大象传媒

Llygredd aer yn 'fwy o fygythiad i iechyd na Covid-19'

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae lefelau llygredd traffig wedi gostwng yn ystod y cyfnod clo

Mae llygredd aer a newid hinsawdd yn fwy o fygythiad i iechyd y cyhoedd a'r economi na'r argyfwng Covid-19, rhybuddia rai o staff y GIG.

Mae'r 大象传媒 wedi gweld llythyr sydd wedi'i anfon ar ran cannoedd o weithwyr iechyd at Lywodraeth Cymru.

Mae'n galw am flaenoriaethu materion amgylcheddol fel rhan o 'adferiad iach' i'r pandemig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn dilyn targed uchelgeisiol o sicrhau fod y sector gyhoeddus yn garbon niwtral erbyn 2030.

'Bygythiadau mwyaf ein hoes'

Un o'r rhai sydd wedi arwyddo'r llythyr ydy Dr Farzad Saadat, cofrestrydd anesthetig yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

"Yr hyn rydyn ni'n ei ofyn yw bod y llywodraeth yn rhoi aer gl芒n, ynni gl芒n ac amgylchedd glanach wrth galon eu polis茂au ar gyfer y dyfodol," meddai Dr Saadat.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dr Farzad Saadat: 'Afiechydon yn fwy tebygol o ddod i'r amlwg wrth i ni ddinistrio'r byd naturiol.'

Mae Dr Saadat yn aelod o Rwydwaith Anesthesia Amgylcheddol Cymru, un o'r sefydliadau y tu 么l i'r llythyr.

Dros y 18 mis diwethaf, mae'r corff wedi gweithio gydag adrannau anesthetig ledled Cymru i dorri'n 么l ar allyriadau nwyon t欧 gwydr sy'n gysylltiedig 芒 rhoi triniaeth.

"Rydyn ni wedi llwyddo i leihau hynny (gyfwerth 芒) 130,00kg o CO2 y mis - sydd yr un fath 芒 hedfan i Efrog Newydd 130 o weithiau.

"Mae pob rhan arall o'r GIG hefyd yn edrych ar hyn oherwydd yr amgylchedd, llygredd aer, newid yn yr hinsawdd - y rhain fydd bygythiadau gofal iechyd mwyaf ein hoes, ac rwy'n cynnwys Covid-19 yn hynny.

"Mae tystiolaeth gynyddol, er enghraifft, bod llygredd aer yn ein gwneud yn fwy tebyg o ddal yr afiechyd ac yn ein gwneud yn fwy tebygol o ddiodde'n ddifrifol wael pe bydde ni'n ei ddal e.

"Mae tystiolaeth yn dod i'r fei hefyd bod afiechydon fel Covid-19 yn fwy tebygol o ddod i'r amlwg wrth i ni ddinistrio'r byd naturiol."

Ychwanegodd y fferyllydd Yasmina Hamdaoui, aelod o Gr诺p Gwyrdd Ysbyty Gwynedd - sydd hefyd wedi llofnodi'r llythyr, ei bod hi a'i chydweithwyr yn teimlo "yn gryf na fedrwn ni ddim anwybyddu'r modd y mae niwed i'r amgylchedd oherwydd ein ffordd ni o fyw yn effeithio ar ein hiechyd ni a'n cleifion."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhaid peidio dychwelyd i'r hen drefn, yn 么l Yasmina Hamdaoui

Gall llygredd waethygu neu achosi afiechydon cardiofasgwlaidd ac anadlu, esboniodd, gyda chysylltiadau posibl hefyd 芒 dementia a diabetes, yn ogystal 芒 phwysau geni isel mewn babanod a datblygiad ysgyfaint plant.

"'Da ni wedi gweld yn ystod Covid bod ganddyn ni'r gallu i neud newidiadau drastig pan fod isio i'n ffordd o fyw.

"A 'da ni angen dysgu o'r newidiadau hyn a pheidio jyst dychwelyd i'r hen arferion."

Mae'r llythyr wedi'i lofnodi hefyd gan ganghennau Cymru o fudiad Myfyrwyr Dros Iechyd Byd-eang a Chymdeithas Dermatoleg Prydain.

"Mi gafodd llythyr ei 'sgrifennu (yn ddiweddar) at wledydd y G20 yn annog arweinwyr y byd i gyd i feddwl am iechyd a'r amgylchedd wrth gynllunio i'r dyfodol," esboniodd Ms Hamdaoui.

"Cafodd ei lofnodi gan dros 350 o sefydliadau yn cynrychioli 40m o weithwyr iechyd o 90 o wahanol wledydd.

"Yn fwy lleol 'da ni nawr wedi ymuno efo grwpiau sy'n gweithio mewn gofal iechyd ar draws Cymru i ofyn i'n harweinwyr ni yn Llywodraeth Cymru i ymrwymo hefyd."

Beth yw gofynion y llythyr?

Mae'n galw am sicrhau bod ymgynghorwyr gwyddonol yn rhan o ddatblygu polisi economaidd yn dilyn y pandemig, fel bod effeithiau iechyd yn cael eu hystyried.

Mae'n dweud y dylid sicrhau mwy o lefydd i gerddwyr yn unig mewn dinasoedd a threfi, annog cerdded a beicio a chynyddu faint o anghenion ynni Cymru sy'n cael eu diwallu o ffynonellau adnewyddadwy.

Dylai busnesau lleol hefyd, yn 么l y llythyr, dderbyn cymorth ariannol i'w helpu i gwtogi ar y defnydd o ynni a gwastraff.

Mae'n tynnu sylw at ymchwil sy'n awgrymu bod ansawdd aer mewn rhannau o Gaerdydd ymhlith y gwaethaf yn y DU o ystyried maint y boblogaeth, yn ogystal 芒 data'r llywodraeth sy'n dangos mai Cymru sydd 芒'r lefelau uchaf o allyriadau CO2 y pen yn y DU.

"Dyw'n record ni hyd yma heb fod y gorau erioed," meddai Dr Saadat.

"Er fy mod yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn weithredol, y gwir amdani yw bod yn rhaid i ni wneud yn well - does gennym ni ddim dewis."

Beth yw'r ymateb?

Dywedodd Mathew Norman, o Asthma UK a Sefydliad Ysgyfaint Prydain yng Nghymru fod yr elusen yn cefnogi safiad y gweithwyr iechyd, gan alw ar y llywodraeth i gyflwyno Deddf Aer Gl芒n.

"Os allwn ni wella ansawdd aer, nid dim ond gwella iechyd y wlad a'n hamgylchedd fyddwn ni'n ei wneud ond helpu'r GIG hefyd."

Gallai'r argyfwng diweddar gyflymu'r broses o gyflwyno'r newidiadau sydd eu hangen, awgrymodd.

"Mae mwy ohono ni'm gweithio o adre, ry'n ni wedi gweld yng Nghaerdydd ac mewn mannau eraill fesurau i drawsnewid canol y ddinas, gan ddod 芒 seilwaith beicio a cherdded i strydoedd cyfan.

"Bydd hyn i gyd yn cyfyngu ar faint o lygredd ry'n ni'n ei ollwng i'r aer."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nia Griffith: 'Mae'r diffyg traffig a nwyon wedi bod yn hyfryd'

Mae gan Nia Griffith o Riwbeina, Caerdydd asthma ac mae'n dweud iddi sylwi newid mawr o ran ansawdd aer yn ystod y cyfnod clo.

"O'n i ddim yn meddwl y baswn i'n sylwi ond dwi wedi - mae'r diffyg traffig a nwyon wedi bod yn hyfryd.

"O'n i'n arfer cymryd pympiau asthma bob diwrnod ond dwi'm 'di cymryd nhw ers wythnosau r诺an ac mae hynny'n rili neis."

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu cyfraniad gweithwyr yn y sector iechyd sy'n annog dulliau fydd yn amgylcheddol gyfeillgar wrth adfer yr economi ar 么l y pandemig.

"Rydym wedi ymroi i sicrhau adferiad gwyrdd ac a fydd yn un cyfiawn yn gymdeithasol, gan arwain at genedl fwy iachus a chyfartal.

"Fe fydd adferiad o'r fath yn golygu gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru," meddai'r llefarydd.

"Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes yn chwarae eu rhan, gan ffurfio panel i gynghori ar yr adferiad, ac wrth sefydlu Cyngor Partneriaeth i Gymru rydym wedi gosod targed uchelgeisiol i geisio sicrhau sector gyhoeddus fydd yn garbon sero yng Nghymru erbyn 2030.

"Llygredd awyr yw'r bygythiad amgylcheddol mwyaf i iechyd cyhoeddus.

"Fe fyddwn yn cyhoeddi ein Cynllun Awyr Gl芒n i Gymru fis Awst, a bydd hyn yn adlewyrchu sut rydym yn bwriadu cyflawni ein hymroddiad i leihau allyriadau a sicrhau gwelliannau ar gyfer iechyd, yr amgylchedd naturiol, systemau eco a bioamrywiaeth."