´óÏó´«Ã½

Gŵyl AmGen: Beth sydd wedi ei ddatgelu hyd yma?

  • Cyhoeddwyd
Rhys Ifans ac Eadyth Crawford

Fyddwch chi'n gweld colli eich hoff ŵyl eleni?

Gall dim gymryd lle cymdeithasu a mwynhau ymysg torf o ffrindiau. Ond eleni mae digwyddiadau poblogaidd fel Gŵyl y Gelli, Tafwyl ac eraill wedi addasu a chynnig arlwy wahanol i'r arfer.

Gyda mis Awst yn agosáu, mae ´óÏó´«Ã½ Cymru a'r Eisteddfod yn bwriadu cynnal Gŵyl AmGen yn y cyfnod byddai'r Brifwyl wedi ymweld â Cheredigion.

Ond beth fydd yn digwydd yn ystod yr Å´yl AmGen? Dyma bopeth sydd wedi ei ddatgelu hyd yma...

Pryd a lle?

Mae sesiynau ar-lein amrywiol yn cael eu cynnal ar yn barod, ac ar wasanaeth Hansh S4C.

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi fideo facebook gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd fideo facebook gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Ar 30 Gorffennaf fe fydd Radio Cymru, Radio Cymru 2 a Cymru Fyw yn ymuno yn yr hwyl ar benwythnos gychwynol wreiddiol yr Eisteddfod yn Nhregaron

Beth?

Fe fydd y penwythnos yn ddathliad o'r gorau o ddiwylliant Cymru, gan adlewyrchu'r amrywiaeth o drafodaethau a pherfformiadau fyddai i'w disgwyl ar faes yr Eisteddfod.

Ar y dydd Gwener a'r dydd Sadwrn fe fydd amserlenni Radio Cymru wedi eu trawsnewid a chyflwynwyr yr orsaf yn ein tywys i bob cornel o'r maes rhithiol. Bydd yr arlwy yn cynnwys dramâu a chyngherddau yn ogystal â rhaglenni dogfen a cherddoriaeth.

Bydd Cymru Fyw yn rhannu cystadlaethau a pherfformiadau o'r archif ac yn cynnal trafodaethau difyr am bynciau amrywiol.

Bydd hefyd ambell i gystadleuaeth gan gynnwys:

  • Cystadleuaeth y Stôl Farddoniaeth a Chystadleuaeth y Stôl Ryddiaith

  • Albym y Flwyddyn

  • Dysgwyr yr Å´yl AmGen

Mae'r ´óÏó´«Ã½ hefyd yn cydweithio â Llenyddiaeth Cymru a'u partneriaid er mwyn cyhoeddi fel rhan o'r ŵyl.

Pwy?

Bydd yr ŵyl yn rhoi llwyfan i rai o gerddorion a llenorion amlycaf Cymru ac yn ein cyflwyno i ambell seren y dyfodol.

Llywyddion y Dydd fydd Seren Jones a Toda Ogunbanwo ac fe fydd y ddau yn annerch yr ŵyl yn ystod y penwythnos.

Disgrifiad o’r llun,

Toda Ogunbanwo, un o lywyddion yr ŵyl

Radio Cymru 2 fydd calon gerddorol yr ŵyl, â'r rhaglenni yn adlewyrchu amrywiaeth llwyfannau cerddorol yr Eisteddfod o'r Tŷ Gwerin i Maes B.

Bydd Eädyth Crawford yn cyflwyno'r gerddoriaeth sy'n ei hysbrydoli hi a'r actor byd enwog Rhys Ifans yn rhannu ei ddewis cerddorol tra'n trafod ei brofiadau yn ystod y cyfnod clo.

Bydd amserlen lawn yr ŵyl yn cael ei ddatgelu yn fuan.

Pam?

Bwriad yr ŵyl yw llenwi rhywfaint ar y bwlch ar ôl Eisteddfod Ceredigion a "rhoi llwyfan i oreuon y genedl".

Yn ôl Rhuanedd Richards, golygydd ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru a ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw: "Dyma gyfle gwych i ni allu dod at ein gilydd fel cenedl i ddathlu ein diwylliant a chreu gŵyl o'r newydd.

"Fe fydd hi'n Faes B, pafiliwn a phabell lên ond yn bennaf oll fe fydd yn ganolbwynt ac yn gyrchfan i wrandawyr o bob cwr o'r byd i ymgynnull a mwynhau arlwy o raglenni amrywiol o'r 'stafell fyw."

Hefyd o ddiddordeb