru barhau i ostwng.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ddydd Gwener diwethaf fe gadarnhaodd Parc Cenedlaethol Eryri y byddan nhw'n agor pob rhan o'r parc o ddydd Llun.
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi ailagor y mannau mynediad a'r llwybrau cyhoeddus.
Dywedodd prif weithredwr Awdurdod y Parc, Julian Atkins y dylai ymwelwyr gynllunio eu taith yn ofalus.
"Er bod y llwybrau cyhoeddus a'r mannau parcio ar agor, mae llawer o'r cyfleusterau sy'n gysylltiedig â nhw'n dal ar gau," meddai.
"Cofiwch, os ydych chi'n teimlo fod gormod o bobl yno, mae yna ormod o bobl yno. Byddwch â chynllun 'B' yn barod ar gyfer eich taith.
"Cofiwch ddilyn y côd cefn gwlad - parchu'r bobl, amddiffyn yr amgylchedd naturiol a mwynhau'r Parc Cenedlaethol yn ddiogel."
Nid yw Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi gwneud cyhoeddiad hyd yma.
Mae'r cyhoeddiad am lacio cyfyngiadau i atyniadau awyr agored yn cael ei ystyried fel cam arall tuag at ailagor y sector twristiaeth yng Nghymru ar 13 Gorffennaf.
Mae'r Llywodraeth yn pwysleisio y byddan nhw'n llacio rhywfaint yn rhagor ar y cyfyngiadau y diwrnod hwnnw ar yr amod bod niferoedd yr achosion positif o Covid-19 yn parhau i ostwng.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae pobl Cymru wedi gwneud cymaint dros y misoedd diwethaf i ddilyn y rheolau a lleihau lledaeniad coronafeirws ac rwy'n diolch iddyn nhw am eu hamynedd a'u dealltwriaeth. Rwy'n gofyn iddyn nhw barhau yn yr ysbryd hwnnw.
"Gwaetha'r modd, dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld canlyniadau diffyg parch rhai pobl at rannau o Gymru, gyda thorfeydd yn gadael eu sbwriel. Mae ymddygiad hunanol o'r fath yn anharddu'n mannau hardd ac yn peryglu pobl."
Angen bod yn gyfrifol
Ychwanegodd Mr Drakeford: "Nid yw coronafeirws wedi mynd ac er bod y dystiolaeth yn dangos bod y perygl yn llai yn yr awyr agored, mae'r risg yno o hyd. Mae eisiau felly inni barhau fod yn gyfrifol.
"Byddwch yn garedig wrth bobl leol a'ch cyd-ymwelwyr trwy barcio'n ystyriol, peidio â gadael unrhyw beth ar eich ôl a dilyn y Cod Cefn Gwlad newydd."
Yn y cyfamser fe gadarnhaodd un o Weinidogion y Llywodraeth y byddan nhw'n ystyried yr wythnos hon pa gyfyngiadau eraill y mae modd eu llacio.
Bydd y Cabinet yn cyfarfod ddydd Iau i gynnal eu hadolygiad diweddaraf o'r cyfyngiadau, cyn cyhoeddi unrhyw newidiadau ddydd Gwener.
Ar raglen Dewi Llwyd ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru fore Sul dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Iaith Gymraeg Eluned Morgan: "Mae gennym ni gyfle cyn dydd Gwener i weld beth arall y gallwn ni ei leddfu.
"Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos gydag eglwysi a chapeli - yn gofyn iddyn nhw lle bydden nhw'n gyffyrddus i agor.
"Maen nhw'n yn gwybod bod dyletswydd arnyn nhw i gadw pobl yn ddiogel felly dechreuon ni trwy ganiatáu gweddi unigol - ond wrth gwrs byddwn yn edrych dros yr ychydig ddyddiau nesaf i weld a oes cyfle i leddfu mwy ac i bobl ddod at ei gilydd.
"Mae'n un peth yn cael ei ystyried ar restr hir."
Ond fe wrthododd y Farwnes Morgan â chynnig dyddiad pendant ar gyfer pryd y byddai pobl yn cael caniatâd i ymweld â mwy o deulu a ffrindiau y tu mewn.
"Dydyn ni ddim wedi bod yn rhoi dyddiadau pryd y gallai pethau gael eu codi oherwydd rydyn ni eisiau gweld sut mae'r feirws yn ymateb i'r llacio.
"Rydyn ni'n mynd i'w gymryd yn araf. Mae'r feirws yn llai tebygol o ledaenu y tu allan a dyna pam rydyn ni'n canolbwyntio ar lacio cyfyngiadau y tu allan.
"Mae'r cyfan yn dibynnu ar sut mae pobl, a'r feirws yn ymateb i bob cam o lacio cyfyngiadau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2020