'Angen llacio cyfyngiadau Covid-19 mewn carchardai'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder y gall parhau 芒 chyfyngiadau llym yng ngharchardai Cymru arwain at gynnydd mewn trosedd ac achosion o hunan niweidio, yn 么l y mudiad ymgyrchu.
Yn 么l y Prison Reform Trust mae angen i gyfyngiadau mewn carchardai gael eu llacio yn unol 芒 bywyd tu allan er mwyn osgoi drwg deimlad.
Yn 么l teulu un carcharor sydd wedi siarad gyda 大象传媒 Cymru, mae nifer o garcharorion yn gaeth i'w celloedd am fwy na 23 awr y dydd gan greu drwgdeimlad wrth i gyfyngiadau llacio ar y tu allan.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn y bydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio i rai carcharorion ond gallai hynny ddigwydd ar raddfa wahanol mewn carchardai gwahanol.
'Neb yn cadw 2m ar wahan'
Yn debyg i fywydau pawb mae bywyd yng ngharchardai Cymru wedi newid yn ddirfawr ond yn 么l un teulu o Wynedd sydd 芒 pherthynas yng ngharchar y Berwyn, mae 'na boeni am fesurau iechyd a diogelwch yno.
"Mae o'n horrible, does 'na ddim social distancing", meddai llefarydd ar ran y teulu.
"Mae o'n 'banged up' am 23 awr a hanner a ma'n cal mynd allan o 2-2.30 ac mae'n rhannu pad fo efo rhywun arall.
"Mae o'n poeni gan fod o efo asthma ac mae nhw yn cael o (Covid) a staff.
"Ti'n gweld y staff yn dod mewn, medda fo, maen nhw gyd efo'i gilydd, ddim yn two meters apart na'm byd fel 'na."
Yn 么l y teulu o Wynedd, mae clywed hanesion o'r carchar gan eu perthynas yn anodd iawn.
"Dwi'n trio cwffio iddo fo a dwi'n trio bod yn gryf iddo fo- mae o yn job."
Ychwanegodd y teulu fod y carcharor wedi dweud nad yw rhai swyddogion y carchar ddim chwaith yn gwisgo cyfarpar diogelwch chwaith.
Wrth ymateb i'r honiadau hyn fe ddywedodd llefarydd ar ran Carchar y Berwyn nad oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r honiadau a bod arbenigwyr iechyd wedi "clodfori staff carchardai am arbed bywydau a rhwystro lledaeniad y feirws".
Er hyn yn 么l adroddiad gan y Bwrdd Monitro Annibynnol - corff sy'n arolygu carchardai Cymru a Lloegr mae carcharorion mewn amryw garchar wedi nodi pryderon tebyg.
Mae'r bwrdd hefyd yn nodi fod y cyfyngiadau llym ar draws carchardai Cymru a Lloegr yn achosi drwgdeimlad ymysg carcharorion a bod rhai yn gaeth i'w celloedd am yn fwy na 23 awr.
Cyfran uwch gyda Covid-19
Un sydd wedi bod yn delio ag achos y teulu o Wynedd yw'r Aelod Seneddol dros Arfon, Hywel Williams.
"Yn annorfod gen i, os mae pobl yn y carchar ac yn troi mewn amgylchiadau tynn iawn iawn. Dydy o ddim i ryfeddu bod y gyfradd yn uwch," meddai.
"Mi wnes i holi am y PPE oedd ar gael a'u trefniadau ac eto mae nhw'n sicrhau eu bod nhw'n dilyn y canllawiau ac yn ll'nau yn iawn."
Yn 么l yr ystadegau diweddara gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder mae cyfraddau'r feirws wedi bod yn uwch yng ngharchardai Cymru o gymharu 芒 rhai Lloegr.
Mae 20% o'r holl achosion yng ngharchardai'r ddwy wlad wedi bod yng Nghymru er bod y wlad ond yn gartref i 6% o holl garcharorion.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod y mesurau llym wedi atal lledaeniad y feirws a'u bod yn gweithio at lacio'r cyfyngiadau er mwyn galluogi teuluoedd i ail ymweld 芒'u hanwyliaid.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd7 Awst 2019