Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyflwynydd S4C yn s么n am ei brofiad o hiliaeth
- Awdur, Aled Scourfield
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae cyflwynydd teledu o Rydaman wedi bod yn s么n am ei brofiadau o hiliaeth wrth i Gyngor Sir Gaerfyrddin bleidleisio o blaid derbyn pecyn o fesurau i fynd i'r afael 芒'r broblem.
Mae Ameer Davies-Rana yn wyneb adnabyddus ar wasanaeth Hansh S4C.
Mewn cyfweliad 芒'r rhaglen Newyddion, mae'n dweud iddo ddioddef hiliaeth yn rheolaidd yn yr ysgol, ar y cae rygbi ac ar strydoedd Caerfyrddin.
"Yn yr ysgol gynradd, roeddwn i'n sylweddoli fy mod i yn unig berson o liw," meddai.
"Pan es i ysgol uwchradd, dyna ble roedd y comments yn cael eu gwneud fel y p-word, yr n-word. Roedd comments am derfysgaeth.
"Doedd athrawon ddim yn gwybod beth i'w wneud, ac roedd hynny yn gwneud fi yn fwy trist achos roedd y bobl yma yn cael dweud beth oedden nhw eisiau.
"Ges i un sefyllfa rili wael n么l yng Nghaerfyrddin pryd o'n i ar y stryd, yn cerdded lawr yng nghanol dydd, ac roedd gr诺p o bobl jyst yn gweiddi'r N-word ac roedd e'n sioc fawr i fi.
"Roedd e' yng nghanol y dydd. Fe wnes i droi mewn i stryd arall a dechrau llefain."
Mae marwolaeth George Floyd a thwf y mudiad Black Lives Matter wedi ysgogi trafodaethau am briodoldeb cofebion, fel yr un i Syr Thomas Picton yng Nghaerfyrddin.
Mae'r obelisg anferth yn cofnodi marwolaeth y milwr ym mrwydr Waterloo, ond bu hefyd yn Llywodraethwr Ynys Trinidad, ac fe elwodd o'r diwydiant caethwasiaeth ar yr ynys.
Roedd hefyd yn gyfrifol am orchymyn i arteithio merch ddu 14 oed.
Mae nifer wedi galw am waredu'r gofeb ac enw Picton o strydoedd Caerfyrddin, barn sy'n cael ei rannu gan Ameer Davies-Rana.
"Ie, bydden i yn cael gwared 芒 fe, yn bendant, a rhoi enw Cymraeg arno," meddai.
Ddydd Mercher penderfynodd y cyngor yn unfrydol i dderbyn cynnig gan gr诺p Plaid Cymru yn galw am fabwysiadu cynllun gweithredu ar hiliaeth.
Roedd y cynnig yn cynnwys:
- "Gwneud datganiad clir a diamwys ei fod yn cas谩u hiliaeth, rhagfarn a gwahaniaethu o bob math - yn y gorffennol a'r presennol;
- "Cefnogi'r neges 'Mae Bywydau Du o Bwys' ac yn credu yn hawl dinasyddion i brotestio'n heddychlon mewn amgylchedd diogel;
- "Cydnabod pwysigrwydd cymunedau BAME yn ein sir ac yn ymrwymo i weithio gyda hwy, rydym yn anelu at addysgu, adnabod a dileu hiliaeth yn Sir Gaerfyrddin."
Roedd y cynnig hefyd yn galw am sefydlu gr诺p arbennig i wrando ar lais y cymunedau BAME ac i gasglu tystiolaeth er mwyn sicrhau bod eu "pryderon, eu hofnau a'u cynigion yn cael eu clywed yn llawn".
Roedd hefyd rhoi cyfarwyddyd i'r cyngor ymrwymo i weithio gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys "i fynd i'r afael 芒 hiliaeth, rhagfarn a gwahaniaethu o fewn y system farnwrol".
Byddai'r cyngor hefyd yn gweithio gyda'r ysgolion i gynnwys them芒u gwladychiaeth, cam-fanteisio, gwahaniaethu a hiliaeth yn y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.
Mae'n cynnig adolygiad o enwau strydoedd a henebion cyhoeddus, gan gynnwys yr un i Thomas Picton yng Nghaerfyrddin, ynghyd ag adroddiad ar eu priodoldeb heddiw.
Yn 么l y Cynghorydd Cefin Campbell, sydd yn gyfrifol am gydraddoldeb ar Fwrdd Gweithredol y Cyngor Sir, mae dyfodol cofeb Syr Thomas Picton wedi rhannu barn.
"Dwi'n derbyn bod enw Picton - o ran yr hanes erchyll iddo fe a'i berthynas 芒 chaethwasiaeth a chreulondeb i bobl ddu - yn atgas, ac mae'n rhaid i ni dderbyn hynny," meddai.
"Ond i lawer o bobl, a dwi wedi derbyn gohebiaeth yngl欧n 芒 hyn, mae e hefyd yn cael ei weld fel arwr ym mrwydr Waterloo yn erbyn Napoleon.
"Beth 'ni am wneud yw clywed barn y bobl a dod i gasgliad yngl欧n 芒 beth ddylen ni fod yn gwneud mewn ffordd gytbwys a rhesymol yngl欧n 芒'r gofeb."